Gydangilydd.cymru
Castell Carreg Cennen Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Doedden ni heb gael taith am bythefnos ar ôl i daith Ena o amgylch Cronfa Ddŵr Llandegfedd cael ei chanslo achos y rhagolygon am wyntoedd cryfion a glaw trwm. Dw i’n siŵr roedd llawer o’n haelodau wedi bod mewn penbleth beth bynnag, pwy oedd i gael ein cefnogaeth, y Gymdeithas neu ein cenedl? Y broblem fawr oedd bod rhywun o’r enw Eddie Jones wedi tynnu sylw at y ffaith bod ein harwyr yn edrych yn flinedig ar ôl yr holl hyfforddi yn ystod yr wythnos. Wrth gwrs roedd gennym ni fwy o ffydd ynddyn nhw nag oedd gan Mr Jones ond er hynny roedd llawer yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth ar garfan Alun Wyn Jones. Erbyn dydd Iau roedd y benbleth drosodd, roedd y daith wedi cael ei ganslo, popeth yn iawn. Ond na, rŵan mae Joe Schmidt yn mynnu bod to'r stadiwm yn gorfod bod ar agor a phawb yn dweud bydd hyn o fantais i garfan Iwerddon achos maen nhw’n cael mwy o law na ni hyd yn oed! Tactics, (neu tictacs i chi yn y gogledd) oed hyn wrth gwrs. Diolch i’r Bod Mawr a’r Swyddfa Tywydd roedd holl gerddwyr Cymdeithas Edward Llwyd yn rhydd i eistedd o flaen y teledu i weiddi a chnoi eu hewinedd am 80 munud. Roedd hyn i gyd yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i ni. Ennill y cwpan a chael y Gamp Lawn hefyd! Chwarae yn y glaw a phawb wedi blino! Er gwaethaf pawb a phopeth ynte! Rŵan dw i wedi cael hynny allan o fy system allaf i sôn am daith ddoe. John Harri oedd yn ein tywys ni mewn cylch o amgylch Castell Carreg Cennen, un o’n cestyll ni, pob hyn a hyn. Mae’r castell yn sefyll yn urddasol ar ben graig uchel ac yn edrych i lawr ar ran fwyaf o sir Gaerfyrddin. Wrth ystyried bod y castell dim ond hanner ei uchder gwreiddiol ac yr oedd yn cael ei wyngalchu’n gyson mae rhywun yn gallu dychmygu ei ysblander gwreiddiol. Bydd y garsiwn yn gallu gweld y gelyn o bell a chael digon o amser i baratoi am amddiffyn. Ar y llaw arall bydd y gelyn yn gorfod gwneud ei ffordd i fyny at y castell a, hyd yn oed ar ôl cael pryd o fwyd yn y bwyty ar y fferm islaw bydden nhw mewn cyflwr gwael yn cyrraedd y waliau. Roedden ni’n iawn ar ôl cyrraedd mewn ceir a chyn dim roedden ni ar ben y llwybr ac yn disgyn i lawr trwy’r coed ac yn barod i gerdded yn ôl i’r un uchder unwaith eto. Roedd golygfeydd o’r castell efo ni bron trwy’r amser a chyfleoedd gwych am lun ond roedd yr haul yn gyndyn i ddangos ei hun trwy’r cymylau tenau. Bydd rhaid dod yn ôl. Cyrraedd lôn gul a phenderfynu mai dyma oedd y lle gorau i eistedd a chael pryd o fwyd ond roedd pobl eraill wedi penderfynu gwibio heibio ni, ceir, moto beics ac un fan! Heblaw am hynny roedd y lle yn dawel neis. Roedd ein llwybr wedyn yn mynd â ni wrth ochr Llygaid Llwchwr, sef tarddiad yr afon Llwchwr. Gan roedden ni mewn ardal galchfaen roedd y dŵr yn byrlymu o dwll mawr, felly nid yw’r Llwchwr yn dechrau’n ddiymhongar o gwbl, mae'n cael ei geni yn ei harddegau! Gwerth ei weld. Ymlaen ac mewn dim roedden ni gyferbyn â’r castell unwaith eto ond roedd rhaid cerdded i lawr at yr afon Cennen ac os dach chi’n cerdded i lawr, beth yw’r peth nesaf? Cerdded i fyny wrth gwrs ond roedd paned yn disgwyl amdanom ni. Roedd hynny yn rhoi hwb i ni ond brensiach roedd yr ochrau yn serth ofnadwy! Paned a sgwrs yn y caffi wedyn ac i ffwrdd am adref. Roedd 25 ar y daith yn cynnwys dau sydd wedi dysgu’r iaith ac efo ni am y tro cyntaf. Croeso mawr i Tim ac Allison o Aberaeron a gobeithio byddwn ni’n gweld nhw eto cyn bo hir. Diolch yn fawr i John Harri am waith paratoi drylwyr ac am yr holl wybodaeth a diolch i bawb arall am eu cwmni gwych. Tan y tro nesaf. Hwyl! Geirfa Penbleth – dilemma Arwr – hero Carfan – team Bod Mawr – God Cnoi ewinedd – to bite one’s nails Haeddiannol – deserved Pob hyn a hyn – every now and then Urddasol – dignified Gwyngalchu – to whitewash Garsiwn – garrison Celyn – the enemy Amddiffyn – to defend Bwyty – cafe Yn gyndyn – reluctant Tarddiad – source Calchfaen – limestone Diymhongar – modest Brensiach – goodness me Trylwyr – thorough