Gydangilydd.cymru
Wisemans Bridge Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Wel sut alla i ddechrau ysgrifennu’r adroddiad yma gan mai fi oedd yn arwain y daith? Petaswn i’n ysgrifennu adroddiad hollol ddiymhongar byddech chi wedi diflasu cyn i chi ddarllen ei hanner ac na fydda i wedi cael y clod dw i wir yn haeddu. Ar y llaw arall petaswn i’n dweud y gwir am ba mor dda oeddwn i wedi bod yn trosglwyddo fy ngwybodaeth am fro fy arddegau mewn ffordd mor ffraeth byddech chi’n teimlo fy mod i’n brolio gormod. Yn y pendraw mae’r gwir yn tueddu dod allan – cawn ni weld. Roedd pawb wedi cyrraedd - 14 ohonom ni a chasglom ni wrth ochr y bont sydd yn rhan o’r pentrefan yma. Pwy oedd Wiseman? Wel mi oedd ei gyd farchogion yn ei adnabod fel Andrew ac roedd ganddo dir yn yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae o wedi marw erbyn hyn - heddwch i’w lwch! Ond roedd llawer yn mynd ymlaen yma yn ystod yr ail ryfel byd achos rhwng yma a Phentywyn oedd un o’r ardaloedd roedden ni’n ymarfer ar gyfer glaniad D-Day. Mae perchennog y dafarn yn dal i frolio bod Winston Churchill yn prynu ei sigarau yno. Digon am hyn, mae’n rhaid i ni fod ar ein ffordd i weld safle’r hen waith haearn Stepaside felly dewch efo fi i ddilyn yr hen reilffordd. Mae adfeilion yn hen weithle yn wir yn gwneud argraff arnoch ac os nad ydych yn wir yn gallu dychmygu’n iawn sut yr oedd pan oedd yn gweithio mae hysbysfwrdd yna i’ch sbarduno. Ond yn cuddio yn y coed tu ôl i’r gwaith roedd rywbeth arall i gwblhau'r stori felly rhaid dringo grisiau i gyrraedd trac arall. Cyn bo hir dyna ni wedi cyrraedd safle pwll glo Y Grove. Dyma’r pwll oedd yn cyflenwi glo i’r gwaith haearn. Roedd y mwyn yn cael ei gloddio o’r clogwyni rhwng Amroth a Coppet Hall. Diwydiant lleol yn wir ystyr y term. Mynd ymlaen a gwneud ein ffordd trwy ochr y safle carafanau i gyrraedd y ffordd yn ôl i Wisemans Bridge wedyn cerdded trwy’r twneli i draeth Coppet Hall. A dyma gyfrinach i chi, rywbeth nad oes llawer o’r trigolion yn gwybod hyd yn oed. Pam yr enw Coppet Hall? Faint bynnag ydach chi’n syllu ar fap OS byddech chi ddim yn dod ar draws neuadd o’r enw achos does dim. Gadewch i mi fynd â chi yn ôl mewn amser i’r cyfnod cyn i’r harbwr cael ei adeiladu a chyn bodolaeth y rheilffordd. Mae cwm yn mynd o’r traeth i fyny at yr eglwys milltir i ffwrdd ac ar y ffordd roedd llawer o byllau o byllau siâp gloch, hyd yn oed tu ôl i’r eglwys hefyd. Roedd rhaid i’r glo cael ffordd i gyrraedd y môr a dilyn y ffordd o’r enw “The Black Walk” oedden nhw'r holl ffordd i Coppet Hall. O’r traeth yma roedd y glo yn cael ei lwytho ar y llongau a draw i wledydd pell, pell i ffwrdd. Enw’r traeth yn wreiddiol oedd “Coal Pit Haul”. Y dyddiau yma pan mae twristiaeth mor bwysig mae “Coppet Hall Beach” yn enw llawer gwell er mwyn denu ymwelwyr ond ydi? Ac ar ôl dweud y stori yna wrth bawb wnaethon ni wasgaru ein hunain ar y creigiau i gael ein picnic yn yr haul cynnes. Teimlad nostalgic i mi achos dyma ble fydd ein teulu