Gydangilydd.cymru
Parc Piercefield Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Fel   mae   pob   aelod   yn   gwybod   mae   ardal   y   de   o’r   Gymdeithas   yn   llawer   fwy   yn   ddaearegol   na’r   ddwy ardal   yn   y   gogledd   ac   yn   ymestyn   o   sir   Benfro   i   ben   pellaf   Gwent   ac   i   fyny   at   Gorris   yn   y   gogledd.   Am   y rheswm   yma   dw   i’n   cyfrif   fy   hun   yn   lwcus   fy   mod   i’n   byw   yn   Abertawe,   hanner   ffordd   rhwng   pegynau’r gorllewin   a’r   dwyrain.   Roedd   ein   taith   dydd   Sadwrn   yn   ardal   Cas-gwent,   felly   bron   i   ni   gael   ein   hunain   yn Lloegr. 70   milltir   oedd   hi   o’r   tŷ   i’r   man   cyfarfod   ac   roeddwn   i’n   reit   ffyddiog   mai   fi   fyddai’r   un   oedd   wedi gyrru’n   bellach   y   tro   hwn.   Ond   yn   anffodus   roedd   rhywun   arall   wedi   cynllwyno   i   fy   atal   rhag   cael   y   wobr. Mae’n   wir   i   ddweud   os   dach   chi   eisiau   curo   rhywun   mae’n   well   i   chi   ei   wneud   mewn   ffordd   glir   heb   unrhyw amheuaeth   o   gwbl.   Felly   yn   ddiymhongar   yn   fy   nhrechiad   mae’n   rhaid   i   mi   ddweud   bod   y   wobr   yn   gorfod mynd   i   Dereck   Stockley   a   ddaeth   yr   holl   ffordd   o   Lydaw   bell.   Dyma   oedd   y   tro   cyntaf   i   mi   ei   gyfarfod   ond roedd llawer o’r lleill yn hen ffrindiau â fo ac yn falch iawn o’i weld unwaith eto. Robin   Davies   o   Drefynwy   oedd   ein   harweinydd   a,   gan   oedd   y   daith   yn   cael   ei   gynnal   yn   ystod   wythnos Gŵyl   Cerdded   Cas-gwent   roedden   ni’n   falch   iawn   o   groesawu   Morris   a   Dorothy   i’n   mysg.   Er   mwyn   eich atgoffa roedd corwynt Hannah yn dal yn rhuo ond o leiaf roedd y tywydd yn sych. Daeth   yr   amser   i   ni   gychwyn   a   chyn   hir   roedden   ni’n   cerdded   trwy   goed   â   charpedi   o   glychau’r   gog   ar   y llawr.   Cyn   hir   roedden   ni’n   gweld   adfeilion   tŷ   crand   Piercefield   o’n   blaenau.   Roedd   digon   o   adfeilion   i   ni werthfawrogi    ei    hysblander    gynt    ac    wrth    sefyll    â’n    cefnau    at    y    tŷ    roeddem    yn    gallu    gweld    yr    olygfa ysblennydd   roedd   ei   berchnogion   blaenorol   yn   gallu   mwynhau.   Ers   eu   dyddiau   nhw,   wrth   gwrs,   mae   dwy bont enfawr yn y golwg hefyd, sef y pontydd dros yr afon Hafren. Roedd   ein   llwybr   rŵan   yn   dilyn   yr   afon   Wysg   ar   ei   filltiroedd   olaf   yn   ei   siwrne   hir.   Mae’r   afon   yn   rhedeg trwy   geunant   dwfn   gyda   choed   yn   ei   gwyrddni   newydd   ar   y   ddwy   ochr.   Pob   hyn   a   hyn   roedd   llefydd   clir   er mwyn   i   ni   fwynhau’r   golwg   o’r   afon   yn   troelli   ei   ffordd   tuag   at   y   môr.   Roedd   adegau   pan   oedd   Morus   yn   ein taro   a   ninnau’n   gorfod   ymladd   yn   ei   erbyn   er   mwyn   dal   ar   ein   traed.   Gadewch   i   mi   eich   sicrhau   nad   ydw   i’n cyfeirio   at   Morris   o   Ŵyl   Cerdded   Cas-gwent   a   oedd   yn   cerdded   efo   ni   ond   Morus   y   Gwynt,   neu   Hannah   y Corwynt a oedd yn mynnu dangos ei chryfder pob hyn a hyn. Allan   o’r   coed   rŵan   ac   roedd   Cae   Rasio   Ceffylau   Cas-gwent   yn   ei   ysblander   yn   y   pellter   agos.   I’r cyfeiriad   yna   roedden   ni’n   mynd   a   chyn   hir   roedd   y   llwybr   yn   mynd   â   ni   heibio   fferm   magu   ceffylau.   Trwy’r caeau wedyn wrth ochr goedwig a’r llawr yn las  diolch i’r clychau’r gog oedd wedi hen gartrefu yna. Roedd   y   cylch   erbyn   hyn   bron   wedi   cau   a   chyn   hir   dyma   ni   yn   ôl   wrth   y   ceir   wedi   cael   taith   hynod   o bleserus.   Diolch   i   Robin   am   ei   waith   baratoi,   am   ein   harwain   ac   am   drosglwyddo’r   holl   wybodaeth   am   yr ardal   i   ni.   Diolch   i   Morris   (nid   y   Gwynt!)   a’i   wraig   Dorothy   am   gadw   ni   at   ein   gilydd.   Ac   yn   olaf   diolch   i   bawb am gwmni difyr fel arfer. Geirfa Yn ddaearegol – geographically Pen bellaf – the far end Atal – to prevent Amheuaeth – doubt Yn ddiymhongar yn fy nhrechiad – humble in my defeat Corwynt – hurricane Clychau’r gog – bluebells Adfeilion – ruins Ysblander gynt – former splendour Ceunant dwfn – deep gorge Troelli ei ffordd – to wind its way