Gydangilydd.cymru
Llyn Barfog Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd O’r herwydd anhawster ar y munud olaf roedd ein rhaglen yn y de yn wag ar gyfer y 30ain mis Mawrth. Yn hytrach na chael diwrnod o wneud llawer o ddim byd penderfynom ymuno a’n ffrindiau yng Ngwynedd a Môn ar eu taith yn ardal Llyn Barfog. Gan nad ydw i mor ifanc a ffôl ac oeddwn, y penderfyniad oedd aros yn y Wynnstay Arms ym Machynlleth ar y nos Wener. Roedd hynny yn golygu roedd pnawn dydd Gwener yn rhydd er mwyn crwydro. Fel mae pob Cymro da yn gwybod mae Machynlleth yn bwysig i ni achos dyma oedd Senedd Owain Glyndŵr ac roedd arddangosfa i’w weld. Wel na, doedd dim arddangosfa bellach ac mae rhaid gofyn y cwestiwn - Pam? Mae arian yn brin wrth gwrs ond heb yr arddangosfa sut mae pobl yn mynd i gael gwybod am yr amser pwysig yna yn hanes ein cenedl pan oedd Owain Glyndŵr yn gwrthryfela? Mae gormod o bobl yn anwybodus am ein hanes - Cymry neu Sais ac mae ein hanes yn bwysig. Mae’r adeilad yn dal yna ond bydd ymwelwyr yn cofio’r lle fel lle i gael paned yn hytrach na lle i ddysgu am gyfnod mor bwysig o’n hanes. Mae gan Pennal gysylltiad efo Owain hefyd felly aethon ni yna a gweld copi o lythyr Owain at Bab Benedict XIII yn 1406 yn apelio am ei gefnogaeth. Cerdded o gwmpas yr hen fynwent wedyn a darllen rhai o’r cerrig beddau a rhyfeddu at yr ysgrifennu cain. Wrth wneud ein ffordd o amgylch yr eglwys dod ar draws yr ardd er anrhydedd i Owain a’r Tywysogion. Roedd hi’n ddiwrnod braf, yn berffaith ar gyfer eistedd a myfyrio. Y bore wedyn roedd digon o amser i gael brecwast hamddenol, prynu brechdanau a gwneud ein ffordd i’r man cyfarfod. Doedd dim siawns i ni fynd ar goll chwaith achos yr unig beth oedd rhaid gwneud oedd troi i’r chwith yng Nghwrt a gyrru trwy Gwm Maethlon i faes parcio Parc Cenedlaethol Eryri. Wel, dach chi’n gwybod sut mae hi pan mae digon o amser, ia cyn i mi sylweddoli roedd hi’n 9.53 a ninnau heb brynu brechdanau. Doedd dim brechdanau i’w gweld yn Spar ac roedd rhaid i ni ofyn. Oedd, mi oedd rhai yna ond roedden nhw mewn bocs ar y llawr heb gael eu llwytho ar y silffoedd, twrio trwyddyn nhw, dewis a thalu, mynd yn ôl at y car a ffwrdd â ni. Gyrru trwy Gwm Maethlon a chadw ein llygaid ar agor am y maes parcio a minnau yn dechrau poeni achos doedd dim maes parcio i’w weld. Pan nes i gyrraedd pen y ffordd a chael fy hun ar y ffordd rhwng Aberdyfi a Thywyn doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth. Troi a mynd yn ôl ond roedd 10.30 wedi hen basio erbyn hyn, y tro yma welsom yr arwydd yn glir achos roedd yn pwyntio tuag atom ni, gresyn nad oedd un ar yr ochr arall ar gyfer nhw oedd yn dod o’r cyfeiriad arall. Rhy hwyr i gerdded efo’r grŵp ond gan fod ni yna roedden ni am wneud y daith wrth ein hunain. Cerdded i lawr y lôn a chyrraedd fferm a oedd yn siŵr o fod yn gartref i hanner cant o gŵn, lwcus iawn roedden nhw i gyd allan o’r golwg. Mynd trwy’r gât ac edrych ar y llwybr yn ymledu’n bell o’n blaenau a gweld grŵp o gerddwyr reit ar y top. Dim ond dal nhw i fyny oedd rhaid! Llawer iawn haws dweud na gwneud ond plodio ‘mlaen oedd yr unig ffordd. Llawer o gyfleoedd i aros ac edmygu’r olygfa yn datblygu tu ôl i ni ac ail cyflwyno ein hunain i’n hanadl! Cyrraedd y top ac roedd dewis, trwy’r gât neu ar hyd y llwybr i’r chwith, dewis y gât achos roedden ni’n gallu gweld y llyn. Nid y ffordd iawn yn anffodus achos roedd ein cerddwyr wedi mynd i’r chwith ond roedden ni’n agos erbyn hyn ac mewn pum munud roedden ni efo nhw. Cael hanes am y dyfrgwn a gweld barcud yn hedfan yn hamddenol uwch ein pennau cyn cerdded wrth ochr y llyn a dringo er mwyn gweld Cors Barfog a phrofi’r garreg ateb. Roedd rhaid sefyll yn y lle iawn ac anelu at y lle iawn i gael y canlyniad gorau - llawer o atebion tawel ac un cadarn ar y diwedd. Nes i lwyddo cael ateb ond nid y gorau. Stori fy mywyd! Cerdded yn ôl a chroesi i ochr arall y mynydd a chael golygfa o’r afon Dyfi yn datblygu o flaen ein llygaid. Lle perffaith i gael ein bwyd, golygfa arbennig, tywydd braf a brechdanau Spar - allech chi gael gwell? Yn ôl wrth y car a phenderfynu gwneud gwyriad ar y ffordd adref, sef troi i’r dde yn Nhre’r Ddôl ac anelu at Borth, troi i’r dde i gyrraedd y traeth gyferbyn ag Aberdyfi a chael pum munud i werthfawrogi golygfa o’r dref. Roedd y llanw allan a llawer o bobl eraill efo’r un syniad, bydda wedi bod yn braf treulio mwy o amser yna ond roedd siwrne yn ôl i Abertawe o’n blaenau. Diolch i Dafydd Roberts am ein tywys ni ac am yr holl wybodaeth. Diolch yn fawr i bawb ar y daith am y cyfeillgarwch a’r cwmni ac am drefnu tywydd mor braf. Edrych ymlaen at eich cwmni eto yn y dyfodol. Geirfa O’r herwydd – because of Anhawster – difficulty Gwrthryfela – to be in revolt Anwybodus – ignorant Er anrhydedd i – in honour of Myfyrio – to contemplate Ymledu – to stretch Haws dweud na gwneud – easier said than done Ail gyflwyno – to reintroduce Dwrgi – otter Barcud – Red kite Carreg ateb – echo stone Cadarn – strong Gwyriad – diversion