ni’n dŵad i gael picnic at ôl yr ysgol. Roedd y llanw ar y ffordd allan ac roedden ni’n gallu cerdded ar y traeth i Saundersfoot. Tan oes Elisabeth 1af doedd dim sôn am le o’r enw ac yn wir roedd ardal fawr yn cynnwys Saundersfoot, Wooden Kilgetty, Sardis a Wisemans Bridge yn un goedwig fawr o’r enw Coedrath (enw’r afon sydd yn rhedeg i’r môr yn Amroth yw Y Rath). Roedd Edward 1af yn mwynhau hela yn y goedwig. . Yn y dyddiau cynnar pan oedd y Ffleminaidd yn ymdrechu i gadw’r Cymry draw roedd Cadell, mab hynaf Gruffudd ap Rhys a thywysog de Cymru yn hela yn yr ardal. Gwnaeth grŵp o’r Ffleminiaid ymosod arno a’i fintai a chafodd Cadell ei anafu’n ddifrifol ond wnaethon nhw lwyddo i ddianc. Roedd hyn tua 1149 ac yn 1150 wnaeth brodyr Cadell, Meredydd a Rhys ymosod ar Ddinbych y Pysgod yn ystod y nos, lladd y garsiwn a dymchwel y dref yn llwyr. Roedd taeogion yn gweithio yn y goedwig yn torri coed a mawn, cadw moch a gwenyn ac yn cloddio am lo ond glo i ddefnyddio yn lleol oedd hyn. Yr enw Saundersfoot. Mae cofnodion yn dangos bod Walter Elisaunder, melinydd, wedi talu rhent am ddyfrffos yn ôl yn 1332. Efallai Elisaunder’s Ford oedd yr enw gwreiddiol a dros y blynyddoedd mae hynny wedi newid i Saundersfoot. Yn 1529 cafodd William Williams les am saith mlynedd am yr holl byllau glo yn Coedrath a rhoi’r hawl iddo eu hail adeiladu am £2-6s -8d y flwyddyn. Dyma ddechrau diwydiant mawr a llawer o byllau yn cael ei agor. Yn y pendraw roedd rhaid cael rheilffordd a harbwr. Gwnaeth y diwydiant ddod i ben yng nghanol tridegau’r ganrif ddiwethaf a natur a dyn wedi llwyddo i guddio bron pob arwydd o’r cyfnod. Yn ôl i Coppet Hall wedyn ond dilyn y cwm at yr eglwys ble ges i agoriad llygaid a gweld cerrig beddau haearn (os allech chi gael “cerrig” beddau wedi eu gwneud o haearn). Pan oedden ni’n byw yma roedd y fynwent yn anialwch llwyr ond er hynny roedd y cerrig haearn wedi para’n arbennig o dda a’r ysgrifen yn glir i’w weld. Yn eu mysg roedd carreg bedd yn cyfeirio at John Phillips o Coalpithall bu farw ar yr 2il o Ionawr 1869 yn 19 oed. Roedd arwain y daith yma yn bleser mawr i mi nid dim ond am fy nghysylltiad â’r ardal ond hefyd y cyfle i mi siarad am ei hanes, crwydro hen lwybrau ar ddiwrnod heulog braf mewn cwmni ffrindiau Cymraeg. Pwy fydd eisiau mwy? Diolch yn fawr iawn i John Lloyd Jones am ddweud wrthon ni am y cerrig bedd ac, wrth wneud, ychwanegu at ddiwrnod diddorol. Ac i’r tri ar ddeg a wnaeth fy nilyn yn ffyddlon - diolch yn fawr am eich cwmni ardderchog. Mi wnes i wir mwynhau! Geirfa Diymhongar – humble Diflasu – to be bored Clod – praise Pentrefan – small village Marchog – knight Pentywyn – Pendine Brolio – to boast Gwaith haearn – iron Works Cyflenwi – to supply Mwyn – minerals (in this case iron ore) Bodolaeth – existence Pyllau siâp gloch – bell pits Gwasgaru – to spread out Hela – to hunt Ffleminiaid – Flemings Mintai – band (of soldiers) Dyfrffos – watercourse Les – lease Mynwent – graveyard Anialwch – wilderness Yn eu mysg – among them
