Gydangilydd.cymru
Llanerchaeron Ar ôl colli’r teithiau am dair wythnos erbyn hyn a finnau’n dioddef yn drwm o symptomau diddymu, heb sôn am euogrwydd roeddwn i’n benderfynol o fod ar y daith yn ardal Llanerchaeron. Ar ddydd Gwener roedd y tywydd yn heulog ac yn gynnes a chymerais y cyfle i droedio fy nhaith yn ardal Pwll Du dydd Sadwrn nesaf. Eto roedd y tywydd yn edrych yn dda ar y dydd Sul ond dydd Sadwrn? Ia, dach chi wedi dyfalu’n gywir - glaw, a glaw trwm hefyd. Hawdd iawn newid fy meddwl a chael diwrnod yn eistedd o flaen y tân efo llyfr. Ond roedd y daith yn galw’n gryf arnaf fi - roedd rhaid mynd. Efo popeth yn y car roeddwn i’n barod i fynd ond roedd rhaid llenwi’r tanc efo disel ar y ffordd. Wrth gyrraedd y garej roedd rhai o’r pympiau yn wag felly roedd rhaid cymryd fy lle tu ôl i fan gwyn. A dyma fi wedyn yn aros ac aros tra oeddwn yn gweld y dyn yn crwydro’n hamddenol yn y siop yn bwydo pres i mewn i’r peiriant coffi ac wedyn trio penderfynu pa fath o frechdan i gael. Beth sy’n bod efo pobl? A oedd o’n sylweddoli bod rhywun ar frys ac yn tampian yn dawel yn y car tu ôl iddo fo? Wel na, doedd o’n poeni dim. Wrth feddwl, doeddwn i ddim ar lawer o frys chwaith achos roedd gen i ddigon o amser - ond mae’n fater o egwyddor yn tydi? Mynd ymlaen trwy’r glaw wedyn a chyn bo hir roedd Tudur Owen a’i griw ar y radio a finnau’n dechrau ymlacio. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli nad yw'r bobl tywydd yn gweithio ar fore Sadwrn tan i Tudur wirfoddoli ei wasanaeth ei hun i ddweud pa mor wael oedd cyflwr y ffyrdd. Fel un oedd ar y ffordd yn barod roeddwn i’n gwybod hynny’n iawn ond o leiaf doeddwn i ddim yn gyrru yn yr eira fel roedd rhai yn ardal Eryri - diolch byth. Cyrraedd Llanerchaeron pum munud cyn deg o’r gloch (felly pam roeddwn i mor ddiamynedd gynna?) Roedd llawer o geir yn y maes parcio ond doedd ddim son am yr aelodau - fel arfer mae rhes o geir a’u drysau cefn yn anelu at yr awyr, dim heddiw. Penderfynais barcio mewn lle cyfleus i weld pobl yn cyrraedd ac yn araf bach roedd grŵp yn ffurfio i lawr yn y gwaelod, es i i ymuno â nhw. Bethan a Richard Hartnup oedd yn ein harwain a chawsom dipyn o hanes y a’r teulu Lewis, enw a oedd mewn amser i ddatblygu i fod yn Ponsonby Lewis (o am gael cyfenw fel ‘na!). Roedd y daith yn mynd i fod mewn siâp ffigwr wyth efo’r maes parcio yng nghanol yr wyth felly bydden ni’n cael siawns yn ystod ein cinio i benderfynu mynd ymlaen efo’r ail ran neu beidio. Cyfleus iawn. Ffwrdd â ni trwy’r cae o flaen y a chael y cyfle i werthfawrogi gwaith y pensaer John Nash, rhywbeth mae’r Welsh Blacks yn y cae yn gallu gwneud pob dydd a dw i’n siŵr eu bod nhw’n gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Maen nhw’n edrych yn reit fodlon beth bynnag. Allan o’r cae wedyn a chael ein hunain wrth ochr llwyfan reilffordd efo hen ystafell aros a oedd yn edrych yn debyg iawn i hen bafiliwn yr Eisteddfod. Braidd yn llai, mewn lliwiau gwahanol ac wedi adeiladu mewn zinc ond heblaw am y manylion yna, tebyg iawn! Dyma oedd orsaf breifat y teulu. Roedd llawer o fynd a dŵad yn y dyddiau yna efo’r teuluoedd mawr yn mynd i aros efo’i gilydd trwy’r amser. Yn ôl Bethan roedd cwrs golff yn y cae, ble roedd y gwartheg, er mwyn diddanu’r gwesteion. Meddyliwch gael eich cwrs golff eich hunain a hefyd orsaf reilffordd breifat. Byd hollol wahanol! Dilyn yr hen reilffordd am sbel tan i ni gyrraedd pont dros yr afon a Richard yn tynnu ein sylw at y clogwyn pridd, uchel wrth yr ochr. Roedd y clogwyn wedi cael ei ffurfio yn amser y dilyw pan oedd Noa yn adeiladu ei arch fawr. Roedd rhaid cofio hynny achos roedd o am ychwanegu at hynny nes ymlaen. Bethan wedyn yn dangos marchredyn i ni ac esbonio’r gwahaniaeth rhwng hynny a’r rhedyn ungoes. Roedd llawer o dafodau’r hydd yna hefyd. Bellach ymlaen wnaeth Richard ddangos i ni, o bell, ochr arall o’r afon a oedd wedi ei ffurfio gan Oes yr Iâ. Mae llawer o olion oes o’n cwmpas ni ac mae’n ein cyfoethogi wrth i rywun agor ein llygaid. Diolch i’r ddau. Croesi pont fechan wedyn a throi yn ôl ar ein hunain trwy hen goed tamp efo waliau cerrig isel wedi eu gorchuddio gan fwsogl trwchus. Chyn bo hir roedden ni nôl yn y maes parcio yn eistedd wrth y byrddau tu allan yn cael ein brechdanau - roedd y glaw drosodd erbyn hynny. Gwnaethon ni benderfyniad i gwtogi’r daith a bydd Bethan a Richard yn ei ail drefnu yn y tymor nesaf. Er yn wlyb ac yn gymharol fyr roedd y daith yn bleserus dros ben ac aeth y ddeunaw ohonom ni adref yn llawn bodlondeb bod ni wedi anwybyddu’r tywydd gwlyb a mynd ymlaen efo’n cynlluniau. Does dim y fath beth â thywydd gwael, dillad anaddas sydd yn sbwylio taith. Diolch yn fawr i Bethan a Richard am yr holl waith trefnu ac am newid ffordd y daith er mwyn osgoi’r llifogydd a sicrhau i ni gyd cael diwrnod llwyddiannus er gwaetha’r elfennau. Diolch yn fawr unwaith eto i bawb am y cwmni difyr. Geirfa Symptomau diddymu – withdrawal symptoms Euogrwydd – guilt Tampian – steaming impatiently Mater o egwyddor – matter of principle O am gael – oh to have Cyfenw – surname Ffigwr wyth – figure of eight Pensaer – architect Bodlon – satisfied Llwyfan reilffordd – station platform Tynnu ein sylw – to draw our attention Dilyw – flood Marchredyn – fern Rhedyn ungoes – bracken Tafod yr Hydd – hartstongue Oes yr Iâ – ice age Cyfoethogi – to enrichen Mwsogl trwchus – thick moss Cwtogi – to shorten Elfennau - elements