Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Drygarn Fawr Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd I   gyrraedd   ein   taith   roedd   rhaid   cymryd   y   lôn   o   Lanwrtyd   tuag   at   Abergwesyn   ac   roedd   pob   milltir aeth   heibio   yn   dangos   yn   glir   bydd   llawer   ar   y   daith.   Roeddwn   i   wedi   dechrau   confoi   a   phum   car   tu   ôl   i   mi. Diolch   byth   roedd   y   lôn   yn   dawel   a   neb   yn   dod   i’n   cyfarfod.   Mae   lle   go   dda   i   barcio   wrth   ochr   afon   Irfon   ond mewn   dim   o   amser   roedden   ni   wedi   ei   lenwi.   31   ohonon   ni   oedd   ar   y   dechrau   ac   roedd   Arwel   Michael   yna   i gael   ni   ar   ein   ffordd.   Roedd   y   daith   er   cof   am   Emrys   Harries   bu   farw   25   mlynedd   yn   ôl,   mi   wnaeth   Arwel siarad â ni am ei ffrind Emrys a oedd yn gerddwr brwd efo’r gymdeithas. Roedd   ein   taith   i   fod   yn   gylchdaith   yn   ardal   Llanerchyrfa   ond   ar   ôl   tywydd   gwlyb   roedd   penderfyniad   i newid   ac   anelu   at   Ddrygarn   Fawr.   Aethom   ni   heibio   dyddyn   efo   chwech   neu   saith   o   gŵn   mewn   math   o   ffald, pob   un   ar   gadwyn   gref   ac   yn   codi   sŵn   ofnadwy   wrth   i   ni   gerdded   heibio.   Roedd   tyrcwn   yn   cael   ei   chlywed hefyd ac, ar y ffordd yn ôl, gwyddau. Yr adar i gyd yn gobeithio am Nadolig hapus Roedd   y   llwybr   yn   anodd   mewn   llefydd   oherwydd   i   ni   orfod   cerdded   trwy   ardaloedd   ble   roedd   y   coed wedi   cael   ei   glirio.   Unwaith   oedden   ni   trwy   hyn   i   gyd   ac   ar   y   mynydd   agored   roedd   pethau   yn   llawer   haws   er dringo   oedden   ni   trwy’r   amser.   Wrth   gwrs   os   dach   chi’n   dringo   mae’n   werth   stopio   ac   edrych   yn   ôl   i edmygu'r byd o’ch cwmpas sydd yn newid trwy’r amser. Yn   ôl   pobl   y   tywydd   roedd   y   niwl   a’r   cymylau   i   fod   i   glirio   cyn   diwedd   y   bore   a   dyna   sut   oedd.   Cawsom olygfa   arbennig   tra   oedden   ni’n   cysgodi   tu   ôl   i   bentwr   crwn   o   gerrig   rhag   y   gwynt   a   oedd   braidd   yn   oer. Roedden   ni   ar   ben   y   byd,   yn   gweld   yn   bell   i bob   cyfeiriad   ond   er   hynny   doedd   dim   i’w   weld   heblaw   am   gip   o   ran   o   Raeadr   Gwy yn   y   Gogledd   Ddwyrain.   Yn   syth   i’r   Gogledd ond   yn   anweledig   roedd   argae   cronfa   ddŵr Claerwen,   a   thu   ôl   ac   ychydig   i’r   dde   bydd cronfeydd      Caban      Coch,      Carreg      Ddu Penygarreg   a   Chraig   Goch.   Y   cwbl   lot   yn anweledig!    Roedd    wedi    bod    yn    dipyn    o daith   i   gyrraedd   yma   ond   roedd   werth   pob cam,   roedd   yr   haul   yn   disgleirio   a’r   ychydig gymylau    a    oedd    yn    yr    awyr    yn    achosi cysgodion   crwydrol   dros   y   tirlun.   Dw   i   wedi   bod   yng   Nghwm   Elan   llawer   gwaith   ac   wedi   edrych   ar   y   topiau, wedi   bod   yn   Abergwesyn   hefyd   a   gwneud   yr   un   peth   ac   yn   trio   dychmygu   sut   oedd   y   tirlun   tu   ôl   i’r   topiau. Wel   rŵan   dw   i’n   gwybod   a   dw   i   mor   falch   o’r   wybodaeth.   Lwcus   i   gael   y   tywydd   delfrydol   i   wneud   y   daith, basa gwneud y daith ar ddiwrnod cymylog, tamp ddim yn eich gwobrwyo i’r fath radd. Ardderchog! Wnaeth   hi   ddim   cymryd   gymaint   o   amser   i   ddychwelyd   at   ein   ceir,   pawb   yn   teimlo   bod   nhw   wedi   cael taith   heriol   ond   pawb   mae’n   siŵr   wedi   mwynhau   cymaint   â   finnau.   