Gydangilydd.cymru
Wisemans Bridge Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Wel sut alla i ddechrau ysgrifennu’r adroddiad yma gan mai fi oedd yn arwain y daith? Petaswn i’n ysgrifennu adroddiad hollol ddiymhongar byddech chi wedi diflasu cyn i chi ddarllen ei hanner ac na fydda i wedi cael y clod dw i wir yn haeddu. Ar y llaw arall petaswn i’n dweud y gwir am ba mor dda oeddwn i wedi bod yn trosglwyddo fy ngwybodaeth am fro fy arddegau mewn ffordd mor ffraeth byddech chi’n teimlo fy mod i’n brolio gormod. Yn y pendraw mae’r gwir yn tueddu dod allan cawn ni weld. Roedd pawb wedi cyrraedd - 14 ohonom ni a chasglom ni wrth ochr y bont sydd yn rhan o’r pentrefan yma. Pwy oedd Wiseman? Wel mi oedd ei gyd farchogion yn ei adnabod fel Andrew ac roedd ganddo dir yn yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae o wedi marw erbyn hyn - heddwch i’w lwch! Ond roedd llawer yn mynd ymlaen yma yn ystod yr ail ryfel byd achos rhwng yma a Phentywyn oedd un o’r ardaloedd roedden ni’n ymarfer ar gyfer glaniad D-Day. Mae perchennog y dafarn yn dal i frolio bod Winston Churchill yn prynu ei sigarau yno. Digon am hyn, mae’n rhaid i ni fod ar ein ffordd i weld safle’r hen waith haearn Stepaside felly dewch efo fi i ddilyn yr hen reilffordd. Mae adfeilion yn hen weithle yn wir yn gwneud argraff arnoch ac os nad ydych yn wir yn gallu dychmygu’n iawn sut yr oedd pan oedd yn gweithio mae hysbysfwrdd yna i’ch sbarduno. Ond yn cuddio yn y coed tu ôl i’r gwaith roedd rywbeth arall i gwblhau'r stori felly rhaid dringo grisiau i gyrraedd trac arall. Cyn bo hir dyna ni wedi cyrraedd safle pwll glo Y Grove. Dyma’r pwll oedd yn cyflenwi glo i’r gwaith haearn. Roedd y mwyn yn cael ei gloddio o’r clogwyni rhwng Amroth a Coppet Hall. Diwydiant lleol yn wir ystyr y term. Mynd ymlaen a gwneud ein ffordd trwy ochr y safle carafanau i gyrraedd y ffordd yn ôl i Wisemans Bridge wedyn cerdded trwy’r twneli i draeth Coppet Hall. A dyma gyfrinach i chi, rywbeth nad oes llawer o’r trigolion yn gwybod hyd yn oed. Pam yr enw Coppet Hall? Faint bynnag ydach chi’n syllu ar fap OS byddech chi ddim yn dod ar draws neuadd o’r enw achos does dim. Gadewch i mi fynd â chi yn ôl mewn amser i’r cyfnod cyn i’r harbwr cael ei adeiladu a chyn bodolaeth y rheilffordd. Mae cwm yn mynd o’r traeth i fyny at yr eglwys milltir i ffwrdd ac ar y ffordd roedd llawer o byllau o byllau siâp gloch, hyd yn oed tu ôl i’r eglwys hefyd. Roedd rhaid i’r glo cael ffordd i gyrraedd y môr a dilyn y ffordd o’r enw “The Black Walk” oedden nhw'r holl ffordd i Coppet Hall. O’r traeth yma roedd y glo yn cael ei lwytho ar y llongau a draw i wledydd pell, pell i ffwrdd. Enw’r traeth yn wreiddiol oedd “Coal Pit Haul”. Y dyddiau yma pan mae twristiaeth mor bwysig mae “Coppet Hall Beach” yn enw llawer gwell er mwyn denu ymwelwyr ond ydi? Ac ar ôl dweud y stori yna wrth bawb wnaethon ni wasgaru ein hunain ar y creigiau i gael ein picnic yn yr haul cynnes. Teimlad nostalgic i mi achos dyma ble fydd ein teulu