Gydangilydd.cymru
Allt yr Esgair Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd   ein   taith   dydd   Sadwrn   ar   Allt   yr   Esgair   uwchben   Talybont   ar   Wysg   a’r   siwrne   yn   mynd   â   ni   ar   yr A465   trwy   Gwm   Nedd   ac   wedyn   trwy   Benderyn,   pentref   sydd   yn   enwog   am   Dic   Penderyn,   arwr   terfysg Merthyr.    Ei    ddienyddiad    ym    1831    oedd    enedigaeth    y    faner    goch    sydd    hyd    heddiw    yn    cynrychioli cydymddibyniad   y   dosbarth   gweithiol   dros   y   byd   i   gyd.   Ond,   erbyn   hyn   mae   gan   Benderyn   reswm   arall   am fod   yn   enwog.   Cyferbyn   â’r   Ysgol   Gynradd   mae   distyllfa   chwisgi   o’r   un   enw,   cwmni   sydd   yn   ennill   clod   mawr am    ei    gynnyrch.    Blasus    dros    ben,    fel    dw    i    wedi    clywed!    Dros    y    comin    wedyn    a    bod    yn    ofalus    ac    yn wyliadwrus   achos   mae’r   defaid   a’r   ceffylau   yn   gweld   y   lle   fel   eu   gwlad   fach   ei   hunain   ac   ein   dyletswydd   ni   yw hi i’w hosgoi pryd bynnag maen nhw am groesi’r ffordd!  Roedd   tua   24   ohonom   ni   yn   barod   i   gerdded   a   Jeff   Davies   yn   esbonio’r   daith   a   rhoi   dipyn   o   hanes   yr ardal   i   ni   cyn   i   ni   gychwyn.   Er   iddo   ddweud   wrthon   ni   nad   oedd   llawer   o   ddringo   yn   amlwg   roedd   o’n   cyfeirio at    sut    bydd    pethau    unwaith    i    ni    gyrraedd    pen    Allt    yr    Esgair.    Beth    bynnag    wrth    i    ni    ddringo    roedd    y golygfeydd   tu   ôl   i   ni   yn   gwella   bob   tro   wnaethon   ni   aros   i   gael   ein   gwynt.   Ar   ôl   cyrraedd   pen   y   lôn   cawsom ein   gwobrwyo   gan   weld   carped   o   eirlysiau   yn   wyn   o   dan   hen   goed,   carped   reit   fawr   hefyd.   Ar   ôl   cael   y seibiant   yna   roedd   rhaid   dringo   eto   a’r   llwybr   yn   mynd   yn   igam   ogam   i   fyny   ochr   y   mynydd   cyn   cyrraedd   y ffordd   Rufeinig   a   oedd   yn   mynd   o’r   gaer   yn   Nhretŵr   i’r   gaer   yn   Aberhonddu.   Dyma   ni   yn   edrych   i   lawr   y llwybr   ac   wedyn   i   fyny’r   llwybr,   roedd   rhaid   cytuno   doedd   y   Rhufeiniaid   ddim   yn   hoffi   corneli!   Unwaith   i   ni werthfawrogi’r   ffaith   yna   wnaethon   ni   gael   y   teimlad   nad   oedden   ni   ar   ein   pen   ein   hunain   ond   nid   ysbryd   o’r hen   oes   oedd   hyn   ond   carw   oedd   wedi   dod   at   y   ffens   yn   y   gobaith   o   rannu   ein   cinio.   Wnaethon   ni   dipyn   o ffws   ohono   ond   doedd   neb   yn   fodlon   rhannu   bwyd,   wedi’r   cwbl   roedd   o’n   sefyll   yng   nghanol   cae   o   wair ysblennydd!   Roedd   y   dringo   bron   ar   ben   erbyn   hyn   ac   yn   fuan   iawn   roedden   ni’n   edrych   i   lawr   ar   bentref   Talybont ac   yn   edmygu’r   afon   Wysg   yn   troelli   yn   y   cwm.   Golygfeydd   i   bob   cyfeiriad   ond   y   gwynt   braidd   yn   fain   felly tynnu’r   zip   i   fyny   at   ein   genau   a’n   menig   ymlaen   oedd   y   peth   gorau.   Cyn   bo   hir   roedd   Llyn   Syfaddan   yn dechrau   dod   i’r   golwg,   tipyn   bach   mwy   wrth   i   ni   fynd   ymlaen   tan   i   gael   golygfa   gyflawn.   Yn   anffodus   erbyn hyn   roedd   y   tywydd   yn   dechrau   cau   i   mewn   ond   ar   ddiwrnod   clir   bydda   lawer   o   bosibiliadau   gwych.   A dyma’n lle cyfleus am bicnic. Cerdded   ar   draws   ochr   y   mynydd   rŵan   a   thrwy’r   coed   tan   i   ni   ddod   ar   draws   Tŵr   Paragon,   adfail erbyn   hyn.   Yn   ddiddorol   iawn   roedd   pedwar   ystafell,   pob   un   gyda   lle   tân   ond   dim   ond   un   simnai.   Caban hela   crand   oedd   hyn,   mwy   na   thebyg   wedi   ei   adeiladu   yng   nghanol   y   19eg   ganrif   gan   un   o   deuluoedd   mawr yr   amser.   Mae’n   adeilad   sydd   ar   gofrestr   Radd   II.   Dilyn   y   llwybr   trwy’r   coed   am   sbel   cyn   cyrraedd   y   lôn wreiddiol a cherdded i lawr at y ceir. Diolch   yn   fawr   i   Jeff   Davies   am   yr   holl   wybodaeth   yn   ystod   y   daith,   i   Derek   Brockway   am   gadw’r   glaw mân   i   ffwrdd   tan   i   ni   gyrraedd   y   ceir   ac   i’r   cerddwyr   i   gyd   am   eu   cwmni   da.   Edrych   ymlaen   at   y   daith   ym Mlaenafon dydd Sadwrn nesaf. Gorau   arf   gwirionedd   maen   nhw’n   dweud   ynte   felly   rhaid   i   mi   gyfaddef   bod   potel   o   chwisgi   Penderyn wedi   bod   wrth   fy   ochr   yr   holl   amser   i   mi   roi’r   adroddiad   yma   efo’i   gilydd.   Er   mwyn   amddiffyn   fy   hun   a   gaf   i ddweud mai dim ond er mwyn cael hanes Dic Penderyn roedd hyn. Mae’r hanes i gyd ar ochr y pecyn! Geirfa Arwr – hero Terfysg Merthyr – Merthyr riots Dienyddiad – Execution Genedigaeth – birth Baner coch – red flag Cynrychioli – to represent Cydymddibyniad – solidarity Distyllfa – distillery Gwyliadwrus – watchful Dyletswydd – duty Osgoi – to avoid Cael ein gwynt – get our breath back Gwobrwyo – to reward Igam ogam – zig-zag Ffordd Rufeinig – Roman road Caer – fort Ysbryd – ghost Carw – deer Edmygu – to admire Troelli – meander, to turn Main – thin, chilly Gennau – chins Llyn Syfaddan – Llangorse Lake Adfail – a ruin Simnai – chimney Caban hela crand – posh hunting lodge Mwy na thebyg – more than likely Ar gofrestr Radd II – grade II listed Gorau arf gwirionedd – honesty is the best policy Cyfaddef – to confess Amddiffyn fy hun – to defend myself