Diwrnod Poeth yn Nant y Moch
Am
wahanol
resymau
roeddwn
i
angen
cael
diwrnod
i
ffwrdd
gyda’r
camera
a’r
beic
yn
gwmni
i
mi.
Roeddwn
i
wedi
ymweld
â
chronfa
ddŵr
Nant
y
Moch
llawer
gwaith
ond
dim
ond
yn
y
car.
Mae
crwydro
ein
gwlad
ar
feic
yn
brofiad
hollol
wahanol,
dach
chi’n
symud
yn
fwy
araf
deg
ac
yn
gweld
a
synhwyro
llawer
mwy.
Mae
cân
yr
adar
yn
eich
clustiau
a
llawer
o
synau
eraill
i’w
fwynhau.
Dach
chi’n
fwy
agos
at
fyd
natur
ac
yn
gallu
ymlacio
a
thaflu
pwysau’r
byd
oddi
ar
eich
ysgwyddau.
Mae
ardal
Nant
y
Moch
yn
hyfryd
–
ewch
yna rywbryd.
Roeddwn
i
wedi
gadael
Abertawe
tua
9.30
y
bore
ac
wedi
dewis
mynd
trwy
Aberhonddu,
Rhaeadr
Gwy
a
Llangurig
ac
wedyn
troi
tuag
at
Aberystwyth
ar
yr
A44.
Ond
pan
nes
i
gyrraedd
Penderyn,
a
llwyddo
mynd
heibio’r
distyllfa
heb
aros,
wnaeth
Radio
Cymru
fy
atgoffa
bod
y
Sioe
Frenhinol
ymlaen
ac
yn
fy
rhybuddio
bydd
tagfeydd
yn
ardal
Llanelwedd.
Roedd
rhaid
gwneud
gwyriad
ac
felly
es
i
drwy
Aberhonddu
ac
anelu
at
Epynt.
Roedd
y
diwrnod
yn
hyfryd,
y
golau’n
wych
a
phwy
oedd
eisiau
brysio?
O’m
mlaen
i
roedd
beiciwr
yn
gwneud
yn
dda
dringo
allt
ac
mi
wnes
i
gadw
yn
ôl
tan
oedd
yn
gwbl
ddiogel
i
mi
fynd
heibio.
Mi
wnaeth
godi
ei
law
mewn
diolch.
Cyrraedd
y
man
lle
mae
golygfa
wych
o’r
wlad
i’w
weld
a
phenderfynu
tynnu
llun
unwaith
eto
-
mae
gen
i
lawer
erbyn
hyn!
Wrth
i
mi
gael
y
camera
allan
roedd
y
beiciwr
wedi
cyrraedd
a
wnaethon
ni
gyfnewid
gwên.
I
lawr
â
fi
i
dynnu
llun
tra
oedd
o’n
gwneud
ei
hun
yn
gyfforddus
i
gael
diod
ac
ychydig
o
fwyd.
Es
i
ato
i
gael
sgwrs.
“Pa
mor
bell
dach
chi
wedi
dod?”
“O
Gas-gwent”
meddai
fo
“dw
i
ar
y
ffordd
i’r
Amwythig”
“Brensiach
Annwyl”
meddaf
fi
“
mae
hynny’n
dipyn
o
bellter!”
“Wel
mi
fydda
i
wedi
gwneud
tua
200k
erbyn
i
mi
gyrraedd,
ond
mae
fy
Mam
yn
byw
yn
Aber-miwl
ac
mi
fydda
i’n
galw
yna
am
ffîd
cyn
mynd
ymlaen.”
“Byddech
chi
bron
wedi
cyrraedd
pen
y
daith
erbyn
hynny
“
meddaf
fi.
“Wel
ia,
dim ond 40k fydd ar ôl, mae hynny fel comiwt dyddiol i mi.”
Yn
ei
ugeiniau
cynnar
oedd
o
a
doedd
o
ddim
yn
fawr
o
bell
ffordd.
Roedd
o
wrth
ei
fodd
ar
gefn
beic.
Dymunais
bob
lwc
iddo
ac
es
ymlaen
yng
nghanol
cysur
y
fan.
Teimlais
fy
mod
i
ddim
ond
yn
chwarae
bod
yn feiciwr ond dyna ni, mae’n rhy hwyr yn fy mywyd i mi allu ei efelychu.
Efo
ffenestri’r
fan
ar
agor,
a
finnau’n
mwynhau
mwynder
y
gwres,
nad
oeddwn
yn
wir
sylweddoli
pa
mor
boeth
oedd
y
diwrnod.
Wrth
gyrraedd
a
disgyn
o’r
fan,
yn
sydyn
roeddwn
i’n
hollol
ymwybodol,
mae
30
gradd
wir
yn
boeth!
Ond
roeddwn
i
wedi
gwneud
y
daith,
felly
roedd
rhaid
paratoi
i
seiclo.
Ail
ddos
o
hylif
haul,
pacio’r
camera
ar
gefn
y
beic
a
ffwrdd
â
fi.
Os
dach
chi’n
meddwl
bod
y
tywydd
wedi
bod
yn
wlyb,
ewch
i weld ein cronfeydd dŵr. Maen nhw’n isel dros ben!
Y
peth
cyntaf
dw
i’n
gwneud
yw
ail
osod
y
milomedr
ond
doedd
o
ddim
yn
gweithio
o
gwbl.
Y
batri
wedi
darfod!
Ta
waeth,
croesi’r
argae
a’r
syniad
oedd
mynd
mor
bell
ag
oeddwn
i’n
gallu
mynd.
Roedd
y
ffordd
yn
codi
yn
raddol,
dim
byd
mawr
fel
arfer
ond
roedd
y
gwres
yn
chwalu
fy
egni
ac
ar
ôl
dipyn
roedd
rhaid i mi droi yn ôl. Roedd hi’n llawer haws wedyn achos roedd awel i sychu’r chwys - llawer gwell!
Dychwelid
adref
trwy
Bontarfynach,
Tregaron,
Talyllychau
a
Llandeilo.
Taith
hamddenol
efo
dim
llawer
o geir. Cyrraedd adref ar ôl diwrnod braf a theimlo’n llawer gwell.
Ond doeddwn i ddim cweit wedi gwneud 200k o seiclo!
Geirfa
Cronfa ddŵr - reservoir
Synhwyro – to sense
Synau – Sounds
Distyllfa – distillery
Sioe Frenhinol – Royal Welsh Show
Tagfeydd – traffic jams
Gwyriad – diversion (come on, you should know that by now!)
Anelu – to aim at
Golygfa wych – a splendid view
Cyfnewid – to Exchange
Ffîd – a feed
Comiwt dyddiol – daily commute
Efelychu – to imitate
Mwynder – gentleness
Gradd – degree
Wedi darfod – kaput!
Argae – dam
Yn raddol – gradually
Chwalu fy egni – destroy my energy