Cofio Gareth
20fed Rhagfyr 1935 – 2il Hydref 2018
Roedd
ein
taith
ar
y
17eg
Tachwedd
yn
ardal
Gwlypdiroedd
Gwent.
Gareth
Beynon
oedd
i’n
harwain
ni
ond
tristwch
mawr
oedd
iddo
farw’n
sydyn
ym
mis
Hydref.
Roedd
Gareth
yn
hoff
iawn
o’r
gwlypdiroedd
ac
wedi
ein
tywys
yno
llawer
gwaith
ond
y
tro
yma
mi
wnaeth
Harri
Williams
gymryd
ei
le.
Cawsom
ddiwrnod
i
gofio
Gareth,
dyn
annwyl
iawn
a
oedd
yn
mwynhau
cerdded
cefn
gwlad
Cymru
ond
yn
ddigon
doeth
i
gymryd
ei
amser.
Yn
aml
iawn
roedd
Gareth
a
finnau
ar
gefn
y
rhes
o
gerddwyr,
finnau’n
brysur
yn
tynnu
lluniau.
Cawsom lawer o sgyrsiau difyr.
Roedd
yn
gwirfoddoli
yn
y
gwlypdiroedd
yn
aml
ac
yn
ddiweddar
wedi
arwain
grŵp
o
ddysgwyr
ar
daith
cerdded
wedi
ei
drefnu
gan
Goleg
Gwent.
Dyna
Gareth
yn
y
caffi
wedyn
yn
siarad
yn
frwd
efo’r
dysgwyr
ac
yn
clodfori
eu
hymdrechion.
Yn
y
maes
parcio
wedyn
cyn
i
ni
droi
am
adref
roedd
yn
byrlymu
yn
ei
frwdfrydedd am lwyddiant y daith. Gresyn mai dyna oedd y daith gyntaf ac yr olaf o’r fath iddo wneud.
Roedd
ei
angladd
yn
Eglwys
Ebeneser,
Stow
Park
yng
Nghasnewydd
ar
yr
24ain
o
Hydref
ac
roedd
y
lle
yn
orlawn.
Pan
wnaeth
Mair
a
finnau
gyrraedd
roedd
pob
sedd
wedi
mynd
ond
un
rhes
yn
y
cefn.
Erbyn
i’r
gwasanaeth
ddechrau
roedd
seddi
ychwanegol
wedi
eu
gosod
ond
doedd
y
rheini
ddim
yn
ddigon
ac
roedd
rhaid
i
bawb
arall
sefyll
ac
mi
oedd
llawer
ohonyn
nhw.
Roedd
hyn
yn
dweud
llawer
am
boblogrwydd
Gareth.
Roeddwn
i
wedi
bod
yn
lwcus
ofnadwy
i
gael
llun
ohono,
un
oedd
yn
dangos
ei
wên
a
oedd
pob
tro
yn
bresennol
ar
ei
wyneb,
ond
nid
oeddwn
yn
trio
tynnu
ei
lun.
Dyma
beth
ddigwyddodd.
Roeddem
ni
ar
daith
gylch
Ena
Morris
o
Lanfa
Goetre
i
fyny
at
dafarn
y
Goose
and
Cuckoo
ac
yn
ôl.
Ar
ôl
tua
20
munud
o
gerdded
roeddem
ni
ar
waelod
lôn
fwdlyd
ac
roedd
Ena
wedi
ein
cyflwyno
i
air
gogledd
Sir
Benfro
am
lôn,
sef
meidr
neu
beidr.
Ond
os
ydych
yn
crwydro
gogledd
Sir
Benfro
byddech
yn
ei
weld
wedi
ei
dreiglo
i
‘feidr’
fel
Feidr
Non
yn
Nhyddewi
(sydd
yn
cael
ei
gyfieithu
fel
Nun’s
Lane
ar
yr
arwydd
am
ryw
reswm).
Beth
bynnag
mae
fy
meddwl
yn
dechrau
crwydro
rŵan.
Roedd
Gareth
wrth
ei
fodd
wedi
dysgu
gair
newydd
a
dyna
ble
o’n
ni’n
cerdded
i
fyny
beidr
serth
a
mwdlyd,
y
cerddwyr
mwyaf
cyflym
wedi
hen
ddiflannu.
Clywsom
sŵn
beiciau
modur
ac
yn
sydyn
dyma
un
yn
gwibio
heibio
ond
roedd
mwy
ar
y
ffordd.
Dringais
un
ochr
er
mwyn
cael
cyfle
i
dynnu
llun
o’r
un
nesaf.
Ar
yr
eiliad
i
mi
wasgu’r
botwm
roedd
Gareth
wedi
troi
ataf
mewn
cyffro.
Felly
na
ches
i
lun
o’r
beic,
yn
hytrach
mi
ges
i
lun
hyfryd
o
ffrind
annwyl,
ei
wên
fawr
yn
adlewyrchu
pleser
bywyd.
Mae
pobl
wedi
fy
nghlodfori
am
y
llun
ond
nid
fi
wnaeth
ei
drefnu
-
er
doedd
Gareth
ddim
yn
ddyn
am
gymryd
‘selfies’
mi
wnaeth
o
osod
ei
hun
yn
y
llun
yn
grefftus
dros
ben!
Tebyg iawn yr unig ‘selfie’ wnaeth Gareth drefnu erioed!
Roedd
wedi
bod
yn
aelod
brwd
o’r
Gymdeithas
am
tua
18
mlynedd.
Gŵr
bonheddig
yn
wir
ystyr
y
gair
ac
yn
golled fawr i ni ar ein teithiau, mae wedi bod yn fraint i’w ei adnabod. Heddwch i’w lwch.
Geirfa
Gwlypdiroedd – wetlands
Gwirfoddoli – to volunteer
Yn frwd – enthusiastically
Clodfori – to praise
Ymdrechion – attempts
Byrlymu – to bubble
Gresyn – a pity
Angladd – funeral
Gwibio heibio – to flash past
Adlewyrchu – to reflect