Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Cyflwyno ein Trysorau I   bob   pwrpas   wnaeth   fy   nheulu   symud   allan   o   Gymru   pan   o’n   i’n   10   mlwydd   oed   achos   dyna   pryd aethon   ni   i   fyw   yn   Saundersfoot,   sir   Benfro.   Saesneg   oedd   yr   unig   iaith   yna   felly   troi   i’r   iaith   fain   oedd   rhaid. Fel   llawer   o   bobl   ifanc   mi   wnes   i   symud   i   Loegr   i   gael   gwaith,   i   mi   doedd   dim   ‘culture   shock’   achos   Saesneg oedd   fy   iaith   bob   dydd   wedi   bod   am   lawer   o   flynyddoedd.   Mewn   ffordd   roedd   symud   i   Birmingham   yn   rhoi mwy   o   gyfle   i   mi   siarad   Cymraeg   achos   wnes   i   ddechrau   fynychu   un   o’r   capeli   Cymraeg   yna   am   ychydig   o flynyddoedd.   Wedyn   wrth   symud   i   Kidderminster,   magu   teulu   a   dechrau   busnes   wnaeth   yr   ychydig   o Gymraeg   roeddwn   i’n   cofio   rhydu'r   holl   ffordd   i   ben   pellau   fy   ngof.   Y   tristwch   mawr   yw   does   dim   un   o   fy nghenhedlaeth i wedi magu plant Cymraeg eu hiaith. Dw   i   newydd   fwynhau   cael   fy   mab   a’i   deulu   yn   aros   efo   fi   ac   wrth   wneud   hynny   sylweddoli   pa   mor brin   yw   eu   gwybodaeth   am   Gymru.   Chi’n   gweld   cerdded   ar   draethau   godidog   Gŵyr   dyn   ni   wedi   gwneud   yn y   gorffennol   ond   y   tro   yma   es   i   a   nhw   i   Gwm   Elan,   lle   nad   oedden   nhw   wedi   bod   o’r   blaen.   Yn   ei   arddegau roedd   fy   mab,   Glyn,   yn   y   Scouts   ac   i   Ardal   y   Llynnoedd   oedden   nhw’n   mynd,   o   achos   hynny   i   Ardal   y Llynnoedd   mae   ei   deulu   bach   o   yn   mynd   pob   blwyddyn.   Doedd   ganddo   ddim   syniad   bod   y   fath   le   a   Chwm Elan   yn   bodoli   a   dw   i’n   mawr   obeithio   y   bydd   o’n   treulio   dipyn   o   amser   yn   dod   i   adnabod   Cymru   yn   well   yn   y dyfodol.   Doedd   dim   llawer   o   amser   i   gerdded   achos,   credwch   neu   beidio,   mae’n   cymryd   dipyn   o   amser   i baratoi   dwy   ferch   yn   eu   harddegau,   sbaengi   a   dau   oedolyn   am   daith   car   o   awr   a   hanner.   Erbyn   i   ni   gyrraedd a   pharcio   yn   yr   hen   chwarel   wrth   ochr   argae   Caban   Coch   roedd   hanner   dydd   wedi   hen   fynd   heibio   ond roedd   digon   o   amser   i   gyrraedd   argae   Pen   y   Garreg.   Wrth   reswm   roedd   lefel   y   dŵr   yn   isel   iawn   ar   ôl   yr   holl sychder ond roedd hynny yn ychwanegu at y pleser gweledol. Roedd   Arianwen,   y   wyres   hynaf,   eisiau   i   mi   ddysgu   dipyn   o   Gymraeg   iddi   hi   felly   wnaethon   ni   chwarae gemau   ‘Dw   i’n   gweld’,   Dw   i’n   hoffi’   ac   yn   y   blaen.   Sylweddolais   yn   fuan   iawn   roedd   ganddi   hi   gof   da   am   eiriau a   phatrymau.   Roedd   y   ddau   ohonom   yn   ddwfn   iawn   yn   yr   iaith   a’r   lleill   yn   bell   o’m   blaenau   ni   a’r   ci   yn   poeni. Sbaengi   yw’r   ci,   Spaniel   yn   Saesneg   ac   felly   mae’n   debyg   mai   o   Sbaen   mae’r   fath   yma   o   gi   yn   tarddu. Doeddwn   i   ddim   wedi   meddwl   am   y   peth   o’r   blaen   ond   mae’n   amlwg   tydi?   Dw   i’n   falch   o   ddweud   mai Cymraes   yw   hi,   o   ardal   Tredegar   yn   wreiddiol   a’i   henw   swyddogol   yw   Myfanwy   ond   yn   ymateb   i   ‘Chewitt’   - pam   tybed?   Digon   am   hynny,   mae   Chewitt   yn   gweld   ei   gwaith   fel   ci   i   gadw   ni   at   ein   gilydd   ac   os   oeddem   ni’n bell   tu   ôl   iddyn   nhw   mi   fydda   hi’n   eistedd   i   lawr   tan   i   ni   ddal   i   fyny.   Roeddwn   i’n   cael   y   syniad   bod   ein   ffordd hamddenol o fwynhau ein hunain ddim yn ofnadwy o boblogaidd! Y   diwrnod   wedyn   aethon   ni   i   ben   pellaf   Cwm   Nedd   i   gerdded   wrth   ochr   yr   afon   Nedd   Fechan   hyd   at Sgwd   Gwladys.   Llawer   o   bobl   yna   a   llawer   o   hwyl,   rhai   yn   nofio   yn   y   llyn   o   dan   y   rhaeadr   tra   oedd   rhai   yn cerdded   tu   ôl   i’r   rhaeadr.   Diolch   byth   mae   plant   Glyn   wedi   arfer   â   gwneud   pethau   heriol   ac   roedd   Arianwen yn   ysu   am   wneud   yr   un   peth.   Wnes   i   gytuno   i   gadw   yn   bell   i   ffwrdd   er   mwyn   recordio’r   achlysur   ar   fy nghamera,   roedd   rhaid   i   rywun,   ac   aeth   hi   a’i   Mam   ar   y   llwybr   cul   wrth   ochr   y   pwll   mawr   a   diflannu   o’n golwg tu ôl i’r dŵr. Dyna hwyl! Cyn   mynd   adref   cawsom   ni’r   syniad   o   gael   pryd   o   fwyd   ond   roedd   yr   ‘Angel’   yn   llawn,   hefyd   y   caffi   newydd dros   y   ffordd   ond   doedd   dim   problem.   Siawns   i   weld   sut   fath   o   le   yw’r   White   Horse.   Wel   dyma   drysor! Roedd   bwydlen   y   ‘starters’   yn   edrych   yn   ddiddorol   iawn   a   chawsom   lond   bwrdd   ohonyn   nhw.   Profiad   mor dda roeddwn i’n teimlo bysedd fy nhraed yn cyrlïo. Dw i’n edrych ymlaen at y tro nesaf. Roedd    mwy    o    wersi    Cymraeg    heddiw    hefyd    a    dw    i    wedi    gaddo    ysgrifennu    gwersi    iddi    a    chreu recordiad o’r deialog. Pwy a wŷr, efallai bod siawns greu Cymraes rugl yn y genhedlaeth yna? Pwy    a    wŷr    hefyd,    efallai    y    bydden    nhw’n    cael    eu    gwyliau    yng    Nghymru    o    hyn    ymlaen,    mae    ‘na hyfrydwch mawr i fwynhau yn ein gwlad fach ni! Bydda i wrth fy modd!
Geirfa I bob pwrpas - to all intents and purposes Yr iaith fain - English Mynychu - to attend Cenhedlaeth - generation Ardal y Llynnoedd - The Lake District Bodoli - to exist Credwch neu beidio - believe it or not Argae - dam Gweledol - visual Tarddu o - to originate from Pen pellaf - the far end Heriol - challenging
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Cyflwyno ein Trysorau I    bob    pwrpas    wnaeth    fy    nheulu    symud    allan    o Gymru    pan    o’n    i’n    10    mlwydd    oed    achos    dyna    pryd aethon    ni    i    fyw    yn    Saundersfoot,    sir    Benfro.    Saesneg oedd   yr   unig   iaith   yna   felly   troi   i’r   iaith   fain   oedd   rhaid.   Fel llawer   o   bobl   ifanc   mi   wnes   i   symud   i   Loegr   i   gael   gwaith, i   mi   doedd   dim   ‘culture   shock’   achos   Saesneg   oedd   fy iaith   bob   dydd   wedi   bod   am   lawer   o   flynyddoedd.   Mewn ffordd   roedd   symud   i   Birmingham   yn   rhoi   mwy   o   gyfle   i mi   siarad   Cymraeg   achos   wnes   i   ddechrau   fynychu   un   o’r capeli   Cymraeg   yna   am   ychydig   o   flynyddoedd.   Wedyn wrth    symud    i    Kidderminster,    magu    teulu    a    dechrau busnes   wnaeth   yr   ychydig   o   Gymraeg   roeddwn   i’n   cofio rhydu'r   holl   ffordd   i   ben   pellau   fy   ngof.   Y   tristwch   mawr yw   does   dim   un   o   fy   nghenhedlaeth   i   wedi   magu   plant Cymraeg eu hiaith. Dw   i   newydd   fwynhau   cael   fy   mab   a’i   deulu   yn   aros efo   fi   ac   wrth   wneud   hynny   sylweddoli   pa   mor   brin   yw   eu gwybodaeth   am   Gymru.   Chi’n   gweld   cerdded   ar   draethau godidog   Gŵyr   dyn   ni   wedi   gwneud   yn   y   gorffennol   ond   y tro   yma   es   i   a   nhw   i   Gwm   Elan,   lle   nad   oedden   nhw   wedi bod   o’r   blaen.   Yn   ei   arddegau   roedd   fy   mab,   Glyn,   yn   y Scouts   ac   i   Ardal   y   Llynnoedd   oedden   nhw’n   mynd,   o achos   hynny   i   Ardal   y   Llynnoedd   mae   ei   deulu   bach   o   yn mynd   pob   blwyddyn.   Doedd   ganddo   ddim   syniad   bod   y fath   le   a   Chwm   Elan   yn   bodoli   a   dw   i’n   mawr   obeithio   y bydd   o’n   treulio   dipyn   o   amser   yn   dod   i   adnabod   Cymru yn   well   yn   y   dyfodol.   Doedd   dim   llawer   o   amser   i   gerdded achos,   credwch   neu   beidio,   mae’n   cymryd   dipyn   o   amser i    baratoi    dwy    ferch    yn    ei    arddegau,    sbaengi    a    dau oedolyn   am   daith   car   o   awr   a   hanner.   Erbyn   i   ni   gyrraedd a   pharcio   yn   yr   hen   chwarel   wrth   ochr   argae   Caban   Coch roedd    hanner    dydd    wedi    hen    fynd    heibio    ond    roedd digon    o    amser    i    gyrraedd    argae    Pen    y    Garreg.    Wrth reswm   roedd   lefel   y   dŵr   yn   isel   iawn   ar   ôl   yr   holl   sychder ond roedd hynny yn ychwanegu at y pleser gweledol. Roedd   Arianwen,   y   wyres   hynaf,   eisiau   i   mi   ddysgu dipyn    o    Gymraeg    iddi    hi    felly    wnaethon    ni    chwarae gemau    ‘Dw    i’n    gweld’,    Dw    i’n    hoffi’    ac    yn    y    blaen. Sylweddolais   yn   fuan   iawn   roedd   ganddi   hi   gof   da   am eiriau   a   phatrymau.   Roedd   y   ddau   ohonom   yn   ddwfn iawn   yn   yr   iaith   a’r   lleill   yn   bell   o’m   blaenau   ni   a’r   ci   yn poeni.   Sbaengi   yw’r   ci,   Spaniel   yn   Saesneg   ac   felly   mae’n debyg    mai    o    Sbaen    mae’r    fath    yma    o    gi    yn    tarddu. Doeddwn   i   ddim   wedi   meddwl   am   y   peth   o’r   blaen   ond mae’n   amlwg   tydi?   Dw   i’n   falch   o   ddweud   mai   Cymraes yw   hi,   o   ardal   Tredegar   yn   wreiddiol   a’i   henw   swyddogol yw    Myfanwy    ond    yn    ymateb    i    ‘Chewitt’    -    pam    tybed? Digon   am   hynny,   mae   Chewitt   yn   gweld   ei   gwaith   fel   ci   i gadw   ni   at   ein   gilydd   ac   os   oeddem   ni’n   bell   tu   ôl   iddyn nhw    mi    fydda    hi’n    eistedd    i    lawr    tan    i    ni    ddal    i    fyny. Roeddwn   i’n   cael   y   syniad   bod   ein   ffordd   hamddenol   o fwynhau ein hunain ddim yn ofnadwy o boblogaidd! Y   diwrnod   wedyn   aethon   ni   i   ben   pellaf   Cwm   Nedd i   gerdded   wrth   ochr   yr   afon   Nedd   Fechan   hyd   at   Sgwd Gwladys.   Llawer   o   bobl   yna   a   llawer   o   hwyl,   rhai   yn   nofio yn   y   llyn   o   dan   y   rhaeadr   tra   oedd   rhai   yn   cerdded   tu   ôl   i’r rhaeadr.   Diolch   byth   mae   plant   Glyn   wedi   arfer   a   gwneud pethau   heriol   ac   roedd   Arianwen   yn   ysu   am   wneud   yr   un peth.   Wnes   i   gytuno   i   gadw   yn   bell   i   ffwrdd   er   mwyn recordio’r   achlysur   ar   fy   nghamera,   roedd   rhaid   i   rywun, ac   aeth   hi   a’i   Mam   ar   y   llwybr   cul   wrth   ochr   y   pwll   mawr   a diflannu o’n golwg tu ôl i’r dŵr. Dyna hwyl! Cyn   mynd   adref   cawsom   ni’r   syniad   o   gael   pryd   o   fwyd ond   roedd   yr   ‘Angel’   yn   llawn,   hefyd   y   caffi   newydd   dros   y ffordd   ond   doedd   dim   problem.   Siawns   i   weld   sut   fath   o le   yw’r   White   Horse.   Wel   dyma   drysor!   Roedd   bwydlen   y ‘starters’   yn   edrych   yn   ddiddorol   iawn   a   chawsom   lond bwrdd   ohonyn   nhw.   Profiad   mor   dda   roeddwn   i’n   teimlo bysedd   fy   nhraed   yn   cyrlïo.   Dw   i’n   edrych   ymlaen   at   y   tro nesaf. Roedd   mwy   o   wersi   Cymraeg   heddiw   hefyd   a   dw   i wedi   gado   ysgrifennu   gwersi   iddi   a   chreu   recordiad   o’r deialog.   Pwy   a   wŷr,   efallai   bod   siawns   greu   Cymraes   rugl yn y genhedlaeth yna? Pwy   a   wŷr   hefyd,   efallai   y   bydden   nhw’n   cael   eu gwyliau   yng   Nghymru   o   hyn   ymlaen,   mae   ‘na   hyfrydwch mawr i fwynhau yn ein gwlad fach ni! Bydda i wrth fy modd!
Geirfa I bob pwrpas - to all intents and purposes Yr iaith fain - English Mynychu - to attend Cenhedlaeth - generation Ardal y Llynnoedd - The Lake District Bodoli - to exist Credwch neu beidio - believe it or not Argae - dam Gweledol - visual Tarddu o - to originate from Pen pellaf - the far end Heriol - challenging