Gydangilydd.cymru
Abersychan Does dim ond un peth gwell na sefyll o flaen y ffenest a gwylio’r glaw yn pistyllio i lawr a’r ceir yn mynd heibio a’u weipars yn gweithio ffwl pelt. Dach chi’n gwybod yn iawn beth yw hynny dydach? Nag dach? Wel i wisgo’n gynnes o dan eich dillad dal-dŵr a mentro allan i chwilio am y lleill. A ble maen nhw’n debyg fod? Abersychan, ger Pontypŵl, dyna ble, ond doedd dim rhaid i mi boeni achos roedd Eirian yn mynd â fi'r holl ffordd, dim ond i mi gyrraedd Clydach mewn pryd. Trwy Gwm Nedd felly, cymylau tywyll i bob cyfeiriad, hynny yw heblaw am pan o’n ni’n disgyn i lawr tuag at Ferthyr a gweld bod y dref a’r cyrion mewn pwll o olau niwlog ond hudolus. Doedden ni ddim yn synnu wrth gwrs achos mae hyn yn hollol nodweddiadol o’r lle. Gyrru allan o’r cwm heibio’r coed palmwydd a dyna ni yn y niwl a’r tywydd garw unwaith eto. Mae gweld effaith yr haul yn codi’ch calon tydi? Cyrraedd y maes parcio yn Abersychan a gweld nid ni yw’r cyntaf, ond aros yn ein ceir ar wahân oedd orau. Cyn bo hir wnaeth Wil o Wokingham dynnu i mewn wrth ein hochr, chwarae teg iddo mae’n gwneud ymdrech fawr i fod efo ni. A phwy sydd yma rŵan yn sgipio’n ysgafn dan ymbarél tuag atom? Pwy arall ond Ena, person holl bwysig y bore yma achos hi fydd yn ein harwain. Mi wnaeth y munudau tic-tocio ymlaen at hanner awr wedi deg a neb arall wedi cyrraedd, felly chwech oedden ni, ond chwech dewr hefyd. Dros y ffordd, dros yr afon ac i fyny llwybr dan ddail ffawydd a’r lliw hyfryd yn sgleinio trwy’r gwlybaniaeth. Ar ôl dipyn o ddringo stopion ni i weld pen odyn galch, mwy am hynny mewn munud. Roedd rannau o’r llwybr dan gymaint o ddŵr roedden ni’n gorfod dewis naill nofio neu bicio ein ffordd ar yr ochrau. Roeddwn i’n gorfod canolbwyntio gormod i weld os oedd rywun wedi nofio. Erbyn hyn roedd pawb yn edrych fel eu bod nhw beth bynnag! Ond dyna ni, dyma beth sydd yn cadw ni’n hapus! Mae’r llwybr yn wastad rŵan ac Ena yn dweud wrthon ni i edrych trwy’r holl goed bedw i weld wal uchel y chwarel galchfaen tu draw. Dyma oedd y chwarel oedd yn bwydo’r odyn. Roedd calch yn rhan bwysig o’r broses gwneud haearn. Yn wir wrth edrych ar yr uchder ac ystyried y rhan enfawr roedden ni’n sefyll arno roedd yn dweud cyfrolau am faint y gwaith haearn yn ei hanterth. A phopeth yn dawel erbyn hyn. Cawsom y cyfle i gerdded ar lwybr byr er mwyn gweld y chwarel oddi uchod cyn mynd ymlaen ar hen drac y dramffordd. Hen goed ffawydd ar y ddwy ochr, eu boncyffion bron yn ddu yn y gwlybaniaeth. Mae’r goeden yma yn cadw ei ddail tan i ddail newydd y gwanwyn roi’r hwb derfynol iddyn nhw. Lliw hyfryd. Erbyn hyn dw i’n cadw fy nghamera o dan fy nghôt allan o gyrraedd y diferion sy’n disgyn o’r canghennau, mae’n anodd dweud os yw’r glaw wedi stopio neu beidio. Allan o’r coed rŵan ac ydi, mae hi dal yn bwrw glaw ond, dyna pam dyn ni yma. Does dim byd gwell na bod allan yn y glaw! O’n cwmpas ni mae golygfeydd gwych, dyn ni’n gwybod hynny achos mae Ena wedi dweud wrthon ni, ond am heddiw mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod ni’n gweld y niwl. Disgyn i lawr trwy’r coed rŵan, fy meddwl i’n bell i ffwrdd ac yn sydyn mae rhywbeth hir a byr efo côt felen lachar yn cerdded wrth fy nhraed. Bach yn rhy hwyr i weiddi “Ci ar dennyn!” wrth y lleill achos mae’r ci yn barod wedi tynnu ei feistr i ganol ein rhes. Cyrraedd pentref Snatchwood a chroesi dros yr afon i gerdded ar hyd y llwybr seiclo a oedd gynt yn drac reilffordd, a oedd, yn ei dro, yn gamlas. Yn amlwg yn yr ardal yma maen nhw wedi hen arfer ag ailgylchu (neu ri-seiclo!). Yn ôl at y ceir a’r unig bethau ar ôl i wneud rŵan yw bwyta ein brechdanau yn y ceir a rhoi diolch mawr i Ena am ddiwrnod hyfryd. Chi’n gweld mae pob taith, pa bynnag fath o dywydd sydd, yn bleserus. Dim ond i chi wisgo dillad addas. Diwrnod i’r dewrion! Geirfa Pistyllio - to pour Debyg fod – likely to be Cymylau tywyll – dark clouds Pwll o olau – a pool of light Niwlog – misty Hudolus – magical Coed palmwydd – palm trees Tywydd garw – bad weather Ar wahân – separately Dewr – brave Dail ffawydd – beech leaves Sgleinio – to shine Gwlybaniaeth – moisture Odyn galch – lime kiln Canolbwyntio – to concentrate Coed bedw – birch trees Chwarel galchfaen – limestone quarry Calch – lime Haearn – iron Ystyried – to consider Dweud cyfrolau – spoke volumes Yn ei hanterth – in its prime Llwybr byr – a short path Hen drac y dramffordd – the track of the old tramway Coed ffawydd – beech trees Boncyffion – tree trunks Canghennau – branches Diwrnod i'r dewrion – a day for the brave
Abersychan Does dim ond un peth gwell na sefyll o flaen y ffenest a gwylio’r glaw yn pistyllio i lawr a’r ceir yn mynd heibio a’u weipars yn gweithio ffwl pelt. Dach chi’n gwybod yn iawn beth yw hynny dydach? Nag dach? Wel i wisgo’n gynnes o dan eich dillad dal-dŵr a mentro allan i chwilio am y lleill. A ble maen nhw’n debyg fod? Abersychan, ger Pontypŵl, dyna ble, ond doedd dim rhaid i mi boeni achos roedd Eirian yn mynd â fi'r holl ffordd, dim ond i mi gyrraedd Clydach mewn pryd. Trwy Gwm Nedd felly, cymylau tywyll i bob cyfeiriad, hynny yw heblaw am pan o’n ni’n disgyn i lawr tuag at Ferthyr a gweld bod y dref a’r cyrion mewn pwll o olau niwlog ond hudolus. Doedden ni ddim yn synnu wrth gwrs achos mae hyn yn hollol nodweddiadol o’r lle. Gyrru allan o’r cwm heibio’r coed palmwydd a dyna ni yn y niwl a’r tywydd garw unwaith eto. Mae gweld effaith yr haul yn codi’ch calon tydi? Cyrraedd y maes parcio yn Abersychan a gweld nid ni yw’r cyntaf, ond aros yn ein ceir ar wahân oedd orau. Cyn bo hir wnaeth Wil o Wokingham dynnu i mewn wrth ein hochr, chwarae teg iddo mae’n gwneud ymdrech fawr i fod efo ni. A phwy sydd yma rŵan yn sgipio’n ysgafn dan ymbarél tuag atom? Pwy arall ond Ena, person holl bwysig y bore yma achos hi fydd yn ein harwain. Mi wnaeth y munudau tic-tocio ymlaen at hanner awr wedi deg a neb arall wedi cyrraedd, felly chwech oedden ni, ond chwech dewr hefyd. Dros y ffordd, dros yr afon ac i fyny llwybr dan ddail ffawydd a’r lliw hyfryd yn sgleinio trwy’r