Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Llannerch a Mynydd Llanhilleth Un o Deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd   ein   taith   ni   ar   y   29ain   mis   Medi   yn   ardal   hen   bwll   glo   Llannerch   yn   ardal   Torfaen,   ac   mae’n   rhaid i   fi   fynegi   fy   niolchgarwch   i   bwy   bynnag   wnaeth   ddyfeisio’r   sustem   SatNav.   Rhan   fwyaf   o   fy   amser   dw   i’n gyrru   ar   fy   mhen   fy   hun   ac   mae   cael   merch   wybodus   ac   amyneddgar   wrth   fy   ochr   yn   gysur   mawr.   Er   hynny mae   hi   braidd   yn   anodd   mewn   ardal   hollol   ddiarth   efo   troadau   yn   agos   at   ei   gilydd   a   cheir   wedi   eu   parcio ym   mhob   man.   Ond   pa   bynnag   twll   dach   chi’n   glanio   ynddo   mae   hi   yna   efo   cyfarwyddiadau   i’ch   cael   chi allan.   Y   filltir   olaf   oedd   y   mwyaf   anodd   a   dyma   fi   yn   hollol   ufudd   yn   gwneud   tro   ffordd   hyn   a   thro   ffordd arall   ac   wrth   weld   yr   arwydd   Gypsy   Lane   am   yr   ail   waith   yn   sylweddoli   mod   i   wedi   cael   fy   nhywys   allan   o dwll   roeddwn   i’n   hollol   anymwybodol   o   fod   ynddi   o   gwbl!   Dw   i   ‘mond   yn   gobeithio   eich   bod   chi   wedi   dilyn hynny i gyd! Cyrraedd   safle   Clwb   Criced   Pontnewynydd   o’r   diwedd   ac   roedd   fy   arfer   o   wneud   popeth   efo   ‘belt   a bresys’   wedi   sicrhau   mai   fi   a’r   criw   bach   efo   fi   oedd   y   cyntaf   yno.   Cyn   bo   hir   roedd   yr   encilfa   gyferbyn   yn llawn ond roedd y Clwb Criced wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eu maes parcio. Roedd   y   diwrnod   yn   braf,   awyr   las   ym   mhob   man   a   ffwrdd   â   ni   i   mewn   i’r   cwm   a   oedd,   ar   un   adeg   yn gartref   i   bwll   glo   Llannerch.   Ena   Morris   oedd   yr   arweinydd   ac   aeth   hi   â   ni   ar   lwybr   zig   zag   i   weld   cofeb   syml er   cof   am   176   o   ddynion   a   bechgyn   a   wnaeth   golli   eu   bywydau   mewn   ffrwydrad   tanddaearol   ar   y   6ed   o Chwefror   1890.   Mae’n   hawdd   iawn   ysgrifennu   rhywbeth   fel   yna,   hawdd   iawn   ei   ddarllen   hefyd   ond   rhaid stopio   a   chymryd   amser   i   feddwl   am   y   bobl   go   iawn   a   chafodd   ei   lladd   ar   y   diwrnod   hwnnw   a’r   effaith cafodd   y   trychineb   ar   y   gymuned   glos.   Dyna   oedd   hanes   y   pyllau   glo,   canran   bychan   yn   gwneud   bywoliaeth dda   ond   y   mwyafrif   yn   dioddef   tlodi,   iechyd   gwael   a   marwolaeth.   Amser   creulon.   Trueni   nad   yw’r   gofeb mewn   lle   mwy   hysbys   ond   roedd   Ena   yn   dweud   wrthon   ni   bod   arian   yn   cael   ei   godi   am   gofeb   newydd   ac   yn gaddo   mynd   a   ni   eto   i’w   weld   yn   y   dyfodol.      Lawr   yn   y   cwm   mae   natur   wedi   bod   yn   brysur   yn   cuddio’r creithiau,   dyna   natur   natur   ond   mae’n   bwysig   ein   bod   ni   sydd   yn   byw   mewn   dyddiau   gwell   yn   dal   i   gofio'r rhai llai ffodus o’n blaenau ni. Cerdded   i   ben   ochrau’r   cwm   a   chael   y   siawns   i   weld   defaid   mewn   corlannau   yn   aros   yn   amyneddgar am   feddyginiaeth   cyn   i   ni   gerdded   yn   uwch   at   le   delfrydol   i   fwyta   ein   brechdanau.   Anhygoel,   i   ddweud   y gwir,   ein   bod   ni’n   cael   gwneud   y   fath   beth   ar   ddiwrnod   mor   gynnes   a   dim   ond   diwrnod   rhyngom   ni   a   mis Hydref.   Wedi’n   gwledd   cymryd   ychydig   o   gamau   i   gyrraedd   lle   da   i   weld   y   byd   mawr   o’n   cwmpas   ni,   gweld   yn glir, gweld yn bell. Roedd   yr   ail   ran   o’r   daith   yn   mynd   â   ni   dros   y   topiau   yn   ôl   at   geg   y   cwm   ble   wnaeth   Liz   tynnu   ein   sylw at   wledd   o   wahanol   ffwng   yn   tyfu   ar   ochr   goeden.   Dw   i’n   dweud   gwledd   er   mwyn   disgrifio'r   amrywiaeth. Cofiwch, wrth gwrs, bod yn ofalus achos dim ond un siawns dach chi’n cael i fwyta rhai mathau! Dilyn   llwybr   trwy   goed   oedd   yn   raddol   sugno’r   gwyrddni   allan   o’r   dail   er   mwyn   cael   nerth   i   wrthsefyll   y Gaeaf ac mewn dim cyrraedd ein ceir. Mawr   ddiolch   i   Ena   am   yr   holl   waith   paratoi,   am   ein   tywys   ni,   adrodd   yr   holl   hanes   ac   am   wneud   yn siŵr   bod   yr   haul   yn   tywynnu.   Croeso   unwaith   eto   i   Will   a   David   oedd   wedi   dod   o   ddyfnderau   pell   Lloegr   er mwyn   cerdded   efo   ni   a   chroeso   arbennig   i   John   a   Mali   Rowlands   oedd   efo   ni   am   y   tro   cyntaf.   Edrych   ymlaen at eich gweld chi eto. Diolch i bawb am y cwmni da - Hwyl am y tro! Geirfa Mynegi – to express Diolchgarwch – thankfulness Dyfeisio – to invent Troadau – turns (in the road) Cyfarwyddiadau – directions Ufudd – obedient Encilfa – a pull-in Cofeb – memorial Ffrwydriad tanddaearol – underground explosion Trychineb – disaster Canran bychan – a small percentage Hysbys – prominent Cuddio creithiau – to hide the scars Meddyginiaeth – medicines Camau – steps Ffwng – fungi Sugno’r gwyrddni – to suck the greenness Gwrthsefyll – to withstand
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen