Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Craig Cefn Parc Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd   y   daith   y   tro   yma   yn   fy   ardal   i   felly   doedd   dim   rhaid   gadael   yn   gynnar   ond   diolch   byth   mi   wnes   i   fynd at   y   car   i   wneud   yn   siŵr   bod   y   SatNaf   yn   gwybod   lle   oedd   y   man   cychwyn.   Dw   i’n   dweud   ‘mynd   at   y   car’ achos   doedd   y   car   ddim   yn   y   lle   arferol,   o   flaen   y   tŷ.   Pam   hynny?   Wel   achos   bod   y   tŷ   wedi   cael   ei   orchuddio gyda   sgaffald   a   sgip   yn   y   dreif.   Dydd   Llun   mae’r   tŷ   yn   cael   to   newydd.   Roedd   y   car   yn   gorfod   cael   ei   gadael dros   y   ffordd,   ar   ei   phen   ei   hun,   yn   unig.   Wrth   fynd   yna   i   siecio’r   SatNaf   welais   fod   y   gar   hefyd   wedi   cael   ei gorchuddio,   ond   yn   yr   achos   yma   dan   bethau   organig   oedd   wedi   syrthio   allan   o’r   goeden   uwchben.   Yn waeth   byth   roedd   y   pethau   yma’n   ludiog,   mor   ludiog   doedd   y   sychwyr   ddim   yn   clirio’r   sgrîn   yn   ddigon   da.   Yn lwcus iawn roedd gen i ddigon o amser i fynd i’r lle golchi ceir ar y ffordd i’r man cychwyn.  Roedd   y   lle   yn   dawel   pan   wnes   i   gyrraedd   ond   mewn   ychydig   o   eiliadau   mi   oedd   criw   o   bump   yn   cyflymu tuag   ataf   fi,   un   yn   dweud   yr   union   le   i   mi   stopio   a’r   lleill   yn   troi   o   gwmpas   y   car   efo’u   gwahanol   daclau.   Mewn dim   o   amser   roedd   y   sgrîn   yn   wyn   dan   ewyn   a’r   ddau   efo’r   jetiau   chwistrelli   yn   dechrau   ei   olchi   i   ffwrdd. Mynd   ymlaen   i’r   man   sychu   wedyn   a’r   un   criw   yn   rhuthro’n   o   fy   nghwmpas   fel   derfisiaid   chwyrlïol.   Talu   a thipio a ffwrdd a fi. Cyrhaeddais   y   man   cychwyn   mewn   pryd   ac   roedd   siŵr   o   fod   pymtheg   yna   yn   cynnwys   Nia,   merch   Eirian   a dau   wedi   dod   o   bell   -   Wil   o   Wokingham   a   John   o   Rydychen,   dysgwyr   ac   yn   amlwg   yn   frwdfrydig.   Dw   i   ddim yn   gwisgo   het   ar   hyn   o   bryd   ond   mi   ddylwn   i   achos   maen   nhw’n   haeddu   i   rywun   codi   het   iddynt.   Go   dda nhw! Ar   y   rhan   gyntaf   o’r   daith   roedden   ni’n   dilyn   yr   afon   i   fyny’r   cwm   a’n   llwybr   ni   oedd   y   trac   reilffordd   yn   yr   oes ddiwydiannol,   glo   oedd   y   cynnyrch.   Pob   hyn   a   hyn   roedden   ni’n   gweld   peth   o’r   isadeiledd   gwreiddiol,   y sliperi   yn   dangos   trwy   lawr   y   llwybr   a   darnau   o   gledrau   yn   yr   afon   islaw.   Doedd   neb   yn   ddigon   sicr   beth oedd   y   gair   am   ‘infrastructure’   ar   y   pryd   ond   gyda   chymorth   y   geiriadur   alla   i   drosglwyddo   neges   Bruce   i   chi mai’r   gair   yw   ‘isadeiledd’.   