Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Y Bwystfil o’r Dwyrain
Y dyddiad yw’r 17eg Mawrth a neithiwr roedd y Cylch Cinio yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi, braidd yn hwyr dw i’n gwybod ond roeddem ni wedi cael ein taflu oddi ar ein hechel gan y Bwystfil o’r Dwyrain. Erbyn hyn mae pawb yn gwybod mai bwystfil honedig oedd o, rhyw gynllun gan Rwsia i rwystro ni rhag mwynhau ein dathliadau maen siŵr. Ar ôl yr holl ofnau pythefnos yn ôl roedd rhaid gohirio ein dathliadau ond dyna fo, mae’r pethau yma’n digwydd. Roedd hi’n noson llawn hwyl gydag Aled Sam, seren llwyfan sgrîn a weirles a hefyd colofnydd wythnosol yn y cylchgrawn Golwg yn ein diddanu gyda detholiadau o’i lyfr ‘Ac yn Olaf’. Roeddwn i braidd yn hwyr mynd i’r gwely ond, er hynny, roeddwn i lawr yn yr ystafell haul am chwarter i chwech yn darllen y papur. Tu allan roedd yr adar yng nghanol ymarfer eu gwahanol ganeuon er mwyn y cyngherddau mawr sydd ar fin dechrau. Y diwrnod gynt roeddwn i wedi bod tu allan efo recordydd digidol ac wedi llwyddo i gael recordiad eithaf da ond heddiw roedd gen i’r teimlad bod mwy o aelodau wedi troi i fyny. Sefais tu allan unwaith eto a phwyntio’r recordydd i gyfeiriad y fwyalchen, y prif ganwr, ond yn fuan iawn mi wnes i sylweddoli bod dipyn bach o awel ac mae awel yn effeithio ar y recordiad. I mewn unwaith eto er mwyn cael hosan i orchuddio’r meicroffon ond yn anffodus doedd y cynllun yna ddim yn effeithiol ac, i wneud pethau’n waeth roedd yr awel wedi datblygu i fod yn wynt oer. Rŵan mae'n rhaid i mi gyfaddef roeddwn i yn fy ngŵn llofft, dydw i ddim eisiau dweud mwy ‘na hynny. Dw i ddim am beintio darlun rhy glir rhag ofn eich cynhyrfu chi, mor fregus yr ydych chi. Es i yn ôl i’r tŷ ac es ymlaen i ddarllen y papur ond mewn dim o amser roeddwn i’n clywed bod y gwynt wedi codi eto a’r adar wedi rhoi’r gorau i’r canu. Welais i’r fwyalchen ar un o’r brigau yn trio’i orau i gadw gafael ar y brigyn a’i gynffon yn mynd i fyny ac i lawr er mwyn cadw cydbwysedd. Yn sydyn roedd ‘na hyrddiad go fawr ac roedd hynny yn ormod a ffwrdd â fo i ddiogelwch ei nyth. Y prynhawn yma mae gemau'r Chwe Gwlad ymlaen a Chymru yn chwarae yn erbyn Ffrainc felly os oes unrhyw siopa i’w wneud mae'n rhaid gwneud hynny'r bore yma. Roedd bwyd i brynu ond hefyd roeddwn i eisiau prynu ‘gaiters’ a chyn i’ch dychymyg rhedeg i ffwrdd â chi nid am ‘gaiters’ clerigaidd dw i’n son ond pethau i roi ar waelod y trowsus cerdded. Dw i wedi dechrau ffafrio Millets yn Llanelli yn ddiweddar felly es i i Lidl  yn gyntaf er mwyn bod mewn pryd i mi fod yn gwsmer cyntaf yn Millets. Roedd Lidl bron yn wag ac mewn dim roeddwn i’n aros wrth y til yn gwrando ar ryw ddynes yn dweud wrth y derbynnydd. “I’ve heard there’s a lot of snow in Ammanford, it’s on its way here. It’s going to be terrible, really terrible, we’d better all stock up. I’m telling you, you’ll see! It’s the Beast from the East!” Pryd mae pobl yn mynd i ddysgu bod rhaid cael sinigiaeth fydol weithiau yn enwedig pan mae rhywun yn rhagolygu’r tywydd? Erbyn hyn mae tair awr wedi mynd heibio a dim pluen o eira yn unman. Dw i’n meddwl bod pobl wrth ei boddau yn dweud y pethau gwirion yma. Ymlaen i Millets, parcio a cherdded tuag at y siop, mynd i mewn a chrwydro mewn cylch heb ddod o hyd i ‘gaiters’ yn unman, cyrraedd y ddesg talu, gwenu a dweud wrth y tri “I give up, can you tell me where the gaiters are?” Roedd dryswch ar ei hwynebau. “What are gaiters?” gofynnodd yr hogan. Ar ôl i mi esbonio deudodd hi “ Oh, you need Millets.” “Excuse me,” medda fi wedi drysu’n llwyr “Where am I?” “JD Sports” medda hi “Awfully sorry” medda fi a slincio drws nesaf yn llawn embaras. Ond roedd drws Millets ar gau, goleuadau tu fewn ond y bleindiau i lawr, erbyn hyn roedd hi’n chwarter wedi naw a phob siop arall ar agor. Wrth lwc mae ‘na siop Trespass yn agos felly es i yna, gweld y ‘gaiters’ yn syth ond roedden nhw wedi cael eu pacio yn fflat ac yn edrych fel bod dim ond un ‘gaiter’ yn y pac a thra o’n i yna yn syllu doth dyn ifanc a dweud “Can I help you, Sir?” Roedd y fath parch tuag ataf fi yn fy ngwir blesio i achos yn rhy aml y dyddiau hyn dw i’n cael fy ngalw yn “chum’, “pal”, “mate”, “friend”, “bro” a phethau eraill amharchus o’r fath yna. “Yes, there are two” medda fo “but we did have one once where there was only one in the pack”.  “I expect that would have been pinched by a one-legged shoplifter then.” medda fi. Deudodd o ddim byd. Dw i bron wedi gorffen y stori yma ac mae Anne wedi cyrraedd, allech chi ddyfalu beth yw’r peth cyntaf iddi ddweud wrtha i fi? “Hei, ti’n gwybod? Maen nhw wedi cael eira mawr yn Rhydaman?” Mi wnes i benderfynu mai’r peth gorau yw dweud dim!
Geirfa
Bwystfil o’r Dwyrain - Beast from the East Taflu oddi ar ein hechel - thrown off balance Honedig - alleged Mae’n siŵr - surely, to be sure Detholiadau - selections Cyngherddau - concerts Recordydd digidol - digital recorder Mwyalchen - blackbird Awel - breeze Hosan - sock Gorchuddio - to cover Cynllun - plan Effeithiol - effective Gŵn lloft - dressing gown
Mor fregus yr ydych chi - so fragile you are Mewn dim o amser - in no time Brig, brigau - branch, branches Cadw cydbwysedd - keep balance Hyrddiad - gust Dychymyg - imagination Rhedeg i ffwrdd - to run away Derbynnydd - cashier Sinigiaeth fydol - worldly cynicism Rhagolygu - to forecast Pluen o eira - flake of snow Yn unman - anywhere Dryswch - confusion Amharchus - disrespectful
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Y Bwystfil o’r Dwyrain
Y dyddiad yw’r 17eg Mawrth a neithiwr roedd y Cylch Cinio yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi, braidd yn hwyr dw i’n gwybod ond roeddem ni wedi cael ein taflu oddi ar ein hechel gan y Bwystfil o’r Dwyrain. Erbyn hyn mae pawb yn gwybod mai bwystfil honedig oedd o, rhyw gynllun gan Rwsia i rwystro ni rhag mwynhau ein dathliadau maen siŵr. Ar ôl yn holl ofnau pythefnos yn ôl roedd rhaid gohirio ein dathliadau ond dyna fo, mae’r pethau ‘yma’n digwydd. Roedd hi’n noson llawn hwyl gydag Aled Sam, seren llwyfan sgrin a weirles a hefyd colofnydd wythnosol yn y cylchgrawn Golwg yn ein diddanu gyda detholiadau o’i lyfr ‘Ac yn Olaf’. Roeddwn i braidd yn hwyr mynd i’r gwely ond, er hynny, roeddwn i lawr yn yr ystafell haul am chwarter i chwech yn darllen y papur. Tu allan roedd yr adar yng nghanol ymarfer eu gwahanol ganeuon er mwyn y cyngherddau mawr sydd ar fin dechrau. Y diwrnod gynt roeddwn i wedi bod tu allan efo recordydd digidol ac wedi llwyddo i gael recordiad eithaf da ond heddiw roedd gen i’r teimlad bod mwy o aelodau wedi troi i fyny. Sefais tu allan unwaith eto a phwyntio’r recordydd i gyfeiriad y fwyalchen, y prif ganwr, ond yn fuan iawn mi wnes i sylweddoli bod dipyn bach o awel ac mae awel yn effeithio ar y recordiad. I mewn unwaith eto er mwyn cael hosan i orchuddio’r meicroffon ond yn anffodus doedd y cynllun yna ddim yn effeithiol ac, i wneud pethau’n waeth roedd yr awel wedi datblygu i fod yn wynt oer. Rŵan mae'n rhaid i mi gyfaddef roeddwn i yn fy ngwn llofft, dydw i ddim eisiau dweud mwy ‘na hynny. Dw i ddim am beintio darlun rhy glir rhag ofn eich cynhyrfu chi, mor fregus yr ydych chi. Es i yn ôl i’r tŷ ac es ymlaen i ddarllen y papur ond mewn dim o amser roeddwn i’n clywed bod y gwynt wedi codi eto a’r adar wedi rhoi’r gorau i’r canu. Welais i’r fwyalchen ar un o’r brigau yn trio’i orau i gadw gafael ar y brigyn a’i gynffon yn mynd i fyny ac i lawr er mwyn cadw cydbwysedd. Yn sydyn roedd ‘na hyrddiad go fawr ac roedd hynny yn ormod a ffwrdd a fo i ddiogelwch ei nyth. Y prynhawn yma mae gemau'r Chwe Gwlad ymlaen a Chymru yn chwarae yn erbyn Ffrainc felly os oes unrhyw siopa i’w wneud mae'n rhaid gwneud hynny'r bore ‘yma. Roedd bwyd i brynu ond hefyd roeddwn i eisiau prynu ‘gaiters’ a chyn i’ch dychymyg rhedeg i ffwrdd a chi nid am ‘gaiters’ clerigaidd dw i’n son ond pethau i roi ar waelod y trowsus cerdded. Dw i wedi dechrau ffafrio Millets yn Llanelli yn ddiweddar felly es i i Lidl  yn gyntaf er mwyn bod mewn pryd i mi fod yn gwsmer cyntaf yn Millets. Roedd Lidl bron yn wag ac mewn dim roeddwn i’n aros wrth y til yn gwrando ar ryw ddynes yn dweud wrth y derbynnydd. “I’ve heard there’s a lot of snow in Ammanford, its on its way here. Its going to be terrible, really terrible, we’d better all stock up. I’m telling you, you’ll see! Its the Beast from the East!” Pryd mae pobl yn mynd i ddysgu bod rhaid cael sinigiaeth fydol weithiau yn enwedig pan mae rhywun yn rhagolygu’r tywydd? Erbyn hyn mae tair awr wedi mynd heibio a dim pluen o eira yn unman. Dw i’n meddwl bod pobl wrth ei boddau yn dweud y pethau gwirion yma. Ymlaen i Millets, parcio a cherdded tuag at y siop, mynd i mewn a chrwydro mewn cylch heb ddod o hyd i ‘gaiters’ yn unman, cyrraedd y ddesg talu, gwenu a dweud wrth y tri “I give up, can you tell me where the gaiters are?” Roedd dryswch ar ei hwynebau. “What are gaiters?” gofynnodd yr hogan. Ar ôl i mi esbonio deudodd hi “ Oh, you need Millets.” “Excuse me,” medda fi wedi drysu’n llwyr “Where am I?” “JD Sports” medda hi “Awfully sorry” medda fi a slincio drws nesaf yn llawn embaras. Ond roedd drws Millets ar gau, goleuadau tu fewn ond y bleindiau i lawr, erbyn hyn roedd hi’n chwarter wedi naw a phob siop arall ar agor. Wrth lwc mae ‘na siop Trespass yn agos felly es i yna, gweld y ‘gaiters’ yn syth ond roedden nhw wedi cael eu pacio yn fflat ac yn edrych fel bod dim ond un ‘gaiter’ yn y pac a thra o’n i yna yn syllu doth dyn ifanc a dweud “Can I help you, Sir?” Roedd y fath parch tuag ataf fi yn fy ngwir blesio i achos yn rhy aml y dyddiau hyn dw i’n cael fy ngalw yn “chum’, “pal”, “mate”, “friend”, “bro” a phethau eraill amharchus o’r fath yna. “Yes, there are two” medda fo “but we did have one once where there was only one in the pack”.  “I expect that would have been pinched by a one-legged shoplifter then.” medda fi. Deudodd o ddim byd. Dw i bron wedi gorffen y stori yma ac mae Anne wedi cyrraedd, allech chi ddyfalu beth yw’r peth cyntaf iddi ddweud wrtha i fi? “Hei, ti’n gwybod? Maen nhw wedi cael eira mawr yn Rhydaman?” Mi wnes i benderfynu mai’r peth gorau yw dweud dim!
Bwystfil o’r Dwyrain - Beast from the East Taflu oddi ar ein hechel - thrown off balance Honedig - alleged Mae’n siwr - surely, to be sure Detholiadau - selections Cyngherddau - concerts Recordydd digidol - digital recorder Mwyalchen - blackbird Awel - breeze Hosan - sock Gorchuddio - to cover Cynllun - plan Effeithiol - effective Gwn lloft - dressing gown Mor fregus yr ydych chi - so fragile you are Mewn dim o amser - in no time Brig, brigau - branch, branches Cadw cydbwysedd - keep balance Hyrddiad - gust Dychymyg - imagination Rhedeg i ffwrdd - to run away Derbynnydd - cashier Sinigiaeth fydol - worldly cynicism Rhagolygu - to forecast Pluen o eira - flake of snow Yn unman - anywhere Dryswch - confusion Amharchus - disrespectful
Geirfa