Gydangilydd.cymru
Nant Gafeni a Triley Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd   ein   taith   gerdded   ar   yr   11eg   o   Fai   yn   ardal   Y   Fenni   ac   roedd   profiad   dros   y   ddwy   flynedd diwethaf   yn   dweud   wrthyf   am   osgoi   trio   cyrraedd   yr   ardal   wrth   ddefnyddio   Ffordd   Blaen   y   Cymoedd.   Mae rhywun   yn   cael   y   teimlad   bod   y   gwaith   mawr   ar   y   ffordd   wedi   bod   yn   mynd   ymlaen   am   ganrifoedd. Cymaint   mae’r   drafferth   i   gyrraedd   y   lle   mae   rheswm   da   dros   osgoi   teithiau   sydd   yn   cael   eu   cynnal   yn   yr ardal.   Ond   camgymeriad   bydd   gwneud   hynny   achos   yn   fy   mhrofiad   i   does   unlle   arall   yng   Nghymru   efo gymaint o frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg. Heb   os   nac   oni   bai   mae   hyn   yn   profi   pwysigrwydd   cadw'r   arfer   o   gael   Eisteddfod   symudol.   Gwnaeth yr   holl   frwdfrydedd   presennol   gael   ei   ysbrydoli   gan   Eisteddfod   Genedlaethol   2016.   Mae   grŵp   lleol   newydd wedi sefydlu papur bro i’r ardal sef  www.poblyfenni.cymru  - mae’n werth ei weld. Hir oes i’r brwdfrydedd! Y   man   cyfarfod   oedd   y   maes   parcio   yn   Byfield   Lane   sydd   yn   rhad   ac   am   ddim   ac   felly   oedd   bron   yn llawn.    Geoff    Davies    oedd    ein    harweinydd    a’r    peth    cyntaf    a    wnaeth    oedd    dangos    i    ni,    gyda    balchder haeddiannol,   y   berllan   gymunedol   sydd   wedi   cael   ei   greu.   Perllan   sylweddol   gyda   choed   afalau   cynhennid Cymreig   yn   ogystal   â   choed   eirin   a   gellyg.   Roedd   hyn   i   gyd   o   wir   ddiddordeb   i   mi   yn   bersonol   agos   nes   i blannu   20   o   goed   afalau   ac   un   eirinen   Dinbych   tair   blynedd   yn   ôl   -   peidiwch   â   meddwl   mod   gen   i   stad   fawr, dw i wedi plannu nhw fel cordon er mwyn gwasgu nhw i mewn. Wedi   i   ni   edmygu’r   berllan   ffwrdd   â   ni   i’r   orsaf   bws   i   ddechrau   ein   taith   a   gwerthfawrogi   unwaith   eto manteision bod yn hen ! Disgynnom   ni   o’r   bws   ar   gyrion   y   dref   i   ddilyn   llwybr   dros   gaeau.   Yn   anffodus   roedd   yr   ardal   wedi   cael glaw   trwm   dros   nos   ac   roedd   dŵr   yn   dal   yn   gorwedd   ar   y   wyneb.   Doedd   hynny   ddim   gymaint   o   broblem   ag oedd   y   gwartheg   a   oedd   braidd   yn   ofnus   ohonom   ni   o   achos   y   lloi   oedd   efo   nhw.   Doth   un   tuag   atom   ni   yn reit fygythiol ond roedd Olwen yna yn syth i’w pherswadio hi i droi yn ôl. Roeddem   ni   ar   y   ffordd   i   goed   Great   Triley   er   mwyn   gweld   y   blodyn   prin   Gwlwm   Cariad.   Roedd   hi braidd   yn   gynnar   ond   wrth   lwc   welsom   ni   ddigon   ohonyn   nhw   mewn   blodau.   Yn   ôl   ar   yr   un   llwybr   am   sbel ond   anelu   at   ffermdy   a   thrwy   gil   fy   llygad   gweld   dafad   yn   gyrru   hwyaden   ac   14   o   gywion   yn   ôl   at   y   llyn   a’u cynefin   naturiol.   Roedd   y   fam,   yn   naturiol   ar   dipyn   o   frys   a’r   cywion   yn   gwneud   yn   arbennig   o   dda   i   ddal   i fyny.   Roedd   lòg   dros   agoriad   y   ffens   o   gwmpas   y   llyn,   dim   trafferth   i’r   fam   ond   diddorol   gweld   ymdrechion y cywion i fynd drosodd. Dilyn   traciau   rŵan   o   dan   Ben   y   Fal   ac   edrych   i   lawr   at   dref   Y   Fenni.   Roedd   glaw   wedi   gaddo   am   2.00 ac   nad   oedd   gennyf   gôt   sy’n   dal   dŵr.   Cymylau   duon   yn   yr   awyr   yn   trio   edrych   yn   fygythiol   ond   mae’n cymryd mwy na hynny i fy nychryn i! Cyrraedd y ceir unwaith eto yn hollol sych a phobl y tywydd wedi methu unwaith eto. Taith   ddiddorol   a   phleserus   dros   ben.   Diolch   i   Geoff   am   ei   waith   trylwyr   yn   paratoi   ac   am   rannu   ei wybodaeth   eang   efo   ni   am   fyd   natur.   Diolch   yn   fawr   i   bawb   oedd   ar   y   daith      am   eu   cwmni   da   ac   i   bobl   Y Fenni am eu brwdfrydedd - maen nhw’n esiampl dda i ni gyd. Geirfa Ffordd Blaen y Cymoedd – Heads of the Valleys Road Yn fy mhrofiad i – in my experience Heb os nac oni bai – without any doubt Hir oes i’r brwdfrydedd – long live the enthusiasm Yn rhad ac am ddim – free of charge Haeddianol – deserved Perllan gymunedol – community orchard Coed cynhennid Cymreig – native Welsh trees Coed eirin a gellyg – plum and pear trees Manteision bod yn hen – eg bus passes Blodyn prin – rare flower Trwy gil fy llygad – through the corner of my eye Hwyaden – duck Cynefin naturiol – natural environment Ymdrechion – attempts Pen y Fal – The Sugarloaf Côt sy’n dal dŵr – waterproof coat