Cofiwch   hynny   rhag   ofn   y   bydda   i’n   gofyn   y   cwestiwn   yn   ddirybudd   rywbryd   yn   y dyfodol. Roedd   y   darn   yma   o’r   daith   o   dan   y   coed   ac,   ar   ôl   glaw   dros   nos   a   gwres   y   bore   roedd   yr   holl   brofiad   braidd fel    bod    mewn    baddon    Twrcaidd    er    nad    ydw    i    wedi    profi'r    fath    moethusrwydd.    Roedd    rhaid    bod    yn wyliadwrus   rhag   ofn   cael   ein   brathu   gan   glêr   lwyd.   Cyn   bo   hir   wnaethon   ni   gyrraedd   pen   y   darn   yna   wrth ochr   bwll   dwfn   yn   yr   afon   mae   rhai   pobl   leol   yn   defnyddio   fel   pwll   nofio   ac   yn   oifad   ynddo.   Ydi   hynny’n   iawn dwedwch?   Neu   oedd   o’n   bwll   oifad   i   nofio   ynddo?   Doeddwn   i   erioed   wedi   clywed   y   gair   oifad   tan   i   mi   symud i’r De. Diddorol yw’r iaith ynte! Croesi’r   ffordd   a   pharhau   ar   yr   ochr   arall   a   thra   o’n   ni’n   hwffian   a   phwffian   i   fyny   llwybr   serth   mi   wnaeth   ein tywyswr,   Eirian,   stopio   ni,   nid   er   mwyn   i   ni   gael   ein   hanadl   yn   ôl   ond   i   glywed   y   gog   yn   canu.   I   mi,   fel   llawer eraill, am y tro cyntaf y flwyddyn yma. Mae’n rhaid i mi ysgrifennu llythyr at Y Times! Ar   ben   yr   allt,   rhiw   neu   dyle   roedden   ni   allan   yn   yr   awyr   agored   a   golygfeydd   ysblennydd   i   bob   cyfeiriad, lwcus iawn i gael diwrnod clir. A dyma ble wnaethon ni aros i gael ein picnic. Yma   mae’n   rhaid   i   mi   dorri   ar   rediad   y   stori   i   ddweud   wrthych   fy   mod   i   wedi   bod   yn   edrych   ymlaen   am fisoedd   am   y   daith   yma   achos   roedd   Eirian   wedi   dweud   y   byddwn   ni’n   mynd   heibio   hen   labordy   Harri Grindell   Matthews,   neu   Death   Ray   Matthews   fel   mae   rhai   yn   ei   gyfeirio   ato.   Roedd   o’n   ddyfeisiwr,   llawer   o flaen   ei   amser   ac   wedi   cael   ei   eni   yn   Winterbourne,   sir   Gaerloyw   ym   1880.   Ym   1907   roedd   o   wedi   dyfeisio ffordd   o   ddarlledu   trwy   donnau’r   awyr   ac   wedi   sefydlu   gorsaf   radio   yn   Bexhill   on   Sea   ac   yn   brysur   yn gwneud   gwaith   ymchwil   i’r   posibiliadau   o   dorpido   wedi   ei   reoli   heb   wifrau.   Mi   wnaeth   o   sefydlu   ei   hun   yn   yr ardal   yma   yn   1934.   Mae’n   stori   rhy   hir   i   adrodd   fan   hyn   ond,   yn   fyr,   roedd   o’n   cael   ei   ystyried   fel   ‘Mad Professor’.   Beth   bynnag   fel   o’n   i’n   dweud   roeddwn   yn   edrych   ymlaen   at   weld   y   lle   ond   yn   anffodus   doedd dim amser i wneud y gwyriad. Ymlaen,   ac   yn   ôl   â   ni   i   lawr   i   Graig   Cefn   Parc,   pentref   genedigol   William   Williams,   neu   Crwys   i   roi   ei   enw barddol   iddo.   Cafodd   Crwys   ei   eni   i   rieni   tlawd,   mewn   tŷ   ble   nad   oedd   llawer   o   lyfrau,   ond   mi   oedd   Beibl yno.   