Gydangilydd.cymru
Pwll Du a Brandy Cove Rhan fwyaf o’r amser pan mae’r dyddiau gwlyb yn rhedeg yn fwdlyd ymlaen tuag at y dydd Sadwrn mae rhywun yn gallu derbyn pethau fel y mae heb boeni llawer. Ond pan chi sydd yn arwain mae tueddiad i boeni. A fydd y llwybrau yn iawn, bydd rywun yn cael damwain neu bydd hi’n bwrw glaw trwy’r dydd? Roeddwn i wedi troedio’r llwybr yr wythnos gynt ac roedd y rhan olaf mewn cyflwr gwael ond roedd yn hawdd ei hosgoi wrth gadw at y lôn. Fel mae’n digwydd doedd dim rhaid poeni achos mi wnaeth y diwrnod wawrio’n sych, braidd yn oer ond doedd dim gwynt - perffaith! Roedd y daith yn ardal Pwll Du, bae bydda chi byth yn gweld o’ch car. Byddech chi’n croesi’r bae os dach chi’n cerdded Llwybr yr Arfordir ond bydd ganddo’ch chi dim syniad o’r hanes diddorol sydd ynghlwm â’r lle. Mi wnaeth 24 droi fyny i gerdded a braf iawn oedd croesawu Michael a Hilary Evans a John Pritchard Jones am y tro cyntaf. Roedd y rhan o Southgate i gyrion Pwll Du ar lôn Tarmac ond doedden ni ddim arni yn hir. Ar lecyn uwchben y bae mi wnaethon ni aros am sbel i mi adrodd hanes Heather Holt. Tu ôl i mi roedd arwydd ac arni'r enw Cliff Cottage. Dyma’r bwthyn oedd teulu Heather yn rhentu fel lle i aros dros y penwythnos, hynny yw tan yr Ail Ryfel Byd pan symudon nhw yna’n llawn amser o achos y bomio ar Abertawe. Fel plentyn roedd hi’n chwarae yn y bae a gwneud ffrindiau â’r teulu Jenkins a oedd yn byw yn un o’r ddau adeilad sydd yna. Roedd hi’n hapus iawn ei byd ac roedd yr hen Mr Jenkins wrth ei fodd yn dweud wrthi am yr holl hanes, hanes oedd wedi gweithio’i ffordd o un genedl i’r llall. Roedd o’n teimlo’n gryf bod yr hanes yn bwysig ac yn poeni bydd yn diflannu ar ôl ei farwolaeth. Dwedodd wrthi am wneud yn siŵr bod hi’n ysgrifennu popeth i lawr. Mae amser yn mynd heibio, mae’r teulu yn colli’r les ar y ac, yn sydyn mae’r cysylltiad drosodd. Ond mae Heather yn priodi a blynyddoedd wedyn mae un o’r tai yn y bae, Y Beaufort, ar werth. Ia, hen dafarn oedd hi, yr adeilad arall oedd Y Ship, tafarn arall. I dorri stori hir yn fyr maen nhw a dau deulu arall yn prynu’r ac mae’r cysylltiaid yn ôl. Daeth amser pan roedd rhaid iddi weld arbenigwr yn yr ysbyty a chafodd y newyddion bod ganddi gancr. Dwedodd yr arbenigwr wrthi os oedd rywbeth roedd hi wir eisiau ei wneud bydd yn well iddi ei wneud yn syth. Roedd hyn yn ergyd fawr ond wnaeth hi gymryd y cyngor o ddifri a phenderfynu ysgrifennu llyfr am Bwll Du. Roedd yr arbenigwr yn falch iddi gael rhywbeth pwysig i wneud ond doedd o ddim wedi sylweddoli bydd ei gwaith ymchwil yn mynd â hi i Wlad yr Haf a Dyfnaint. Mae’r llyfr wnaeth hi ysgrifennu wedi cael o leiaf tri argraffiad ac mae dal ar gael. Roedd yn bwysig iddi hi, efallai roedd y llyfr yn rannol gyfrifol iddi ddod dros y cancr, pwy ag ŵyr. Ond yn fwy na hynny roedd hi wedi sicrhau bydd yr hanes ddim yn cael ei anghofio. Pwy all roi pris ar hynny? Yn ôl at y daith ac i lawr llwybr garw i’r bae. Aethon ni heibio'r Beaufort a’r Ship a mynd ymlaen i weld y traeth, yr unig draeth ar Ŵyr efo twyni cerrig yn hytrach na thwyni tywod. Y rheswm am hynny oedd bod cwarel mawr yna a’r calchfaen yn cael ei anfon ar longau i Wlad yr Haf a Dyfnaint. Dyna ble fydda nhw’n cael ei losgi a’r calch yn cael ei daenu ar y tir er mwyn ei wella. Roedd y calchfaen yn cael ei dorri o’r clogwyn a’i lusgo i’r traeth ble roedd yn cael ei dorri i ddarnau llai ac wedyn ei lwytho ar y llongau. Roedd y darnau mân yn cael ei adael ar y traeth ac mewn amser yn pentyrru i wneud y twyni cerrig sydd yn nodweddiadol o’r bae. Ond i gael golygfa oddi uchod aethon ni draw i’r ochr arall ac ail ymuno â’r llwybr. Dringo am sbel ac wedyn troi at lwybr byr yn mynd â ni at lecyn hyfryd i weld y bae yn ei holl ogoniant. Doedd dim lle gwell i gael ein bwyd! Dw i wedi bod yna llawer gwaith ac wedi mwynhau bob tro ond y tro yma roeddwn i yna efo ffrindiau Cymraeg eu hiaith. Profiad gwahanol, profiad arbennig. Doth yr haul allan i lenwi’r bae mewn golau a nes i ddwyn y cyfle o adrodd hanes y smyglo oedd yn mynd ymlaen yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd Gŵyr yn ardal gaeëdig, pawb yn adnabod ei gilydd a swyddogion y tollau yn cadw allan o’r ffordd. Tybed nhw oedd y bobl gyntaf i fabwysiadu'r syniad o ‘Iechyd a Diogelwch’? Dros y topiau wedyn cyn disgyn i lawr i Brandy Cove - does dim gwobrau am ddyfalu beth oedd yn mynd ymlaen yna! Dim ond fi oedd yn gwybod mai enw gwreiddiol y bae oedd Hareslade. Gobeithio bydd pawb yn cofio - mi fydda i’n gofyn cwestiynau rywbryd, ac yn di rybudd! Yn ôl trwy Bwll Du wedyn a dringo’r llwybr serth a garw yn ôl at Cliff Cottage cyn troedio’r hen lôn yn ôl at y ceir. Roedd rhaid i ni fynd i’r Three Cliffs Coffee Shop cyn anelu am adref achos pob prynhawn dydd Mawrth mae grŵp sylweddol o ddysgwyr yn cyfarfod yna i sgwrsio yn Gymraeg. Cawsom groeso arbennig. Dw i wedi adrodd hanes Pwll Du llawer gwaith dros y blynyddoedd mewn sawl neuadd pentref ac wedi mwynhau pob tro. Ond roedd hi’n brofiad hollol wahanol i wneud o ‘in situ’ yn enwedig pan mae rhywun arall yn taflu cyfraniad i mewn. Yn ôl at y dechrau ac ar ôl i mi ddweud hanes Heather Holt mi wnaeth John Pritchard Jones gymryd y llwyfan ac ychwanegu llawer mwy o wybodaeth amdani hi a’i gwr. Sut oedd o’n gwybod hyn? Roedd o’n was briodas iddyn nhw ac wedi rhannu eu profiadau o fywyd yn Y Beaufort. Mi gyfrannodd o eto pan oedden ni’n edmygu’r wal o gerrig o flaen y traeth ac adrodd hanes U-Boat a oedd yn arfer glanio yna er mwyn cael dŵr glân o’r afon ar gyfer y batris. Mae mor braf dysgu trwy rannu ein profiadau. Dw i’n wir gobeithio bod pawb wedi mwynhau cystal â fi. Diolch i’r Bod Mawr am agor y cymylau i lenwi’r bae â golau. Diolch i John am ei gyfraniad gwerthfawr ac i Michael a Hilary am eu cwmni. Diolch i Jamie Francis yn y Three Cliffs Coffee Shop am ei waith arbennig i greu hafan o Gymreictod yng nghanol Seisnigrwydd de Gŵyr. Ac yn olaf diolch i bawb am yr hwyl. Geirfa Fel y mae – as they are Tueddiad – tendency Osgoi – avoid Fel mae’n digwydd – as it happens Ynghlwm â’r lle – attached to the place Les – lease Arbenigwr – specialist Cancr – cancer Ergyd fawr – a big blow Gwaith ymchwil – Research work O leiaf – at least Argraffiad – print run Llwybr garw – rough path Twyni cerrig – stone dunes Twyni tywod – sand dunes Cwarel – quarry Calchfaen – limestone Taenu – to spread Clogwyn – cliff Llusgo – to drag Pentyrru – to pile up Nodweddiadol – typical Oddi uchod – from above Ardal gaeëdig – closed area Dyfalu – to guess Di rybudd – without warning Anelu am adref – head for home Gwas briodas – best man Cyfrannu – to contribute