Mynydd y Grug eto
Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd
Ar
ein
taith
dydd
Sadwrn
roedden
ni’n
ail
gerdded
ein
taith
blwyddyn
yn
union
yn
ôl,
nid
ein
bod
ni
wedi
methu
cwblhau’r
daith
wreiddiol
ond
achos
roedd
niwl
y
gwanwyn
wedi
ein
rhwystro
rhag
gweld
unrhyw
olygfeydd.
Roedden
ni
wedi
mynd
trwy’r
holl
fwd,
wedi
wynebu’r
her
o
40
munud
o
ddringo,
a
dringo
serth
hefyd,
cyrraedd
y
pen
uchaf,
sythu
i
bob
cyfeiriad
a
gweld
-
DIM.
Wel
heblaw
am
niwl.
Chwarae
teg
i
Glyn
Hughes,
ein
harweinydd,
roedd
o’n
bendant
bod
o’n
mynd
i
gyflawni
ei
addewid
i
ni.
Ia
mi
fyddan
ni’n
cael
y
cyfle
i
sefyll
ar
ben
Mynydd
y
Grug
a
mwynhau
golwg
oddi
uchod
o’r
cymoedd
gwyrdd
a
glân
ble
oedd
unwaith
diwydiant
trwm
a
llygredig.
Ond
roedd
popeth
yn
dibynnu
ar
y
tywydd.
Yn
ystod
yr
wythnos
roedd
pawb
yn
llawn
brwdfrydedd
am
y
pleser
o’n
blaenau
ni.
Heblaw
am
Glyn,
wrth
gwrs.
Mae
Glyn
yn
un
sydd
yn
cadw
at
ei
air
ond
nad
yw
e’n
gallu
rheoli’r
tywydd,
dim
eto
beth
bynnag
-
mae
hynny’n
waith
ar
droed
ar
hyn
o
bryd.
Felly
ar
ôl
wythnos
yn
poeni
am
y
sefyllfa
doedd
dim
syndod
i
ni
nad
oedd
ganddo
ewinedd ar ôl ar ei law dde ac roedd o hanner ffordd trwy ewinedd ei law chwith hefyd.
Rhyddhad
i
bawb
oedd
cael
diwrnod
heb
gwmwl,
braidd
yn
oer
ond
yn
glir
a
dyna
ni
wedi
casglu
yn
y
maes
parcio
yn
barod
i
fynd.
Hawdd
iawn
bydd
dweud
ein
bod
ni
wedi
anghofio’r
dringo
roedd
rhaid
i
ni
wneud
ond
na,
doedd
neb
a
oedd
ar
y
daith
wreiddiol
wedi
anghofio
o
gwbl.
Ffwrdd
â
ni
a’n
cyhyrau’n
llosgi
bron
o’r
dechrau
ond
dim
ots
am
hynny,
mae
dewrder
yn
ennill
bob
tro.
Diwedd
y
Tarmac
a’r
llwybr
yn
fwy
garw,
ond
y
tro
yma
ddim
yn
rhedeg
fel
afon,
a
chyrraedd
cae
agored
ble
roedd
defaid
yn
ymlacio
tra
bod
eu
plant
bach
yn
mwynhau'r
un
gêmau
maen
nhw’n
chwarae
bob
blwyddyn,
rhan
o’u
DNA
mae’n
siŵr.
Mae’r
dringo
bron
wedi
dod
i
ben
ac,
yn
drist,
does
dim
syndod
bod
ni’n
gweld
pentyrrau
o
sbwriel
wedi
cael ei daflu dros y lle.
Ond
welais
rywbeth
yng
nghil
fy
llygad,
rhywbeth
brown
ar
ei
fol
yr
ochr
arall
i’r
ffens,
beth
yn
y
byd
oedd
o?
Wrth
edrych
yn
fwy
manwl
gwelais
mai
tedi
bêr
oedd
o,
siŵr
o
fod
yn
ffrind
annwyl
i
ryw
blentyn
lleol.
Beth
oedd
ei
hanes?
Ac
yn
sydyn
ges
i
deimlad
od
a
sylweddoli
fod
ei
hanes
yn
cael
ei
drosglwyddo
i
fy
mhen trwy ryw fath o delepathi. Dyma’r stori.
Roedd
pobl
wedi
galw
draw
i
dŷ
Gwynfor
ac
wedi
gofyn
i’w
rieni
a
oedden
nhw
eisio
nhw
gael
gwared
â
sbwriel
oedd
wedi
bod
yng
nghornel
yr
ardd
am
rai
blynyddoedd,
dim
ond
£25
roedden
nhw
eisiau.
Mi
wnaeth
tad
Gwynfor
ofyn
am
sicrhad
bod
y
gwasanaeth
yn
gyfreithlon
ac
wedi
cael
cadarnhad
(ond
roedd
y
drwydded
yn
ôl
yn
y
swyddfa).
Wrth
iddyn
nhw
lwytho’r
sbwriel
ar
y
lori
roedd
Tedi'r
arth
wedi
dechrau
eu
plagio
a’u
cyhuddo
nhw
o
ddympio
pethau
yn
ein
cefn
gwlad.
Er
mwyn
ei
gadw’n
dawel
wnaethon
nhw
ei
daflu
ar
ben
y
sbwriel
a
ffwrdd
â
nhw
i
gyfeiriad
Mynydd
y
Grug.
Bydd
Tedi'r
arth
byth
yn
gweld
Gwynfor
eto
ac
roedd
dagrau
yn
cronni
yn
ei
lygaid,
bydd
rhaid
iddo
ddianc
a
dychwelyd.
Gwnaeth
y
lori
gyrraedd
pen
y
mynydd
ar
ôl
daith
anghyfforddus
dros
ben
a
chafodd
y
sbwriel
a
Thedi
eu
gadael
ar
ochr
y
llwybr.
Er
bod
Tedi
wedi
casglu
llawer
o
gleisiau
ar
y
ffordd
roedd
yn
benderfynol
o
ddianc.
Dringodd
y
ffens
ar
ochr
y
llwybr
a
sefyll
ar
y
pen
er
mwyn
trio
gweld
i
ba
gyfeiriad
oedd
ei
gartref
ond
collodd
ei
gydbwysedd
a
syrthiodd
ar
ei
fol
yn
y
cae.
Yn
anffodus
dyna
ddiwedd
Tedi'r
arth
ddewr.
Aaaah!
Efallai
os
bydd
tad
Gwynfor
yn darllen y stori yma bydd o a Gwynfor yn gallu mynd â fo adref. Gobeithio ynte!
Digon
o
hyn
ac
yn
ôl
at
ein
stori
ni.
Dw
i’n
falch
o
ddweud
doedd
dim
rhaid
i
Glyn
gnoi
ei
ewinedd
yn
ei
boen
am
yr
olygfa,
yn
wahanol
iawn
i’r
tro
diwethaf
roedden
ni’n
gweld
yn
bell.
Roedden
ni
ar
ben
y
byd
a
Glyn yn enwi'r pentrefi, trefi a chopâu’r mynyddoedd roedden ni’n gweld o’n cwmpas.
Pryd
o
fwyd
wedyn
cyn
ailddechrau
ar
ein
taith
tuag
at
Bedwas,
roedden
ni’n
cerdded
am
sbel
ar
wastadeddau’r
mynydd
a
golygfeydd
newydd
i’w
gweld
wrth
fynd
ymlaen.
Roedd
waliau
cerrig
ond
cerrig
fflat
a
thenau
fel
llechi
Eryri,
yn
amlwg
dyna
beth
sydd
ar
gael
yn
lleol.
Anelu
at
Mynydd
Dimlaith
rŵan
ond
cerdded
wrth
ei
throed
a
chyrraedd
Bedwas,
ble
wnaeth
Guto
Nyth
Brân
ennill
ei
ras
olaf,
a
dilyn
yr
hen
ffordd reilffordd yn ôl at ein ceir yn Nhrethomas.
Diolch
i
Glyn
am
ei
waith
paratoi
er
mwyn
sicrhau
ein
bod
ni’n
cael
taith
ddiddorol
unwaith
eto
a
hefyd
am
fod
mor
benderfynol
bod
ni’n
mynd
i
weld
y
golygfeydd
tu
ôl
i
niwl
trwchus
llynedd.
Gobeithio
bydd dy ewinedd yn tyfu’n ôl yn fuan. Diolch i bawb arall am eu cwmni a chyfeillgarwch unwaith eto.
Tan y tro nesaf.
Geirfa
Sythu - to stare
Cyflawni - to fulfil
Golwg oddi uchod - bird’s eye view
Llygredig - polluted
Gwaith ar droed - work in progress
Ewinedd - fingernails
Cyhyrau’n llosgi - muscles burning
Dewrder - bravery
Cil fy llygaid - the corner of my eye
Eu plagio - to plague them
Cleisiau - bruises
Collodd ei gydbwysedd - he lost his balance
Gwastadeddau - flat areas