Gydangilydd.cymru
Gwallgof neu be? Dw wedi dechrau mynd am dro wrth ochr y bae am tua saith o'r gloch pob bore, bydda fi wedi gorffen darllen y papur ar y dabled erbyn hynny ac angen tipyn o awyr iach. Mae'n gallu fod yn reit gyffrous i ddweud y gwir, weithiau mae'r llanw i mewn, weithiau allan. Weithiau mae'r awyr yn goch cyn i'r haul dangos dros y gorwel ac weithiau mae o'n codi'n dawel a chadw ei gŵn nos ymlaen. Ffordd dda i mi ddechrau'r diwrnod. Dw i'n gweld yr un rai pobl hefyd a llawer yn dweud helo, roedd un yn dweud 'Bore da' ond roedd hynny pan o'n i'n reidio'r beic ac yn gwisgo fy siaced Ddraig Goch. Ond yn y tywyllwch, fi yn edrych yn wahanol a fynta ‘n sbrintio heibio, tydi o ddim yn fy adnabod fi. Dim eto beth bynnag. Y bore yma daeth saith o'r gloch a finnau wedi cloi'r drws ac wedi ail osod y GPS er mwyn i mi fod yn hollol sicr fy mod i wedi gwneud fy chwe milltir, ffwrdd â fi. Heibio'r tai a'r un un bobl yn paratoi am fynd i'r gwaith, mae'n bleser bod hynny tu ôl i mi erbyn hyn. Beth bynnag dw i'n llawer rhy brysur i weithio, brensiach annwyl ydw! Wedi i mi gyrraedd yr hanner ffordd cyn cyrraedd y bae nes i sylweddoli bod y bagiau ail gylchu wedi cael ei rhoi allan. O drat, a finnau wedi anghofio! Bydd y lori wedi bod erbyn i mi gyrraedd adref a phwy ag ŵyr pryd bydden nhw'n casglu wythnos nesaf efo diwrnod Nadolig yn y canol. Ond nad ydi o'n ddiwedd y byd achos mae'r lori yn mynd mewn cylch mawr ac yn dod yn ôl i ail ymuno â fy ffordd i tua un-ar-ddeg o'r gloch. Felly ploncio fy magiau dros y ffordd bydda i'n gwneud. Ond, o'n i'n poeni! Poeni achos roeddwn yn siŵr mai dydd Mercher oedd hi ond dydd Iau mae'r sbwriel yn cael ei gasglu. Roeddwn i wedi colli diwrnod a galla i ddim fforddio gwneud hynny bellach. Ces i ben- blwydd arall dydd Sul felly mae bob diwrnod yn rhy werthfawr i golli. Mae'n golygu bod llai o ddyddiau cyn y Nadolig hefyd, wel mae'r panics yn dechrau go iawn rŵan! Ond o leiaf alla i ddelio efo'r biniau ac ar ôl cyrraedd yn ôl ces i bopeth yn barod er mwyn mynd â nhw dros y ffordd. Dyma fi yn cerdded i lawr at y pafin a sylweddoli doedd dim bagiau yn aros dros y ffordd, od iawn. Wel pa ddiwrnod ydi hi felly? Yn ôl i mewn i'r i roi cic-start i'r Dabled ac aros ychydig o eiliadau a dyma ni, tudalen flaen Y Times yn dweud yn ddigon clir 'Wednesday 18 th December'. Beth oedd yn mynd ymlaen i lawr y ffordd felly? Dw i'n reit sicr nad oeddwn i wedi croesi'r International Date Line. Ac wedyn sylweddoli bod y lorri yn troi oddi ar y ffordd yn union cyn ble welais i'r bagiau, felly mae'r casgliad iddyn nhw ddiwrnod yn gynt nag i ni. Wel doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Doeddwn i ddim wedi colli diwrnod a dydw i ddim yn wallgof, wel nid mwy nag arfer. Dw i'n siŵr eich bod chi'n falch o glywed hynny. Nadolig Llawen! Geirfa Gwallgof - mad, insane Yr un rai pobl - the same people Brensiach annwyl - goodness me Diwedd y byd - end of the world Cylch mawr - big circle Ail ymuno - to re-join Bellach - by now, these days Rhy werthfawr - too precious Dechrau go iawn - to really start Yn union cyn - straight in front of
Gwallgof neu be? Dw wedi dechrau mynd am dro wrth ochr y bae am tua saith o'r gloch pob bore, bydda fi wedi gorffen darllen y papur ar y dabled erbyn hynny ac angen tipyn o awyr iach. Mae'n gallu fod yn reit gyffrous i ddweud y gwir, weithiau mae'r llanw i mewn, weithiau allan. Weithiau mae'r awyr yn goch cyn i'r haul dangos dros y gorwel ac weithiau mae o'n codi'n dawel a chadw ei gŵn nos ymlaen. Ffordd dda i mi ddechrau'r diwrnod. Dw i'n gweld yr un rai pobl hefyd a llawer yn dweud helo, roedd un yn dweud 'Bore da' ond roedd hynny pan o'n i'n reidio'r beic ac yn gwisgo fy siaced Ddraig Goch. Ond yn y tywyllwch, fi yn edrych yn wahanol a fynta ‘n sbrintio heibio, tydi o ddim yn fy adnabod fi. Dim eto beth bynnag. Y bore yma daeth saith o'r gloch a finnau wedi cloi'r drws ac wedi ail osod y GPS er mwyn i mi fod yn hollol sicr fy mod i wedi gwneud fy chwe milltir, ffwrdd â fi. Heibio'r tai a'r un un bobl yn paratoi am fynd i'r gwaith, mae'n bleser bod hynny tu ôl i mi erbyn hyn. Beth bynnag dw i'n llawer rhy brysur i weithio, brensiach annwyl ydw! Wedi i mi gyrraedd yr hanner ffordd cyn cyrraedd y bae nes i sylweddoli bod y bagiau ail gylchu wedi cael ei rhoi allan. O drat, a finnau wedi anghofio! Bydd y lori wedi bod erbyn i mi gyrraedd adref a phwy ag ŵyr pryd bydden nhw'n casglu wythnos nesaf efo diwrnod Nadolig yn y canol. Ond nad ydi o'n ddiwedd y byd achos mae'r lori yn mynd mewn cylch mawr ac yn dod yn ôl i ail ymuno â fy ffordd i tua un-ar-ddeg o'r gloch. Felly ploncio fy magiau dros y ffordd bydda i'n gwneud. Ond, o'n i'n poeni! Poeni achos roeddwn yn siŵr mai dydd Mercher oedd hi ond dydd Iau mae'r sbwriel yn cael ei gasglu. Roeddwn i wedi colli diwrnod a galla i ddim fforddio gwneud hynny bellach. Ces i ben-blwydd arall dydd Sul felly mae bob diwrnod yn rhy werthfawr i golli. Mae'n golygu bod llai o ddyddiau cyn y Nadolig hefyd, wel mae'r panics yn dechrau go iawn rŵan! Ond o leiaf alla i ddelio efo'r biniau ac ar ôl cyrraedd yn ôl ces i bopeth yn barod er mwyn mynd â nhw dros y ffordd. Dyma fi yn cerdded i lawr at y pafin a sylweddoli doedd dim bagiau yn aros dros y ffordd, od iawn. Wel pa ddiwrnod ydi hi felly? Yn ôl i mewn i'r i roi cic-start i'r Dabled ac aros ychydig o eiliadau a dyma ni, tudalen flaen Y Times yn dweud yn ddigon clir 'Wednesday 18 th December'. Beth oedd yn mynd ymlaen i lawr y ffordd felly? Dw i'n reit sicr nad oeddwn i wedi croesi'r International Date Line. Ac wedyn sylweddoli bod y lorri yn troi oddi ar y ffordd yn union cyn ble welais i'r bagiau, felly mae'r casgliad iddyn nhw ddiwrnod yn gynt nag i ni. Wel doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Doeddwn i ddim wedi colli diwrnod a dydw i ddim yn wallgof, wel nid mwy nag arfer. Dw i'n siŵr eich bod chi'n falch o glywed hynny. Nadolig Llawen! Geirfa Gwallgof - mad, insane Yr un rai pobl - the same people Brensiach annwyl - goodness me Diwedd y byd - end of the world Cylch mawr - big circle Ail ymuno - to re-join Bellach - by now, these days Rhy werthfawr - too precious Dechrau go iawn - to really start Yn union cyn - straight in front of
Gydangilydd.cymru