Gydangilydd.cymru

Y Plygain

Yr her fwyaf i ni sydd yn edrych ar ôl Cymdeithas Ceredigion a Thŷ’r Cymry yw gwneud yn siŵr bod gynnon ni siaradwyr diddorol. Llynedd roeddwn i wedi cysylltu â’r actores Rhian Morgan i siarad â ni am Y Plygain. Mae Rhian wedi bod yn weithgar iawn yn cyflwyno’r Plygain i ardal Llandeilo ac roedden ni eisio gwybod mwy. Beth roedden ni’n disgwyl oedd Rhian i siarad efo ni ond mi wnaeth hi’n well na hynny, wnaeth hi ddod ag wyth o’r Plygainiars. A dyna’r ffordd gorau i gyflwyno syniad Y Plygain. Mi wnaethon nhw orymdeithio i mewn wrth ganu ac wrth gwrs achos roedden ni wedi mwynhau safon y canu mi wnaeth bawb ddangos eu gwerthfawrogiad wrth roi cymeradwyaeth. Camodd un dyn ymlaen i ddarllen testun i ni ond cyn iddo ddechrau gofynnodd i ni beidio rhoi cymeradwyaeth achos gwasanaeth oedd Y Plygain. O hynny ymlaen roedd rhaid i’n dwylo fod yn dawel, nid peth hawdd oedd hynny! Bron bod rhaid i ni eistedd arnyn nhw. Roedden ni wedi cael cyfarfod i’w gofio, ond roedd cyfle i ni gael fwy o’r fath adloniant achos yr wythnos wedyn roedd gwasanaeth Y Plygain yn cael ei gynnal yn Llandeilo. Mi aeth saith ohonom ni yna a chael gwir flas Y Plygain. Roedd grwpiau mawr, pedwarawdau, triawdau, deuawdau a hefyd unawdau yn codi a gwneud eu ffyrdd i flaen y capel a chanu. Roedd yn wefreiddiol, ias yn rhedeg i lawr eich cefn trwy’r amser. Does dim trefn wedi ei osod, mae pobl yn codi a chanu a phan roedd pawb wedi cyfrannu cawsom wasanaeth byr cyn dechrau’r ail gylch. Pawb yn dod i fyny eto yn yr un drefn. Ar y diwedd roedden nhw i gyd yn dod at ei gilydd i ganu’r gân olaf. Wow! Roedd hyn i gyd wedi cymryd dros ddwy awr ac, er roedd ein sedd wedi dechrau mynd yn galed erbyn y diwedd, roedd y cyfan yn bleser pur. Siawns i gael paned a thipyn o luniaeth a sgwrsio yn y neuadd drws nesaf wedyn. Ar daith Cymdeithas Edward Llwyd y diwrnod gynt roeddwn i wedi cyfarfod merch oedd yn rhedeg ei llygad dros gylchlythyr roeddwn i’n cynhyrchu i ddysgwyr. Roedd hyn siŵr o fod ugain mlynedd yn ôl, roedd hi a’i grŵp yn canu yna, meddyliwch rywun heb ei gweld am ugain mlynedd ac yn sydyn dwywaith mewn dau ddiwrnod. Gall hynny ddim ond digwydd yng Nghymru! Hefyd yn y neuadd welais i’r tiwtor a wnaeth addysgu ysgrifennu Cymraeg creadigol i mi, a hynny’n mynd yn ôl i’r un cyfnod, cawsom sgwrs ddifyr iawn ac mi nes i’w ddiolch am yr addysg. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi, wedi agor drysau a rhoi llawer o hyder i mi yn yr iaith Gymraeg. Roeddwn eisio gwneud yn siŵr bod o’n gwybod faint o wahaniaeth oedd o wedi gwneud i mi. Diolch yn fawr Cyril Jones! Ers hynny dw i wedi dysgu bod Y Plygain yn cael ei gynnal yn yr eglwys ym Mhontarddulais hefyd. Gobeithio yn y dyfodol bydden ni’n cael mwy o bobl i ddod efo ni a chreu grŵpîs teithiol go iawn! Mae’r Plygain yn rhywbeth arbennig i ni’r Cymry ac yn fynegiant o’n hoffter canu a’n ffydd. Mae’n dda bod mwy a mwy o bobl yn cael eu cyflwyno iddo. Mae’n ffordd i ni ddod at ein gilydd i fwynhau ac i ymfalchïo yn ein traddodiadau ac i ddeall pam mae Cymru yn cael ei chyfeirio at fel ‘Gwlad y Gân’. Rheswm da am falchder.

Geirfa

Gorymdeithio – to process, march Gwerthfawrogiad – appreciation Cymeradwyaeth – to show appreciation Gwefreiddiol – thrilling Lluniaeth – refreshment Rhedeg ei llygad dros – cast her eye over