Er   hynny   aeth   o   ymlaen   yn   y   byd,   mynd   i’r   weinidogaeth   ac   roedd   yn   Archdderwydd   Gorsedd   y   Beirdd rhwng 1939 a 1937. Cyn i mi sylweddoli wnaethon ni droi cornel a dyna oedd fy nghar a cheir y lleill – roedd y daith drosodd. Er   doedd   dim   amser   i   ymweld   â   Thor   Clawdd,   labordy   ‘Death   Ray’   Matthews   roedd   yn   daith   i   wir   fwynhau diolch i waith ymchwil drylwyr Eirian – mawr ddiolch iddo. Unwaith eto diolch i bawb am gwmni da a sgyrsiau difyr trwy gyfrwng Iaith y Nefoedd. Hwyl tan y tro nesaf! O.N.   Bore   dydd   Llun   ac   ar   ôl   clywed   y   gog   am   y   tro   cyntaf   eleni   dydd   Sadwrn   dyma   fi   newydd   glywed   crash cyntaf yr wythnos yma wrth i ddarnau o’r hen do cael eu taflu i’r sgip islaw Dyddiau swnllyd o’m mlaen i !
Geirfa Gorchuddio - to cover Sychwyr - (windscreen) wipers Gludiog - sticky Taclau - tools, equipment Ewyn - foam Terfisiaid chwyrïol - whirling dervishes Isadeiledd - infrastructure Sliperi - sleepers (railway) Cledrau - rails Dirybudd - without warning Baddon Twrcaidd - Turkish bath Moethusrwydd - luxury Clêr lwyd - horseflies Oifad - to swim Tywyswr - leader Allt, rhiw, tyle - hill Dyfeisiwr - inventor Sir Gaerloyw - Gloucestershire Darlledu - to broadcast Tonnau’r awyr - airwaves Heb wifrau - wireless (as in control) Sefydlu - to establish Gweinidogiaeth - the ministry
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Craig Cefn Parc Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd   y   daith   y   tro   yma   yn   fy   ardal   i   felly   doedd   dim rhaid   gadael   yn   gynnar   ond   diolch   byth   mi   wnes   i   fynd   at y   car   i   wneud   yn   siŵr   bod   y   SatNaf   yn   gwybod   lle   oedd   y man   cychwyn.   Dw   i’n   dweud   ‘mynd   at   y   car’   achos   doedd y   car   ddim   yn   y   lle   arferol,   o   flaen   y   tŷ.   Pam   hynny?   Wel achos   bod   y   tŷ   wedi   cael   ei   orchuddio   gyda   sgaffald   a sgip   yn   y   dreif.   Dydd   Llun   mae’r   tŷ   yn   cael   to   newydd. Roedd   y   car   yn   gorfod   cael   ei   gadael   dros   y   ffordd,   ar   ei phen    ei    hun,    yn    unig.    Wrth    fynd    yna    i    siecio’r    SatNaf welais   fod   y   gar   hefyd   wedi   cael   ei   gorchuddio,   ond   yn   yr achos   yma   dan   bethau   organig   oedd   wedi   syrthio   allan o’r    goeden    uwchben.    Yn    waeth    byth    roedd    y    pethau yma’n   ludiog,   mor   ludiog   doedd   y   sychwyr   ddim   yn   clirio’r sgrîn   yn   ddigon   da.   Yn   lwcus   iawn   roedd   gen   i   ddigon   o amser i fynd i’r lle golchi ceir ar y ffordd i’r man cychwyn.  Roedd   y   lle   yn   dawel   pan   wnes   i   gyrraedd   ond   mewn ychydig   o   eiliadau   mi   oedd   criw   o   bump   yn   cyflymu   tuag ataf   fi,   un   yn   dweud   yr   union   le   i   mi   stopio   a’r   lleill   yn   troi o    gwmpas    y    car    efo’u    gwahanol    daclau.    Mewn    dim    o amser    roedd    y    sgrîn    yn    wyn    dan    ewyn    a’r    ddau    efo’r jetiau    chwistrelli    yn    dechrau    ei    olchi    i    ffwrdd.    Mynd ymlaen   i’r   man   sychu   wedyn   a’r   un   criw   yn   rhuthro’n   o   fy nghwmpas   fel   derfisiaid   chwyrlïol.   Talu   a   thipio   a   ffwrdd   a fi. Cyrhaeddais   y   man   cychwyn   mewn   pryd   ac   roedd   siŵr   o fod   pymtheg   yna   yn   cynnwys   Nia,   merch   Eirian   a   dau wedi   dod   o   bell   -   Wil   o   Wokingham   a   John   o   Rydychen, dysgwyr   ac   yn   amlwg   yn   frwdfrydig.   Dw   i   ddim   yn   gwisgo het   ar   hyn   o   bryd   ond   mi   ddylwn   i   achos   maen   nhw’n haeddu i rywun codi het iddynt. Go dda nhw! Ar   y   rhan   gyntaf   o’r   daith   roedden   ni’n   dilyn   yr   afon   i fyny’r   cwm   a’n   llwybr   ni   oedd   y   trac   reilffordd   yn   yr   oes ddiwydiannol,    glo    oedd    y    cynnyrch.    Pob    hyn    a    hyn roedden    ni’n    gweld    peth    o’r    isadeiledd    gwreiddiol,    y sliperi   yn   dangos   trwy   lawr   y   llwybr   a   darnau   o   gledrau yn   yr   afon   islaw.   Doedd   neb   yn   ddigon   sicr   beth   oedd   y gair   am   ‘infrastructure’   ar   y   pryd   ond   gyda   chymorth   y geiriadur   alla   i   drosglwyddo   neges   Bruce   i   chi   mai’r   gair yw   ‘isadeiledd’.   Cofiwch   hynny   rhag   ofn   y   bydda   i’n   gofyn y cwestiwn yn ddirybudd rywbryd yn y dyfodol. Roedd   y   darn   yma   o’r   daith   o   dan   y   coed   ac,   ar   ôl   glaw dros   nos   a   gwres   y   bore   roedd   yr   holl   brofiad   braidd   fel bod   mewn   baddon   Twrcaidd   er   nad   ydw   i   wedi   profi'r fath    moethusrwydd.    Roedd    rhaid    bod    yn    wyliadwrus rhag    ofn    cael    ein    brathu    gan    glêr    lwyd.    Cyn    bo    hir wnaethon   ni   gyrraedd   pen   y   darn   yna   wrth   ochr   bwll dwfn   yn   yr   afon   mae   rhai   pobl   leol   yn   defnyddio   fel   pwll nofio   ac   yn   oifad   ynddo.   Ydi   hynny’n   iawn   dwedwch?   Neu oedd   o’n   bwll   oifad   i   nofio   ynddo?   Doeddwn   i   erioed   wedi clywed   y   gair   oifad   tan   i   mi   symud   i’r   De.   Diddorol   yw’r iaith ynte! Croesi’r   ffordd   a   pharhau   ar   yr   ochr   arall   a   thra   o’n   ni’n hwffian    a    phwffian    i    fyny    llwybr    serth    mi    wnaeth    ein tywyswr,    Eirian,    stopio    ni,    nid    er    mwyn    i    ni    gael    ein hanadl   yn   ôl   ond   i   glywed   y   gog   yn   canu.   I   mi,   fel   llawer eraill,   am   y   tro   cyntaf   y   flwyddyn   yma.   Mae’n   rhaid   i   mi ysgrifennu llythyr at Y Times! Ar   ben   yr   allt,   rhiw   neu   dyle   roedden   ni   allan   yn   yr   awyr agored   a   golygfeydd   ysblennydd   i   bob   cyfeiriad,   lwcus iawn   i   gael   diwrnod   clir.   A   dyma   ble   wnaethon   ni   aros   i gael ein picnic. Yma   mae’n   rhaid   i   mi   dorri   ar   rediad   y   stori   i   ddweud wrthych   fy   mod   i   wedi   bod   yn   edrych   ymlaen   am   fisoedd am    y    daith    yma    achos    roedd    Eirian    wedi    dweud    y byddwn    ni’n    mynd    heibio    hen    labordy    Harri    Grindell Matthews,   neu   Death   Ray   Matthews   fel   mae   rhai   yn   ei gyfeirio   ato.   Roedd   o’n   ddyfeisiwr,   llawer   o   flaen   ei   amser ac   wedi   cael   ei   eni   yn   Winterbourne,   sir   Gaerloyw   ym 1880.   Ym   1907   roedd   o   wedi   dyfeisio   ffordd   o   ddarlledu trwy    donnau’r    awyr    ac    wedi    sefydlu    gorsaf    radio    yn Bexhill   on   Sea   ac   yn   brysur   yn   gwneud   gwaith   ymchwil   i’r posibiliadau    o    dorpido    wedi    ei    reoli    heb    wifrau.    Mi wnaeth   o   sefydlu   ei   hun   yn   yr   ardal   yma   yn   1934.   Mae’n stori   rhy   hir   i   adrodd   fan   hyn   ond,   yn   fyr,   roedd   o’n   cael   ei ystyried   fel   ‘Mad   Professor’.   Beth   bynnag   fel   o’n   i’n   dweud roeddwn   yn   edrych   ymlaen   at   weld   y   lle   ond   yn   anffodus doedd dim amser i wneud y gwyriad. Ymlaen,   ac   yn   ôl   â   ni   i   lawr   i   Graig   Cefn   Parc,   pentref genedigol    William    Williams,    neu    Crwys    i    roi    ei    enw barddol   iddo.   Cafodd   Crwys   ei   eni   i   rieni   tlawd,   mewn   ble   nad   oedd   llawer   o   lyfrau,   ond   mi   oedd   Beibl   yno.   Er hynny   aeth   o   ymlaen   yn   y   byd,   mynd   i’r   weinidogaeth   ac roedd   yn   Archdderwydd   Gorsedd   y   Beirdd   rhwng   1939   a 1937. Cyn   i   mi   sylweddoli   wnaethon   ni   droi   cornel   a   dyna   oedd fy nghar a cheir y lleill – roedd y daith drosodd. Er   doedd   dim   amser   i   ymweld   â   Thor   Clawdd,   labordy ‘Death   Ray’   Matthews   roedd   yn   daith   i   wir   fwynhau   diolch i waith ymchwil drylwyr Eirian – mawr ddiolch iddo. Unwaith   eto   diolch   i   bawb   am   gwmni   da   a   sgyrsiau   difyr trwy gyfrwng Iaith y Nefoedd. Hwyl tan y tro nesaf! O.N.   Bore   dydd   Llun   ac   ar   ôl   clywed   y   gog   am   y   tro   cyntaf eleni   dydd   Sadwrn   dyma   fi   newydd   glywed   crash   cyntaf yr   wythnos   yma   wrth   i   ddarnau   o’r   hen   do   cael   eu   taflu   i’r sgip islaw Dyddiau swnllyd o’m mlaen i !
Geirfa Gorchuddio - to cover Sychwyr - (windscreen) wipers Gludiog - sticky Taclau - tools, equipment Ewyn - foam Terfisiaid chwyrïol - whirling dervishes Isadeiledd - infrastructure Sliperi - sleepers (railway) Cledrau - rails Dirydudd - without warning Baddon Twrcaidd - Turkish bath Moethusrwydd - luxury Clêr lwyd - horseflies Oifad - to swim Tywyswr - leader Allt, rhiw, tyle - hill Dyfeisiwr - inventor Sir Gaerloyw - Gloucestershire Darlledu - to broadcast Tonnau’r awyr - airwaves Heb wifrau - wireless (as in control) Sefydlu - to establish Gweinidogiaeth - the ministry