Gydangilydd.cymru
Glan y Fferi Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd ein taith gerdded dydd Sadwrn 2il o fis Mawrth yn ardal Glan y Fferi, sir Gaerfyrddin. Roedd Glan y Fferi yn lle pwysig iawn yn yr hen ddyddiau pan oedd ffyrdd Cymru yn gyntefig a phontydd yn bell oddi wrth ei gilydd. Mae’r cliw yn yr enw, roedd fferi yma er mwyn croesi’r afon Tywi a meistr y fferi yn gwneud bywoliaeth dda yn rhwyfo pobl o un ochr i’r llall. Yn y flwyddyn 1188, 829 mlynedd yn ôl, dw i’n siŵr roedd o’n teimlo ei fod wedi ennill y loteri pan ddaeth Gerallt Gymro ac Archesgob Baldwin ato fo a gofyn iddo fynd â nhw i Lansteffan ar yr ochr arall. Wrth gwrs nid dim ond y ddau ohonyn nhw oedd ar y daith, roedd Esgob Ddewi efo nhw a hefyd Ranulph de Granville y prifustus, llawer o glerigwyr a gweision a milwyr i gadw nhw i gyd yn ddiogel. Meddyliwch, un diwrnod roedd ei freichiau yn sgrechian ar ôl yr holl rwyfo ac yn sgrechian eto'r diwrnod wedyn pan roedd rhaid iddo fynd â’r holl arian i Fanc Lloyds! (Mae banciau eraill ar gael, wrth gwrs!) A pham oedd Gerallt a’r Archesgob yn mynd am dro trwy Gymru? Roedd Saladin wedi cipio Jerwsalem, y Ddinas Sanctaidd ac roedd rhaid i bob gwlad Gristnogol godi fyddin er mwyn ei cael o allan. Gan fod y Cymry yn filwyr da, (roedden nhw’n cael digon o gyfle mewn rhyfelai wedi’r cwbl) roedd Cymru yn le da i ddechrau. Dechreuon nhw yn Henffordd, gwneud y bregeth gyntaf yn New Radnor a dilyn yr arfordir i Gaer ac yn ôl i Henffordd. Erbyn y diwedd roedden nhw wedi codi byddin o 3,000 o filwyr o brofiad. Ond nid codi byddin oedd ein pwrpas ni ac yn sicr na fydd ein siwrne mor hir. Y pleser o gerdded rhan o’n gwlad hyfryd yw’r pwrpas a’r pellter - tua phum milltir. Roedd y fferi wedi hen ddod i ben tan y llynedd pan ddechreuodd gwasanaeth newydd a dw i’n siŵr bod pawb yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw. Gwnewch bwynt o fynd yna yn y flwyddyn yma, allech chi fynd ar y trên i Glan y Fferi a chroesi i Lansteffan i ymweld â’r castell. Doedd dim rhaid i ni groesi’r afon ond cawsom olygfeydd ardderchog wrth i ni ddringo’r ffordd tu ôl i’r pentref. Unwaith aethon ni dros y sticill i’r caeau roedden nhw’n well o lawer a’r haul yn tywynnu ar Gastell Llansteffan. Yn yr ail gae roedd ceffylau yn y gornel bell ac yn edrych fel oedden nhw’n falch iawn o’n cwmni yn enwedig pan oedden ni’n trio dringo dros y giât er mwyn dianc oddi wrthyn nhw. Maen nhw’n reit fawr pan maen nhw’n agos ond doedden nhw ddim yn broblem, cymryd diddordeb oedden nhw, er hynny, braf oedd bod ar yr ochr arall. Gresyn nad oedd y tywydd hafaidd wedi para ychydig mwy o ddyddiau ond ar ôl glaw trwm dros nos roedd y caeau a’r llwybrau braidd yn fwdlyd, ac mae hynny’n dweud y lleiaf. I mi roedd y llwybrau yn rai newydd a braf iawn oedd gweld y byd o gyfeiriad gwahanol, yr afon Tywi yn lledu i’r môr a siapiau traethellau lleidiog y Gwendraeth yn tyfu wrth i’r môr encilio. Ar ddiwrnod clir a heulog bydda wedi bod yn syfrdanol. Wedi cael sbardun gan y tywydd hafaidd roedd carpedi o lilïau wen fechan, briallu a chennin Pedr yn ogystal â blodyn neidr unig ei olwg yn benderfynol o fod yn rhan o’r holl sioe. Dim ond y dechrau yw hyn, mae’r gwanwyn ar y gorwel. Mynwent eglwys Sant Ishmael oedd ein lle bwyta, pawb wedi dewis carreg fedd cyfforddus i eistedd arni, braf cael rywbeth gwastad, mae pob newid yn ‘change’ fel maen nhw’n dweud. Yn anffodus roedd yr eglwys ar glo ac felly roedd rhaid i ni fod yn fodlon i astudio’r hysbysfwrdd yn y fynwent. Roedd cynllun o’r tu fewn yn dangos bod transept y De yn cynnwys hagioscope. A beth yw hagioscope oedd pawb eisio gwybod? Mae atebion ar gael yn gyflym yn y dyddiau cyfoes yma gyda’r holl wybodaeth ar gael i chi ar y we. Yn gyflym iawn daeth yr ateb - ‘squint’ yw hagioscope felly a oes rhaid i’r eglwys gweld optegydd? Wel, nag oes siŵr achos yn yr ystyr yma ffenest fechan yw squint a oedd yn galluogi’r gynulleidfa weld y sacrament yn ystod y cymun. Erbyn hyn, wrth gwrs mae’r gangell yn agor er mwyn i bawb ei weld. Dim ond ychydig o gerdded rŵan i gyrraedd y ceir a rhannu sgyrsiau olaf cyn mynd am adref. Diolch i Derek Brockway am gadw storm Ffreya draw tan i ni gyrraedd diogelwch ein tai. Roedd yn daith a wnaeth ymestyn ein cyhyrau ac ychwanegu at ein gwybodaeth leol, diolch i waith trylwyr Peter Evans i mewn i hanes yr ardal. Diolch iddo am hynny ac am daith arbennig i ddechrau ein rhaglen newydd. Unwaith eto wrth gwrs, diolch yn fawr i bawb am y cwmni da! Tan y tro nesaf! Geirfa Cyntefig – primitive Gwneud bywoliaeth dda – to make a good living Rhwyfo – to row Prifustus – head of the Judiciary Clerigwyr – clergy Gweision – servants Sticill – stile Gresyn – a pity Hafaidd – summer-like Para – to last Cyfeiriad gwahanol – different direction Lledu – to widen Traethellau lleidiog – mud flats Gwendraeth – river Gwendraeth Encilio – to retreat Lilïau wen fechan – snowdrops Briallu – primrose Cennin Pedr – daffodils Blodyn neidr unig – solitary red campion Mynwent – graveyard Ar glo – locked Hysbysfwrdd – information board Galluogi – to allow Cynulleidfa – congregation Cymun – holy communion Cangell - chancel