Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Llyn Syfaddan Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Amser   maith   yn   ôl,   cyn   amser   eich   Teidiau   a’ch   Neiniau   mi   wnaeth   dyn   pwysig   grwydro   o   gwmpas Cymru   efo’i   Archesgob.   Na,   doedden   nhw   ddim   ar   wyliau,   roedd   rheswm   pwysig   am   y   daith   achos   roedden nhw’n   pregethu’r   Groes,   hynny   yw   yn   codi   byddin   i   greu’r   Drydedd   Groesgad.   Chi’n   gweld   roedd   Saladin wedi   cipio’r   Wlad   Sanctaidd   ac   roedd   rhaid   i   bob   gwlad   Gristnogol   wneud   ymdrech   fawr   i   gael   gwared ohono   fo   a’i   filwyr.   Stori   arall   ydy   hwnnw,   stori   bwysig   wrth   gwrs   ond   y   dyn   oedd   yn   tywys   yr   archesgob   o gwmpas   Cymru   sydd   yn   bwysig   i   ni   heddiw,   ei   enw   oedd   Gerallt   Gymro.   Yn   ffodus   i   ni   roedd   ganddo   fo ddiddordeb   ym   mhob   peth   o’i   gwmpas   ac   yn   hoffi   ysgrifennu,   Mae   ei   lyfr   dal   ar   gael   er   yn   ôl   yn   1188 wnaeth   o   gasglu   llawer   o’r   manylion   sydd   yn   y   llyfr.   Yn   ddiamau   heb   Gerallt   y   bydd   llawer   o’n   hen   straeon wedi mynd ar goll. Enw’r llyfr yw ‘The Journey through Wales, The Description of Wales.’ Beth bynnag mi oedd gan Gerallt stori am Lyn Syfaddan ac mae’n mynd fel hyn:- Un   diwrnod   roedd   Gruffudd   ap   Rhys   ap   Tewdwr   yn   dychwelyd   o   Lys   y   Brenin   yng   nghwmni   Milo,   Iarll Henffordd   a   Payn   FitzJohn   ac   yn   digwydd   mynd   heibio   Llyn   Syfaddan.   Roedd   Milo   yn   pryfocio   Gruffudd   am ei   linell   i   uchelwyr   Cymru   ac   yn   cyfeirio   at   hen   stori   am   yr   adar   o   gwmpas   Llyn   Syfaddan.   Yn   ôl   yr   hanes   dim ond   gwir   berchennog   y   tir   oedd   yn   gallu   cael   yr   adar   i   ganu   wrtho.   Yn   y   diwedd   mi   wnaeth   Gruffudd   herio'r ddau   wrth   ddweud   “Gan   mai   chi   sydd   erbyn   hyn   yn   rheoli’r   wlad   pam   na   wnewch   chi   gael   nhw   i   ganu?”   Aeth Milo   yn   gyntaf   ond   er   ei   ymdrechion   doth   dim   sŵn   o   gegau’r   adar.   Tro   Payn   rŵan   ond   er   ei   holl   ymdrechion ni   wnaeth   yr   adar   ganu.   Mi   wnaeth   Gruffudd   ddisgyn   oddi   ar   ei   geffyl   a   gorwedd   wyneb   i   lawr   ar   y   llawr   ac aros    yna,    wedyn    eistedd    i    fyny    a    chodi    ei    freichiau    i’r    awyr    a    dechrau    gweddïo    a    gofyn    i    Ddyw    i    roi gorchymyn   i’r   adar   canu.   Roedd   eiliadau   o   ddistawrwydd   tan   yn   sydyn   mi   wnaeth   yr   holl   adar   godi   o’r   dŵr   i’r awyr a chanu dros y lle i gyd. Wel roedd hynny yn rhoi neges go gryf i’r Normaniaid ond doedd! Ac   mae’n   rhaid   i   mi   ddweud   pan   nes   i   gyrraedd   Llyn   Syfaddan   ar   gyfer   ein   taith   gerdded   Dydd   Sadwrn roedd yr adar dal yn yr awyr ac yn canu’n hapus bod Cymru, er gwaethaf bawb a phopeth ‘Yma o Hyd!’ Roedd   y   diwrnod   yn   braf,   bron   heb   gwmwl   yn   yr   awyr   a   phopeth   yn   addawol.   John   Harri   oedd   ein harweinydd   ac   roedden   ni’n   14   yn   gyfan   gwbl.   Tipyn   bach   o   wybodaeth   oddi   wrth   John   -   a   oeddech   chi’n gwybod   mai   Llyn   Syfaddan   yw’r   llyn   naturiol   mwyaf   yn      ne   Cymru?   A   gan   fod   ni   yng   nghanol   Cwpan   y   Byd allaf   i   ddweud   wrthoch   chi   bod   y   llyn   mor   fawr   allech   chi   foddi   400   meysydd   pêl   droed   ynddi!   Pwy   fysa’n meddwl?   Ffwrdd   â   ni   trwy’r   caeau,   heibio’r   dynion   yn   ymarfer   karate   a’r   dyn   oedd   yn   astudio   ei   lawlyfr   am sut   i   weithio’r   drôn,   gweld   llawer   o   fursennod   yn   hedfan   yn   gyflym   trwy’r   blodau,   ambell   i   bili-pala   hefyd. Mae   popeth   yn   digwydd   fan   hyn!   Roedd   olion   sychder   ym   mhob   man   -   annisgwyl   yng   Nghymru!   Roedden   ni ar   y   ffordd   i   eglwys   Llangasty   ym   mhen   draw’r   llyn   ond   cyn   hynny   roedd   rhaid   gwneud   gwyriad   i   weld   y guddfan   adar   a   dyma   ni   yn   difaru   nad   oedden   ni   wedi   cael   ein   dogn   arferol   o   law   achos   roedd   dŵr   y   llyn   yn bell i ffwrdd, er hynny roedd digon o adar. Efo’r   haul   yn   codi   yn   yr   awyr   a   thymheredd   y   diwrnod   yn   codi   wnaethon   ni   gyrraedd   yr   eglwys   a   chael y   siawns   i   eistedd   yn   dawel   er   mwyn   i’n   llygaid   dod   i   arfer   a’r   tywyllwch,   nid   yw   eglwys   Llangasty   yn   un   llawn golau   o   gwbl.   Ond   roedd   rhaid   mynd   ymlaen   achos   roedd   mwy   i’w   weld   cyn   i   ni   gael   bwyd.   Croesi   trwy gaeau   tan   gyrraedd   Tŷ   Mawr,   yn   honedig   yn   dyddio’n   ôl   at   1093.   Braf   iawn   oedd   edrych   dros   y   wal   a   gweld yn   holl   lysiau   a   ffrwyth   yn   tyfu   yn   yr   ardd   a   byrddau   ble   roedd   pobl   nad   oedd   ar   daith   Cymdeithas   Edward Llwyd   yn   gallu   ymlacio,   bwyta   ac   yfed.   Roedd   amser   i   ni   aros   am   sbel   i   glywed   Olwen   yn   dweud   dipyn   o hanes y lle, mawr ddiolch iddi. Doedd   dim   llawer   o   ffordd   i   fynd   cyn   cyrraedd   ein   lle   picnic   -   tu   allan   i   Neuadd   Pentref   Llangasty.   Mi oedd   dau   fwrdd   yna   ac   felly   digon   o   le   i   12   eistedd   yn   gyfforddus,   hyn   i   gyd   yn   dangos   pa   mor   ddiymhongar yw   John   Harri   yn   amlwg   yn      teimlo   roedd   dau   fwrdd   yn   ddigon   ac   14   wedi   troi   i   fyny!   Roedd   golygfa   wych   o’r llyn o fan hyn. Roedd   hen   lwybr   ceffyl   i   ni   gerdded   rŵan   a   debyg   iawn   roedd   ambell   i   geffyl   wedi   mynd   ar   goll   yn   y tyfiant   ond   efo’n   breichiau   yn   uchel   yn   yr   awyr   mi   wnaeth   pob   un   ohonon   ni   gyrraedd   yr   ochr   arall   yn ddiogel.   Cerdded   yn   ôl   trwy’r   caeau   tuag   at   y   llyn   a   throi   i’r   chwith   tuag   at   y   man   cychwyn,   dyn   y   drôn   a’r dynion   karate   wedi   hen   fynd   erbyn   hyn.   Amser   i   ni   ymweld   â’r   crannog   a   dysgu   am   hanes   ein   cyndeidiau   o’r dyddiau   pell   yn   ôl.   Diwrnod   difyr   iawn   a   diolch   yn   fawr   i   John   am   drefnu   popeth   mor   dda,   hyd   yn   oed   y tywydd. Diolch yn fawr i bawb am y cwmni a’r sgyrsiau difyr. Hwyl tan y tro nesaf!
Geirfa Pregethu’r Groes - to preach the Cross Trydedd groesgad - third crusade Gwlad Sanctaidd - Holy Land Yn ddiamau - doubtless Llyn Syfaddan - Llangorse Lake Llys y Brenin - the King’s Court Iarll Henffordd - Earl of Hereford Pryfocio - to provoke Perchennog - owner Herio - to challenge Ymdrechion - efforts Gorchymyn - to order Distawrwydd - silence Addawol - promising Astudio ei lawlyfr - studying his handbook Mursennod - dragonflies Cuddfan adar - bird hide Dogn arferol - usual ration Tymheredd - temperature Honedig - alleged Diymhongar - humble Tyfiant - growth
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen