Gydangilydd.cymru
Llangadog Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd    ein    taith    dydd    Sadwrn    yn    dechrau    wrth    y    bont    sydd    yn    croesi’r    afon    Sawdde    ar    gyrion Llangadog.   Er   roedd   y   tywydd   braidd   yn   amheus   i   ddechrau,   roedd   pawb   yn   hapus   nad   oedd   glaw   wrth ystyried   y   dyddiau   cynt.   Llawer   o   geir   yn   y   man   cyfarfod,   ceir   cyfarwydd   a   llawer   anghyfarwydd   hefyd.   A fydd   llawer   o   gerddwyr   newydd   yn   ein   mysg   heddiw?   Ond   na,   roedd   rhai   pobl   yna   am   reswm   arall.   Roedd merched   yn   cystadlu   yn   yr   OVO   Energy   Cycling   Tour   2019   ac   yn   mynd   heibio   nes   ymlaen   ar   y   ffordd   o Gaerfyrddin   i   Barc   Gwledig   Pembre.   79   milltir   yn   gyfan   gwbl   ac   yn   anelu   at   Fethlehem   wrth   i   ni   ddechrau   ar ein taith. Mary   a   Garfield   Rees   oedd   ein   harweinwyr,   wel   Mary   oedd   ein   harweinydd   go   iawn.   Roedd   gan Garfield   y   swydd   bwysig   o   edrych   ar   ôl   cefn   y   grŵp.   Felly   ffwrdd   â   ni,   croesi’r   ffordd   ac   anelu   at   ochr   tŷ   oedd wedi   cael   ei   adeiladu   ar   feili’r   hen   gastell   sydd   erbyn   hyn   wedi   diflannu   o   dan   y   coed.   Yn   fuan   iawn   roedden ni’n   hollol   ymwybodol   ein   bod   ni   yng   ngwlad   y   ceffylau,   ceffylau   o   safon   uchel   hefyd.   Ar   ôl   croesi   ychydig   o gaeau   roedden   ni’n   ôl   ar   lôn   dawel   am   sbel   cyn   ymuno   â   llwybr   trwy   hen   goed   Caer   Bedw.   Roedd   rhaid mynd   un   ar   ôl   y   llall   gan   fod   y   llwybr   yn   gul   ac   yn   naturiol   roedd   hi’n   wlyb   dan   draed   ar   ôl   yr   holl   law   yn ddiweddar.   Doedd   dim   rhaid   poeni   am   hynny   achos   ar   ôl   cerdded   trwy   wair   hir   y   caeau   roedd   ein   sgidiau’n wlyb   beth   bynnag.   Gan   ein   bod   ni   i   gyd   yn   gerddwyr   cyfrifol   ac   yn   gwisgo   sgidiau   cerdded   go   iawn   roedd   ein traed yn sych. Roedd   llawer   o   farcutiaid   cochion   yn   hedfan   yn   hamddenol   yn   yr   awyr,   dim   syndod   wrth   feddwl   bod yr orsaf bwydo mor agos yn Llanddeusant. Allan   o   goed   Caer   Bedw,   croesi’r   afon   a   cherdded   trwy’r   caeau   am   sbel   cyn   mynd   i   mewn   i   goed Tanerdy   a   dod   allan   nes   ymlaen   mewn   lle   delfrydol   i   gael   pryd   o   fwyd.   Roedden   ni   ar   dir   Plas   Glansefin   ac roedd   plas   yma   tua   mil   o   flynyddoedd   yn   ôl.   Mae   sôn   bod   Marchel,   mam   Brychan   Brycheiniog   Sant,   brenin Brycheiniog   wedi   aros   yma   efo’i   mintai   o   300   ar   eu   ffordd   i   Iwerddon.   Ond   nid   ydym   yn   sôn   am   y   plas presennol, mae hwn yn fwy adnabyddus am le i ddathlu priodas. Ar   ein   ffordd   unwaith   eto   a   chyfle   i   mi   ddweud   bod   llawer   o’n   teithiau   yn   cynnwys   heriau   a   hwyl   ond   y tro   yma   roedd   yr   her   ei   hun   yn   dipyn   o   hwyl.   Ar   ôl   amser   o   gerdded   yn   hamddenol   hapus   trwy   gaeau   ac   yn ymwybodol   o   ryw   aderyn   ysglyfaethus   yn   hedfan   uwch   ein   pennau   ac   yn   cadw   llygaid   barcud   arnom,   dyma ni   yn   dod   ar   draws   afon.   Ar   ei   ben   ei   hun   does   dim   byd   annisgwyl   am   hyn   ond   y   tro   yma   doedd   dim   pont. Beth   i’w   wneud?   Roedden   ni   wedi   cerdded   yn   bell   dros   hanner   ffordd   felly   doedd   mynd   yn   ôl   ddim   yn opsiwn.   Roedden   ni   wedi   cael   rhybudd   o   flaen   llaw   wrth   gwrs   a   bron   pawb   wedi   dod   â   bagiau   plastig   efo nhw.   Bagiau   o   bob   math   yn   hysbysebu   Lidl,   Aldi   a   hyd   yn   oed   whisgi   Penderyn.   Bydd   gwisgo'r   rhain   dros   ein sgidiau   yn   cadw   ni’n   sych.   Ond   roedd   yr   arbrawf   hwn   yn   profi   un   peth.   Mae   maint   eich   bagiau   yn   bwysig! Roedd   fy   magiau   i   braidd   yn   fyr   ac   roedd   rhaid   croesi’r   afon   yn   fy   nghwrcwd   er   mwyn   cadw’r   bagiau   i   fyny. Roedd   rhan   fwyaf   o’r   cwmni   yn   defnyddio   bagiau   sbwriel,   rhai   glân,   wrth   gwrs,   ac   yn   gallu   croesi’r   afon gydag   urddas.   Ond   mae   adloniant   yn   bwysig   ac   roeddwn   i’n   hapus   i   chwarae   rhan   a   rhoi   gwên   ar   wynebau pawb.   Ond   roedd   un   person,   yn   amlwg   un   oedd   wedi   hen   arfer   a   cherdded   trwy   ddŵr   a   dim   angen   bag. Iddo    fo    wnaeth    y    dyfroedd    rannu    a    cherddodd    drosodd    heb    gymorth    bag    o    gwbl.    A    phwy    oedd    o? Cymerwch un cam ymlaen Alan Williams! Mynd   trwy   fferm   wedyn   a   dod   ar   draws   gŵydd   Canada   yn   nofio   ar   y   llyn   ac   yn   galaru   am   ei   phartner   â oedd   ar   goll.   Galaru’n   uchel   hefyd,   neu   oedd   hi   ddim   ond   yn   cwyno   am   ein   bod   ni   wedi   ei   styrbio   ar brynhawn Sadwrn? Hawdd   iawn   yw   mynd   heibio   rywbeth   heb   sylweddoli   bod   yna   hanes   ond   roedd   Mary   yna   unwaith   eto i   sicrhau   ein   bod   ni’n   cymryd   sylw.   Roedd   tair   hen   goeden   mewn   rhes   ac   yn   agos   at   ei   gilydd.   Hawdd   iawn cymryd   yn   ganiataol   mai’r   ddraenen   wen   oedden   nhw.   Ond   na,   wrth   edrych   yn   fwy   manwl   roedd   y   dail   yn hollol   wahanol,   masarn   bychain   oedden   nhw   a,   gan   fod   nhw   mor   agos   at   ei   gilydd   mae’n   debyg   iddyn   nhw wedi   bod   yn   ddarn   o   lwyn   yn   wreiddiol.   Wrth   eu   hochr   roedd   hen   goeden   yn   dal   i   sefyll   ond   heb   ganol   iddi. Wrth   adael   y   llecyn   hwn   wnaethon   ni   sylweddoli   bod   un   o’n   nifer   ar   goll.   Pwy   oedd   wedi   dianc?   Ac   yna gwelsom   Eirian   yn   dod   i’r   golwg   o   ganol   y   goeden!   Erbyn   hyn   roedden   ni   ar   gyrion   Llangadog   unwaith   eto   ac mewn   deg   munud   roedden   ni’n   ôl   wrth   ein   ceir.   Roedd   y   merched   wedi   hen   seiclo   heibio,   wedi   dringo’r mynydd a mwynhau’r ffordd droellog i lawr i Brynaman ac ymlaen i Pembre. A   ni,   yn   hapus   iawn   ein   byd   ar   ôl   daith   llawn   gwybodaeth,   hwyl   a   chlonc.   Mawr   ddiolch   i   Mary   a Garfield   am   yr   holl   waith   baratoi   ac   am   ein   cadw’n   ddiogel   trwy’r   holl   daith.   Diolch   i   bawb,   unwaith   eto   am   y cwmni diddorol. Geirfa Parc Gwledig Pembre - Pembrey Country Park Beili – Bailey Barcud coch – Red Kite Gorsaf bwydo - feeding station Mintai – troop (bodyguards) Adnabyddus – well known Her – challenge Aderyn ysglyfaethus – bird of prey Annisgwyl – unexpected Arbrawf – experiment Yn fy nghwrcwd – bent double Urddas – dignity Dyfroedd – waters Rhannu – to divide Gŵydd Canada – Canada Goose Galaru – to mourn Styrbio – to disturb Mewn rhes – in a line Cymryd yn ganiataol – to take for granted Draenen wen – hawthorn Edrych yn fwy manwl – to look closer Masarn bychain – field maples Llwyn – hedge Llecyn – a spot, a place Dianc – to escape