Gydangilydd.cymru
Yr Eisteddfod Mae Eisteddfod Llanrwst ar y trothwy a siawns i ni unwaith eto dod at ein gilydd i ddathlu ein Cymreictod. Cyfle i ni ddangos i’r byd ein bod ni ‘er gwaethaf pawb a phopeth, yma o hyd’. Ac yn wir mae’n syndod bod yr iaith wedi parhau cyhyd wrth feddwl am holl ymdrechion llywodraethau dros ganrifoedd. Anhygoel feddwl na wnaeth y Welsh Not creulon ddim llwyddo i’n hatal rhag siarad iaith y nefoedd. Wir i ddweud nad yw’r iaith mor gryf nag oedd yn y pedwardegau pan o’n i’n tyfu fyny yn sir Fôn. Da i ddweud bod pethau’n newid erbyn hyn efo’r holl ysgolion Cymraeg a chymaint o oedolion yn gwneud ymdrech fawr i ddysgu hefyd. Ond ystyriwch ba mor hanfodol mae’r dathliad blynyddol, a’r eisteddfodau lleol, wedi bod i alluogi ni i ddal ein tir. Mae pobl dros Gymru i gyd, pob blwyddyn wedi rhoi eu hamser i drefnu ein heisteddfodau er mwyn sicrhau bod ein hiaith yn mynd o un genhedlaeth i’r llall. Mae diolch mawr iddyn nhw am hynny. Un dyn sydd yn gyfrifol am fodolaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ffurf bresennol. Dyn cyffredin, saer maen a oedd yn gweithio i’w dad yn Nhrefflemin. Roedd yn ddawnus iawn yn ei grefft ac i ddechrau roedd digon o waith i’r teulu yn cynnal y tai mawr yn yr ardal. Ond yn araf bach roedd y stadau yn cael eu prynu gan gyfoethogion o du draw i’r ffin. Roedd gan y bobl yma eu seiri maen eu hunain a’r crefftwyr lleol yn cael llai a llai o waith. Roedd rhaid i Edward, neu Ned, Williams grwydro ymhell o’i gartref i gael gwaith. Wrth grwydro roedd yn ymwybodol o’r byd o’i gwmpas ac roedd hyn yn sbardun i’w ail grefft. Roedd yn fardd. Fel bardd roedd yn boblogaidd yn y tafarnau a’i farddoniaeth di-chwaeth yn gwneud hwyl ar ben pobl leol. Doedd o ddim wedi cael addysg ffurfiol arbennig, roedd ei fam wedi ei gyflwyno i lenyddiaeth ond wnaeth y Parchedig John Walters ei gymryd dan ei adain a dysgu Lladin iddo. Ond roedd gost i’r addysg, roedd y Parchedig yn gweithio ar eiriadur Saesneg - Cymraeg a gwaith Edward oedd casglu geiriau lleol tra oedd yn crwydro. Aeth Edward i bob math o drafferth. Syrthiodd mewn cariad a merch o’r enw Kitty Deere a welodd ar Stryd Fawr y Bont Faen ar ddiwrnod ffair. Ysgrifennodd barddoniaeth iddi a chael garddwr Ash Hall i’w basio ymlaen iddi. Yn naturiol doedd ei thad cyfoethog ddim yn hapus efo’r diddordeb yn ei ferch a chafodd Edward lythyr bygythiol oddi wrth ei gyfreithiwr. Aeth pethau yn waeth ac yn waeth ac Edward mor wirion a chreu cerdd ddychanol am y cyfreithiwr John Charles a chael sbort yn ei ddarllen yn nhafarn y Bear yn y Bont Faen, hefyd yn yr Old Globe yng Nghaerdydd. Cafodd gwŷs llys am enllib am hyn. Roedd chwarae wedi troi’n chwerw. Gwnaeth Edward ddianc i Lundain lle gafodd gwaith efo saer maen oedd yn atgyweirio Pont Westminster a oedd yn araf suddo i’r mwd. Ond y peth pwysig oedd iddo fynd ar goll yn Llundain yng nghanol niwl trwchus cawl pys. Doedd o ddim yn gallu gweld ei ffordd yn ôl at y llety ond yn waeth, achos roedd yn dioddef o’r fogfa roedd yn sâl dros ben. Dyma sut gafodd o ei gyflwyno i laudanum a phan roedd yn cymryd y cyffur yma roedd yn cael llawer o ysbrydoliaeth. A dyna oedd yn gyfrifol am ddechreuad yr Eisteddfod yn y ffurf yr ydym ni’n adnabod. Mae llawer o bethau’n cael ei ddweud am Iolo, ia dw i wedi bod yn sôn am Iolo Morgannwg. Roedd o’n gaeth i’r cyffur laudanum, roedd o’n dwyllwr, roedd yn hunanol. Ond eto mae o wedi bod yn hollbwysig i’n hiaith. Mae llawer mwy i’w hanes ac mae’r llyfr ‘Myfi Iolo’ gan Gareth Thomas yn werth ei ddarllen. Mae bron pedwar cant o dudalennau ond mae wedi cael ei ysgrifennu fel ffuglen ac felly yn rhoi popeth mewn cyd- destun y cyfnod. Mae’r dyn yn bwysig, mae’r stori’n bwysig. Gwnewch yn siŵr o gael gafael ar gopi! Geirfa Ar y trothwy – on the doorstep Cyhyd – so long Ystyriwch – consider Hanfodol – essential Galluogi – to enable Saer maen- stone mason Dawnus – gifted Stadau – estates Cyfoethogion – wealthy people Sbardun – triger di-chwaeth – in bad taste Dan ei adain – under his wing Bygythiol – threatening Tychanol – satirical Enllib – libel Atgyweirio – to repair Cawl pys – pea soup Mogfa – athsma Twyllwr – deceiver Ffuglen – fiction