ni’n dŵad i gael picnic at ôl yr ysgol. Roedd y llanw ar y ffordd allan ac roedden ni’n gallu cerdded ar y traeth i Saundersfoot. Tan oes Elisabeth 1af doedd dim sôn am le o’r enw ac yn wir roedd ardal fawr yn cynnwys Saundersfoot, Wooden Kilgetty, Sardis a Wisemans Bridge yn un goedwig fawr o’r enw Coedrath (enw’r afon sydd yn rhedeg i’r môr yn Amroth yw Y Rath). Roedd Edward 1af yn mwynhau hela yn y goedwig. . Yn y dyddiau cynnar pan oedd y Ffleminaidd yn ymdrechu i gadw’r Cymry draw roedd Cadell, mab hynaf Gruffudd ap Rhys a thywysog de Cymru yn hela yn yr ardal. Gwnaeth grŵp o’r Ffleminiaid ymosod arno a’i fintai a chafodd Cadell ei anafu’n ddifrifol ond wnaethon nhw lwyddo i ddianc. Roedd hyn tua 1149 ac yn 1150 wnaeth brodyr Cadell, Meredydd a Rhys ymosod ar Ddinbych y Pysgod yn ystod y nos, lladd y garsiwn a dymchwel y dref yn llwyr. Roedd taeogion yn gweithio yn y goedwig yn torri coed a mawn, cadw moch a gwenyn ac yn cloddio am lo ond glo i ddefnyddio yn lleol oedd hyn. Yr enw Saundersfoot. Mae cofnodion yn dangos bod Walter Elisaunder, melinydd, wedi talu rhent am ddyfrffos yn ôl yn 1332. Efallai Elisaunder’s Ford oedd yr enw gwreiddiol a dros y blynyddoedd mae hynny wedi newid i Saundersfoot. Yn 1529 cafodd William Williams les am saith mlynedd am yr holl byllau glo yn Coedrath a rhoi’r hawl iddo eu hail adeiladu am £2-6s -8d y flwyddyn. Dyma ddechrau diwydiant mawr a llawer o byllau yn cael ei agor. Yn y pendraw roedd rhaid cael rheilffordd a harbwr. Gwnaeth y diwydiant ddod i ben yng nghanol tridegau’r ganrif ddiwethaf a natur a dyn wedi llwyddo i guddio bron pob arwydd o’r cyfnod. Yn ôl i Coppet Hall wedyn ond dilyn y cwm at yr eglwys ble ges i agoriad llygaid a gweld cerrig beddau haearn (os allech chi gael “cerrig” beddau wedi eu gwneud o haearn). Pan oedden ni’n byw yma roedd y fynwent yn anialwch llwyr ond er hynny roedd y cerrig haearn wedi para’n arbennig o dda a’r ysgrifen yn glir i’w weld. Yn eu mysg roedd carreg bedd yn cyfeirio at John Phillips o Coalpithall bu farw ar yr 2il o Ionawr 1869 yn 19 oed. Roedd arwain y daith yma yn bleser mawr i mi nid dim ond am fy nghysylltiad â’r ardal ond hefyd y cyfle i mi siarad am ei hanes, crwydro hen lwybrau ar ddiwrnod heulog braf mewn cwmni ffrindiau Cymraeg. Pwy fydd eisiau mwy? Diolch yn fawr iawn i John Lloyd Jones am ddweud wrthon ni am y cerrig bedd ac, wrth wneud, ychwanegu at ddiwrnod diddorol. Ac i’r tri ar ddeg a wnaeth fy nilyn yn ffyddlon - diolch yn fawr am eich cwmni ardderchog. Mi wnes i wir mwynhau! Geirfa Diymhongar – humble Diflasu – to be bored Clod – praise Pentrefan – small village Marchog – knight Pentywyn – Pendine Brolio – to boast Gwaith haearn – iron Works Cyflenwi – to supply Mwyn – minerals (in this case iron ore) Bodolaeth – existence Pyllau siâp gloch – bell pits Gwasgaru – to spread out Hela – to hunt Ffleminiaid – Flemings Mintai – band (of soldiers) Dyfrffos – watercourse Les – lease Mynwent – graveyard Anialwch – wilderness Yn eu mysg – among them