Gydangilydd.cymru
Efailwen a Llandissilio Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Ar ôl sbel go dda o dywydd sych a heulog go brin y bydda ni’n gorfod slopio trwy’r mwd heddiw. Dim ond chwe milltir oedd hyd y daith a’r disgrifiad oedd - hawdd. Beth oedd i’w hofni? Roedd llawer wedi troi fyny ym maes parcio Caffi Beca i fwynhau’r daith - mi wnes i gyfri 35 ond gall y nifer fod yn uwch oherwydd tydi aelodau Cymdeithas Edward Llwyd ddim yn aros yn llonydd. Doedd pethau ddim yn llonydd yma ar y 13eg o Fai 1839 chwaith achos yma, yn Efailwen cafodd y tollborth cyntaf ei ddinistrio gan Rebeca a’i merched. Un digwyddiad ar un noson ac o hynny ymlaen doedd dim un tollborth yn ddiogel rhag y terfysgwyr, roedd y werin bobl wedi codi yn erbyn annhegwch eu sefyllfa. Felly'r peth cyntaf i ni wneud oedd ymweld â’r gofeb ar ochr y ffordd. Troi i’r gorllewin wedyn a dilyn lôn trwy fuarth fferm ac i lawr tuag at leoliad Chwarel Glyngwyn. Dim cweit mor gynhyrchiol â chwareli’r gogledd ond, i’r ardal, yn holl bwysig. Ymlaen trwy’r coed at hen eglwys y Bedyddwyr, Rhydwilym a wnaeth ddathlu 350 mlynedd o fodolaeth llynedd. Mae’r eglwys ar bwys yr afon Cleddau Du ac wrth i mi eistedd wrth ei hochr yn bwyta brechdanau welais siglen lwyd yn cael hwyl a sbri yn neidio o un garreg i’r llall. Egwyl drosodd a cherdded trwy’r coed a mwynhau gwyrddni glân y gwanwyn tan i ni gyrraedd Vicar’s Mill ble roedd rhyd yn digwydd bod. Rees, ein tywysydd, yn dweud wrthon ni i gyd i gymryd y cyfle i olchi’n esgidiau ac yn ein sicrhau y bydden ni’n gwybod pam nes ymlaen. Erbyn hyn oedd y rai â GPS yn cael eu holi faint o filltiroedd oedd wedi bod a faint mwy oedd dal i fod. Bron chwe milltir oedd ateb i’r cyntaf a dwy filltir mwy oedd yr ateb i’r ail, hyn i gyd yn teimlo’n rhy heriol i’n coesau blinedig. Roedd y daith wedi cynnwys llawer o ddringo ac roedd haul y prynhawn cynnar yn anghyfforddus o boeth. Ar ben allt serth ar gyrion Lladissilio cawsom gysgod yn fynwent yr eglwys, rhai ohonom mor lwcus o gael sedd yn y cyntedd. Wedyn daeth si ar led bod bws Jones o Login ar y ffordd i’n hachub. Neb yn credu’r peth wrth gwrs ond yna, tu allan i’r eglwys roedd y bws, yn lân tu allan ac yn lân tu fewn. Dyna pam roedd rhaid glanhau ein ‘sgidiau! Roedd hyn wedi cael ei drefnu o flaen llaw ac roedd ein coesau blinedig wir wedi cael eu tynnu. Creulon ynte! Ond ar yr un pryd yn garedig dros ben! Mewn dim o amser roedd Caffi Beca yn llawn dop a’r merched yn gweithio’n galed i leddfu ein syched. A do! aeth y lasiad o Tango lawr yn dda! Diolch i Rees am yr holl waith baratoi, am daith heriol ond diddorol ac un a lenwodd pawb gyda hunan balchder am eu dyfalbarhad mewn amgylchiadau heriol ar adegau. Diolch i 35 a mwy o gyd gerddwyr am eu cwmni da fel arfer. Geirfa Tollborth – toll gate Terfysgwyr – rioters Cofeb – memorial stone Cynhyrchiol – productive Bodolaeth – existence Siglen llwyd – grey wagtail Gwyrddni glân – clean green Rhyd – ford Cyntedd – porch Si ar led – a rumour going round