gwlybaniaeth. Ar ôl dipyn o ddringo stopion ni i weld pen odyn galch, mwy am hynny mewn munud. Roedd rannau o’r llwybr dan gymaint o ddŵr roedden ni’n gorfod dewis naill nofio neu bicio ein ffordd ar yr ochrau. Roeddwn i’n gorfod canolbwyntio gormod i weld os oedd rywun wedi nofio. Erbyn hyn roedd pawb yn edrych fel eu bod nhw beth bynnag! Ond dyna ni, dyma beth sydd yn cadw ni’n hapus! Mae’r llwybr yn wastad rŵan ac Ena yn dweud wrthon ni i edrych trwy’r holl goed bedw i weld wal uchel y chwarel galchfaen tu draw. Dyma oedd y chwarel oedd yn bwydo’r odyn. Roedd calch yn rhan bwysig o’r broses gwneud haearn. Yn wir wrth edrych ar yr uchder ac ystyried y rhan enfawr roedden ni’n sefyll arno roedd yn dweud cyfrolau am faint y gwaith haearn yn ei hanterth. A phopeth yn dawel erbyn hyn. Cawsom y cyfle i gerdded ar lwybr byr er mwyn gweld y chwarel oddi uchod cyn mynd ymlaen ar hen drac y dramffordd. Hen goed ffawydd ar y ddwy ochr, eu boncyffion bron yn ddu yn y gwlybaniaeth. Mae’r goeden yma yn cadw ei ddail tan i ddail newydd y gwanwyn roi’r hwb derfynol iddyn nhw. Lliw hyfryd. Erbyn hyn dw i’n cadw fy nghamera o dan fy nghôt allan o gyrraedd y diferion sy’n disgyn o’r canghennau, mae’n anodd dweud os yw’r glaw wedi stopio neu beidio. Allan o’r coed rŵan ac ydi, mae hi dal yn bwrw glaw ond, dyna pam dyn ni yma. Does dim byd gwell na bod allan yn y glaw! O’n cwmpas ni mae golygfeydd gwych, dyn ni’n gwybod hynny achos mae Ena wedi dweud wrthon ni, ond am heddiw mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod ni’n gweld y niwl. Disgyn i lawr trwy’r coed rŵan, fy meddwl i’n bell i ffwrdd ac yn sydyn mae rhywbeth hir a byr efo côt felen lachar yn cerdded wrth fy nhraed. Bach yn rhy hwyr i weiddi “Ci ar dennyn!” wrth y lleill achos mae’r ci yn barod wedi tynnu ei feistr i ganol ein rhes. Cyrraedd pentref Snatchwood a chroesi dros yr afon i gerdded ar hyd y llwybr seiclo a oedd gynt yn drac reilffordd, a oedd, yn ei dro, yn gamlas. Yn amlwg yn yr ardal yma maen nhw wedi hen arfer ag ailgylchu (neu ri- seiclo!). Yn ôl at y ceir a’r unig bethau ar ôl i wneud rŵan yw bwyta ein brechdanau yn y ceir a rhoi diolch mawr i Ena am ddiwrnod hyfryd. Chi’n gweld mae pob taith, pa bynnag fath o dywydd sydd, yn bleserus. Dim ond i chi wisgo dillad addas. Diwrnod i’r dewrion! Geirfa Pistyllio - to pour Debyg fod – likely to be Cymylau tywyll – dark clouds Pwll o olau – a pool of light Niwlog – misty Hudolus – magical Coed palmwydd – palm trees Tywydd garw – bad weather Ar wahân – separately Dewr – brave Dail ffawydd – beech leaves Sgleinio – to shine Gwlybaniaeth – moisture Odyn galch – lime kiln Canolbwyntio – to concentrate Coed bedw – birch trees Chwarel galchfaen – limestone quarry Calch – lime Haearn – iron Ystyried – to consider Dweud cyfrolau – spoke volumes Yn ei hanterth – in its prime Llwybr byr – a short path Hen drac y dramffordd – the track of the old tramway Coed ffawydd – beech trees Boncyffion – tree trunks Canghennau – branches Diwrnod i'r dewrion – a day for the brave