Diolch   yn   fawr   iawn   i   Arwel   am   roi’r   daith ar   y   rhaglen   a   diolch   i   Alan   am   ein   harwain.   Dymuniadau   da   i   Arwel   yn   y   dyfodol   agos   a   gobeithio   gweld mwy ohono ar ein teithiau. Ond   nid   dyna   ddiwedd   y   stori.   Roedd   rhaid   cael   ein   hunain   allan   o’r   cwm   yn   ddiogel,   mae’r   lôn   yn   gul a’r   peth   diwethaf   dach   chi   eisio   gweld   yw   car   yn   dod   yn   sydyn   rownd   y   gornel   o’ch   blaen.   Dyma   ni   yn wynebu   ein   gilydd   a   doedd   o   ddim   yn   edrych   fel   oedd   o’n   mynd   i   symud   yn   gyntaf   felly   dechreuais   i   facio. Doeddwn   i   ddim   wedi   mynd   yn   bell   cyn   i’r   olwyn   gefn   adael   y   ffordd   a   mynd   yn   sownd   i’r   ffos,   doedd   dim posibilrwydd   o   gael   y   car   allan   heb   waith   bôn   breichiau.   Doth   dynion   dewr   ein   cymdeithas   ataf   a   chynnig help   a   nes   i   ddim   gwrthod,   mewn   munud   roedd   y   car   yn   ôl   efo’r   pedair   olwyn   yn   ddiogel   ar   y   lôn   a’r broblem   drosodd.   Dydw   i   ddim   yn   hollol   siŵr   pwy   wnaeth   helpu   felly   gaf   i   ddweud   “Diolch   i   Alan   Williams   a’r criw!” Dach chi’n gwybod pwy ydych chi. A   rŵan   mae’n   rhaid   i   mi   ddweud   stori   arall,   rhywbeth   wnaeth   ddigwydd   ychydig   o   flynyddoedd   yn   ôl. Ar   y   pryd   roeddwn   i’n   gwirfoddoli   efo   Coastwatch,   y   nhw   sydd   yn   gofalu   am   y   cerddwyr   sydd   yn   croesi drosodd   i   Pen   Pyrrod   yn   Rhossili.   Roedd   dau   berson   ar   ddyletswydd   ar   bob   shifft   ac   roedden   ni’n   rhannu ceir.   Roedd   llifogydd   mawr   yn   Scurlage   ac   roedd   rhaid   mynd   trwy’r   dŵr   yn   ofalus   achos   roedd   ffos   ar   ddwy ochr   y   ffordd.   Y   diwrnod   gynt   roedd   lori   sbwriel   wedi   mynd   i’r   ffos   ac   roedd   hi   dal   yna   yn   pwyso   yn osgeiddig   yn   erbyn   y   gwrych.   Wrth   i   ni   fynd   heibio   mi   nes   i   droi   at   fy   nghyd-wirfoddolwr,   mi   wnawn   ni   alw fo’n   Clive,   a   dweud   “He   was   a   rubbish   driver   wasn’t   he!”   Doedd   dim   adwaith   o   gwbl   oddi   wrth   Clive,   dyma   fi wedi cracio jôc mor addas i’r sefyllfa a doedd o ddim yn gweld y doniolwch. Gwastraff amser ynte! Wel   na,   mae   wedi   bod   ychydig   o   flynyddoedd   ers   hynny   a   dw   i   wedi   cael   fy   hun   yn   y   sefyllfa   lle   allaf ailadrodd y stori yn y gobaith y byddech chi yn ei werthfawrogi, annwyl ddarllenwr. Dw   i   hefyd   yn   gallu   cyfaddef   i’r   byd   bod   safon   fy   ngyrru   ar   adegau   yn   hollol   sbwriel   hefyd.   Dyma   fi,   dw i wedi dweud! Ac yn teimlo’n llawer gwell o’r herwydd. Geirfa Tyddyn – smallholder Ffald – (dog)pound Tyrcwn – turkeys Gwyddau – geese Pentwr crwn – a round pile Anweledig – out of sight Argae – dam Cronfa ddŵr – reservoir Gwobrywo – to reward Heriol – challenging Sownd i’r ffos – stuck in the ditch Gwaith bôn breichiau – the work of strong arms Gwirfoddoli – to volunteer Pen Pyrrod – Worms Head Lori sbwriel – rubbish lorry Gosgeiddig – graceful, elegant Gwrych – hedge Cyd gwirfoddolwr – fellow volunteer Dim adwaith – no reaction
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Drygarn Fawr Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd I    gyrraedd    ein    taith    roedd    rhaid    cymryd    y    lôn    o Lanwrtyd   tuag   at   Abergwesyn   ac   roedd   pob   milltir   aeth heibio   yn   dangos   yn   glir   bydd   llawer   ar   y   daith.   Roeddwn i   wedi   dechrau   confoi   a   phum   car   tu   ôl   i   mi.   Diolch   byth roedd   y   lôn   yn   dawel   a   neb   yn   dod   i’n   cyfarfod.   Mae   lle   go dda   i   barcio   wrth   ochr   afon   Irfon   ond   mewn   dim   o   amser roedden    ni    wedi    ei    lenwi.    31    ohonon    ni    oedd    ar    y dechrau    ac    roedd    Arwel    Michael    yna    i    gael    ni    ar    ein ffordd.   Roedd   y   daith   er   cof   am   Emrys   Harries   bu   farw   25 mlynedd   yn   ôl,   mi   wnaeth   Arwel   siarad   â   ni   am   ei   ffrind Emrys a oedd yn gerddwr brwd efo’r gymdeithas. Roedd    ein    taith    i    fod    yn    gylchdaith    yn    ardal Llanerchyrfa   ond   ar   ôl   tywydd   gwlyb   roedd   penderfyniad i    newid    ac    anelu    at    Ddrygarn    Fawr.    Aethom    ni    heibio dyddyn   efo   chwech   neu   saith   o   gŵn   mewn   math   o   ffald, pob   un   ar   gadwyn   gref   ac   yn   codi   sŵn   ofnadwy   wrth   i   ni gerdded   heibio.   Roedd   tyrcwn   yn   cael   ei   chlywed   hefyd ac,   ar   y   ffordd   yn   ôl,   gwyddau.   Yr   adar   i   gyd   yn   gobeithio am Nadolig hapus Roedd   y   llwybr   yn   anodd   mewn   llefydd   oherwydd   i ni   orfod   cerdded   trwy   ardaloedd   ble   roedd   y   coed   wedi cael   ei   glirio.   Unwaith   oedden   ni   trwy   hyn   i   gyd   ac   ar   y mynydd   agored   roedd   pethau   yn   llawer   haws   er   dringo oedden   ni   trwy’r   amser.   Wrth   gwrs   os   dach   chi’n   dringo mae’n   werth   stopio   ac   edrych   yn   ôl   i   edmygu'r   byd   o’ch cwmpas sydd yn newid trwy’r amser. Yn   ôl   pobl   y   tywydd   roedd   y   niwl   a’r   cymylau   i   fod   i glirio   cyn   diwedd   y   bore   a   dyna   sut   oedd.   Cawsom   olygfa arbennig   tra   oedden   ni’n   cysgodi   tu   ôl   i   bentwr   crwn   o gerrig   rhag   y   gwynt   a   oedd   braidd   yn   oer.   Roedden   ni   ar ben   y   byd,   yn   gweld   yn   bell   i   bob   cyfeiriad   ond   er   hynny doedd   dim   tŷ   i’w   weld   heblaw   am   gip   o   ran   o   Raeadr   Gwy yn    y    Gogledd    Ddwyrain.    Yn    syth    i’r    Gogledd    ond    yn anweledig   roedd   argae   cronfa   ddŵr   Claerwen,   a   thu   ôl   ac ychydig   i’r   dde   bydd   cronfeydd   Caban   Coch,   Carreg   Ddu Penygarreg    a    Chraig    Goch.    Y    cwbl    lot    yn    anweledig! Roedd   wedi   bod   yn   dipyn   o   daith   i   gyrraedd   yma   ond roedd    werth    pob    cam,    roedd    yr    haul    yn    disgleirio    a’r ychydig   gymylau   a   oedd   yn   yr   awyr   yn   achosi   cysgodion crwydrol   dros   y   tirlun.   Dw   i   wedi   bod   yng   Nghwm   Elan llawer   gwaith   ac   wedi   edrych   ar   y   topiau,   wedi   bod   yn Abergwesyn    hefyd    a    gwneud    yr    un    peth    ac    yn    trio dychmygu   sut   oedd   y   tirlun   tu   ôl   i’r   topiau.   Wel   rŵan   dw i’n   gwybod   a   dw   i   mor   falch   o’r   wybodaeth.   Lwcus   i   gael   y tywydd   delfrydol   i   wneud   y   daith,   basa   gwneud   y   daith   ar ddiwrnod   cymylog,   tamp   ddim   yn   eich   gwobrwyo   i’r   fath radd. Ardderchog! Wnaeth     hi     ddim     cymryd     gymaint     o     amser     i ddychwelyd   at   ein   ceir,   pawb   yn   teimlo   bod   nhw   wedi cael   taith   heriol   ond   pawb   mae’n   siŵr   wedi   mwynhau cymaint   â   finnau.   Diolch   yn   fawr   iawn   i   Arwel   am   roi’r daith    ar    y    rhaglen    a    diolch    i    Alan    am    ein    harwain. Dymuniadau   da   i   Arwel   yn   y   dyfodol   agos   a   gobeithio gweld mwy ohono ar ein teithiau. Ond   nid   dyna   ddiwedd   y   stori.   Roedd   rhaid   cael   ein hunain   allan   o’r   cwm   yn   ddiogel,   mae’r   lôn   yn   gul   a’r   peth diwethaf   dach   chi   eisio   gweld   yw   car   yn   dod   yn   sydyn rownd   y   gornel   o’ch   blaen.   Dyma   ni   yn   wynebu   ein   gilydd a   doedd   o   ddim   yn   edrych   fel   oedd   o’n   mynd   i   symud   yn gyntaf    felly    dechreuais    i    facio.    Doeddwn    i    ddim    wedi mynd   yn   bell   cyn   i’r   olwyn   gefn   adael   y   ffordd   a   mynd   yn sownd   i’r   ffos,   doedd   dim   posibilrwydd   o   gael   y   car   allan heb     waith     bôn     breichiau.     Doth     dynion     dewr     ein cymdeithas   ataf   a   chynnig   help   a   nes   i   ddim   gwrthod, mewn   munud   roedd   y   car   yn   ôl   efo’r   pedair   olwyn   yn ddiogel   ar   y   lôn   a’r   broblem   drosodd.   Dydw   i   ddim   yn hollol   siŵr   pwy   wnaeth   helpu   felly   gaf   i   ddweud   “Diolch   i Alan Williams a’r criw!” Dach chi’n gwybod pwy ydych chi. A    rŵan    mae’n    rhaid    i    mi    ddweud    stori    arall, rhywbeth   wnaeth   ddigwydd   ychydig   o   flynyddoedd   yn   ôl. Ar   y   pryd   roeddwn   i’n   gwirfoddoli   efo   Coastwatch,   y   nhw sydd   yn   gofalu   am   y   cerddwyr   sydd   yn   croesi   drosodd   i Pen      Pyrrod      yn      Rhossili.      Roedd      dau      berson      ar ddyletswydd   ar   bob   shifft   ac   roedden   ni’n   rhannu   ceir. Roedd   llifogydd   mawr   yn   Scurlage   ac   roedd   rhaid   mynd trwy’r   dŵr   yn   ofalus   achos   roedd   ffos   ar   ddwy   ochr   y ffordd.   Y   diwrnod   gynt   roedd   lori   sbwriel   wedi   mynd   i’r ffos   ac   roedd   hi   dal   yna   yn   pwyso   yn   osgeiddig   yn   erbyn   y gwrych.   Wrth   i   ni   fynd   heibio   mi   nes   i   droi   at   fy   nghyd- wirfoddolwr,   mi   wnawn   ni   alw   fo’n   Clive,   a   dweud   “He was   a   rubbish   driver   wasn’t   he!”   Doedd   dim   adwaith   o gwbl   oddi   wrth   Clive,   dyma   fi   wedi   cracio   jôc   mor   addas i’r    sefyllfa    a    doedd    o    ddim    yn    gweld    y    doniolwch. Gwastraff amser ynte! Wel   na,   mae   wedi   bod   ychydig   o   flynyddoedd   ers hynny    a    dw    i    wedi    cael    fy    hun    yn    y    sefyllfa    lle    allaf ailadrodd    y    stori    yn    y    gobaith    y    byddech    chi    yn    ei werthfawrogi, annwyl ddarllenwr. Dw   i   hefyd   yn   gallu   cyfaddef   i’r   byd   bod   safon   fy ngyrru   ar   adegau   yn   hollol   sbwriel   hefyd.   Dyma   fi,   dw   i wedi dweud! Ac yn teimlo’n llawer gwell o’r herwydd. Geirfa Tyddyn – smallholder Ffald – (dog)pound Tyrcwn – turkeys Gwyddau – geese Pentwr crwn – a round pile Anweledig – out of sight Argae – dam Cronfa ddŵr – reservoir Gwobrywo – to reward Heriol – challenging Sownd i’r ffos – stuck in the ditch Gwaith bôn breichiau – the work of strong arms Gwirfoddoli – to volunteer Pen Pyrrod – Worms Head Lori sbwriel – rubbish lorry Gosgeiddig – graceful, elegant Gwrych – hedge Cyd gwirfoddolwr – fellow volunteer Dim adwaith – no reaction