Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Cyffro yn yr Ardd Am flynyddoedd roeddwn i wedi bod yn ymladd yn erbyn yr ardd, gormod o lwyni wedi cael eu plannu yn rhy agos at ei gilydd. Er i mi dynnu rhai allan pob hyn a hyn roedd y lleill bob tro yn llwyddo i greu tagfa newydd. Hyn i gyd yn achosi i mi gasáu’r ardd yn hytrach nag ei fwynhau. Er mor amyneddgar yw fy natur roeddwn i wir yn ffed up! Dwy flynedd yn ôl ges i’r syniad o glirio popeth allan, pob planhigyn, pob llwyn. Ro’n i’n gwybod beth oedd yn mynd yn eu lle - coed afalau! Nid unrhyw goed chwaith, roeddwn i’n bendant am gael coed Cymreig, coed prin, coed cynhennid. Mae planhigfa ym Mangor yn arbenigo yn y fath beth ac roeddwn i wedi bod yn glafoerio dros eu gwefan am dipyn o amser. Ond roedd llawer o waith i wneud cyn i mi fod yn barod am fy nghoed newydd, y peth cyntaf oedd cael gwared â’r holl lwyni. Sylweddolais mor hawdd y byddai i ‘ddechrau yfory’ ac yn y pendraw gwneud dim, felly es i ati yn syth i gael gwared â’r gwaethaf. Y Berberis mawr, pigog! Doedd yr hen lwyn maleisus yna ddim yn hapus o bell ffordd ac yn gafael ar bob cynnig i fy mhigo yn ddidrugaredd, yr hen beth greulon! Hyd yn oed ar ôl i mi ei chlirio roedd rhaid cael gwared a’r holl ddarnau pigog, erbyn y diwedd roedd fy mreichiau yn dyllau gwaedlyd i gyd! Ar ôl clirio popeth roedd rhaid tyllu a thynnu i gael gwared â’r gwreiddiau, fforchio’n ddwfn i glirio’r chwyn, yn enwedig glaswellt y cŵn, mintys a chwlwm y cythraul. Yn y diwedd mi ges i’r pleser o eistedd ar y fainc o dan ffenest y gegin ac yfed llond gwydraid o Ginis. Roedd fy nghefn yn gweiddi, fy nwylo yn fudr efo pridd a’r chwys yn treulio o fy nhalcen i fy llygaid ond roedd yr haul yn gynnes a’r Ginis yn llifo’n oer i lawr fy ngwddf. Mae yna deimlad da pan dach chi wedi gorffen job fawr anodd ond oes! Doeddwn i ddim wedi gorffen go iawn wrth gwrs achos roedd rhaid gosod pyst a gwifrau rhyngddynt fel ffrâm i’r coed newydd ond roedd hynny yn waith ar gyfer diwrnod arall. Roeddwn i’n hapus, yn fodlon ac yn mwynhau diwedd rhan un. Yr wythnos wedyn roeddwn i wedi archebu’r pyst a dyna le oedden nhw ar ochr y dreif, roeddwn i wedi prynu offeryn i wneud tyllau dwfn ac o’n i’n barod am y darn nesaf o’r gwaith. Roedd y pyst yn drwm ac roedd y gwaith o greu’r tyllau yn boenus, roedd rhaid codi’r offeryn trwm yn uchel a stompio’n galed i’r pridd a chloddio’r pridd allan. Dim ond dau neu dri ro’n i’n gallu gwneud pob diwrnod ond ar ôl wythnos roedden nhw’n sefyll gyda balchder a’r bobl drws nesaf yn ysu gwybod beth oedd y cynllun! Roedd misoedd cyn i mi gael y coed achos na fydden nhw’n barod i blannu tan fis Tachwedd ond roeddwn i eisiau gosod haenen drwchus o gompost cyn hynny. Lwcus iawn mae ein cyngor ni’n darparu compost am ddim, dim ond i chi fynd i’w nôl. Treulies yr haf yn llenwi bagiau a thywallt compost ar y gwlâu, stompio i lawr ochrau’r pyst a chael gwared â beth bynnag chwyn ddoth i’r golwg. Doth mis Tachwedd a doth y coed, 21 o bethau bychain oedden nhw ac roedden nhw yn y pridd yn syth ac wedi eu clymu wrth y gwifrau. Dyna ni, bydden nhw’n cysgu tan y Gwanwyn ac mi fydda i’n breuddwydio am sachau o afalau, ond nid am bedair blynedd. Ia, pedair blynedd! Ond gyda’r Gwanwyn ddoth y blodau, nid ar bob un ac roedd rhaid cael gwared ohonyn nhw, ond nid tan iddyn nhw fod drosodd. Mi oedd sychder hir ar ddechrau’r Gwanwyn diwethaf, credwch neu beidio, â’r dail ar waelod y coed yn edrych yn drist trwy’r Haf a ches i drafferth efo’r llau’r coed a morgrug. Oeddech chi’n gwybod bod morgrug a llau’r coed yn cydweithio yn eich gardd? Wel maen nhw, mae’r llau yn bwydo ar y sudd yn dail eich planhigion, llawer o’r sudd, ac fel dach chi’n gwybod, os yw rywbeth yn mynd i mewn mae’n rhaid i rywbeth ddod allan. Dyna ffordd neis o ddweud pethau ynte! Mae beth bynnag dach chi’n licio galw’r gwastraff yna yn flasus i’r morgrugyn a dyna chi. Y tro nesaf dach chi’n cael trafferth efo llaid coed ar eich rhosod sylwch ar faint o forgrug dach chi’n gweld hefyd. Mi nes i drio pob math o ffyrdd i gael gwared â’r llaid ond doedd dim un yn llwyddiannus. Yn y pen draw roeddwn i’n gorfod edrych o dan bob deilen oedd yn edrych yn wan a chael gwared â’r llaid efo bys a bawd. Dydyn nhw ddim yn hoff o hynny! Dw i’n falch o ddweud bod mwy o flodau ar y coed eleni ac mae dau neu dri yn barod i gael eu tocio achos bod nhw wedi tyfu’n ddigon tal erbyn hyn. Roedd pedair blynedd o aros yn teimlo’n amser hir dwy flynedd yn ôl ond rŵan dw i’n gallu dweud fy mod i’n edrych ymlaen, nid at flwyddyn nesaf, ond y flwyddyn wedyn. Cyffroes iawn!
Geirfa Ymladd yn erbyn - to fight against Llwyn - bush Tagfa - a choking situation Cynhennid - native (to) Planhigfa - plant nursery Arbenigo - to specialise Glafoerio - to drool Pigo - to prick Didrugaredd - mercilessly Glaswellt y cŵn - couch grass Cwlwm y cythrael - bindweed Gwifrau - wires Offeryn - tool Cloddio - to dig Ysu gwybod - dying to know Haen drwchus - a thick layer Darparu - to supply Llau’r coed - greenfly Morgrug - ants Sudd - sap Tocio - to prune
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen