Cymraeg i Oedolion Mae’r Cynulliad wedi gosod targed o 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn  2050. Targed uchelgeisiol iawn, hir dymor hefyd - yn rhy hir dymor efallai achos mae yna eliffant enfawr yn yr ystafell a does neb yn ei weld. Mewn llai ‘na phedwar blynedd mae’r cyfrifiad nesaf a, gan does ‘na ddim byd mawr wedi cael ei wneud i gryfhau’r iaith ers y cyfrifiad diwethaf a chymaint o bobl wedi symud i mewn i’n gwlad, mae ein nifer yn siŵr o fod yn llai. Beth fydd effaith hynny ar agwedd y bobl sydd yn erbyn ein hiaith? Ac wrth i bwysau gynyddu ar gyllidebau eraill o’n heconomi mae’n rhaid gofyn a fydd ‘na leisiau yn codi yn erbyn yr iaith? Anodd credu na fydd! Mi wnaeth Carwyn Jones ddweud bod gennym ni i gyd cyfrifoldeb am yr iaith ond wnaeth o ddim dweud beth ddylwn ni wneud i gryfhau’r sefyllfa. Felly mae'n rhaid i ni i gyd sydd yn caru’r iaith ddyfeisio cynllun a fydd yn dangos erbyn 2021 bod ni’n symud i’r cyfeiriad iawn, ein bod ni wedi bod yn gweithredu’r cynllun a’i fod yn dwyn ffrwyth. Felly does dim amser i wastraffu, yn hytrach ‘na siarad yn di ben draw am yr iaith mae'n rhaid i ni siarad mwy o’r iaith. Roedd cynllun y Cynulliad yn canolbwyntio ar ein hysgolion, cael mwy o ysgolion Cymraeg a chael mwy o athrawon Cymraeg i’r ysgolion Saesneg. Ond mae’r potensial yn llawer mwy ‘na hynny. Yn ôl y stategau roedd 16,375 o oedolion yn dysgu Cymraeg yn y flwyddyn 2015/16, rŵan dydy hynny ddim yn golygu bod 16,375 wedi dechrau ar eu taith i rugled, y cyfanswm ydy hynny, dros tair mlynedd o ddysgu dwedwch. Os ydym yn ystyried efallai fydd 25% yn rhoi’r gorau i’r cyrsiau ar ddiwedd pob blwyddyn ac i wneud pethau’n haws wnawn ni newid y cyfanswm i 16,500 mae’r ffigyrau yn gweithio allan fel hyn: Blwyddyn gyntaf 8,000 Ail flwyddyn 6,000 Trydedd flwyddyn 4,500 Cyfanswm 16,500 Petaswn ni’n gallu sicrhau bod pob un sydd yn dechrau dysgu yn y flwyddyn gyntaf yn llwyddo i fynd ymlaen at ddiwedd y drydedd flwyddyn mi fydden ni wedi creu 24,000 o siaradwyr Cymraeg ac mi fydd yr iaith yn dechrau symud i’r cyfeiriad iawn. Dw i’n gwybod bod llwyddiant o gant y cant yn rhy uchelgeisiol ond dw i’n siŵr eich bod chi’n gweld y pwynt. Y peth pwysig i gofio yw bod yr 8,000 sydd yn dechrau yn y flwyddyn gyntaf i gyd yn bobl sydd â theimladau cadarnhaol tuag at yr iaith ac mae'n rhaid i ni eu parchu am hynny. Parchu a helpu. Allwn ni eu helpu nhw wrth drefnu teithiau cerdded mewn gwahanol ardaloedd o Gymru lle mae’r Cymry a’r dysgwyr yn mwynhau ein cefn gwlad gyda'i gilydd a siarad gyda’i gilydd ar y safon maen nhw wedi cyrraedd yn y dosbarth. Yn y flwyddyn gyntaf mae eu Cymraeg nhw’n syml iawn - allech chi ofyn cwestiynau fel “Beth ydych enw chi?” “Ble dach chi’n byw?” “O ble dach chi’n dod yn wreiddiol?” “Oes gynnoch chi blant?” Gwnewch yn siŵr bod nhw’n gofyn yr un cwestiwn i chi hefyd a gallech chi helpu selio patrymau brawddegau yn eu pennau. Bydd hyn yn rhoi hyder iddyn nhw a gobeithio brwdfrydedd i fynd ymlaen efo’u cyrsiau. Wrth gwrs dydy pawb ddim yn gallu mynd ar daith cerdded felly allech chi eu cyfarfod nhw mewn caffi a gwneud yr un peth yn y fan yna. Y peth pwysig ydy eu bod nhw’n teimlo llwyddiant ac, yn y pen draw, gweld ffordd glir i’r gymdeithas Gymraeg. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf efallai bydd siawns i chi fynd fel grŵp o’ch capel, eglwys neu gymdeithas i sgwrsio efo nhw yn y dosbarth nos olaf. Efallai byddech chi felly yn rhoi ddigon o frwdfrydedd iddyn nhw benderfynu ymuno a’r ail flwyddyn. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn efallai allech chi fynd i sgwrsio efo nhw yn ystod y dosbarth olaf bob tymor. Mi fydd hynny yn eu helpu nhw i ddatblygu ei sgiliau ieithyddol yn gyflymach. Yn llawer mwy ‘na hynny byddech chi wedi dod i'w hadnabod nhw ac os dach chi’n eu cyfarfod nhw yn y dref byddech chi’n gallu cael sgwrs. Beth sydd yn cryfhau’r iaith? Sgwrs, wrth gwrs! Os ydych fudiad chi yn cael cyfarfod agored neu wibdaith gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwahoddiad i’r dysgwyr. Petaswn ni’n creu sefyllfa lle mae 10% llai o oedolion yn rhoi’r gorau i ddysgu’r iaith mi fydd pethau fel hyn: Blwyddyn gyntaf 8,000 Ail flwyddyn 6,800 Trydedd flwyddyn 5,780 Cyfanswm 20,580 Mae hynny’n golygu y bydden ni’n cynhyrchu 5,780 o ddysgwyr profiadol pob blwyddyn ac mewn cyfnod cyfrifiad - 57,800. Llawer mwy na’r cwymp rhwng y ddau gyfrifiad diwethaf - roedd hynny’n ddim ond 20,000. Meddyliwch hefyd, y mwyaf sydd i’w weld yn llwyddo i groesi’r bont y mwyaf bydd yn penderfynu eu bod nhw’n gallu dysgu hefyd. Ar yr un ochr mae ein heglwysi, capeli a’n mudiadau eisiau mwy o aelodau, rhai mewn sefyllfa fregus iawn. Ar yr ochr arall mae dysgwyr brwdfrydig eisiau datblygu eu sgiliau trwy siarad. Mae siarad yn hawdd ac yn bleserus. Dowch at eich gilydd a mwynhewch weithio tuag at ddyfodol ein hiaith. Dyna pa mor bwysig yw dysgwyr i ddyfodol yr iaith Gymraeg.. Fel mae Tesco yn hoffi dweud ‘Mae pob dim yn help’ Gyda mwy o gysylltiad gyda’r Cymry bydd y dysgwyr yn teimlo’n syth bod drws i’r gymdeithas Cymraeg ar agor iddyn nhw.
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Y cynllun yn fwy manwl Yn ôl Ymlaen Ymlaen Yn ôl

Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Y cynllun yn fwy manwl Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen