Gydangilydd.cymru

Yr MBA Gymreig

Gofynnwch i rywun beth mae’r talfyriad MBA yn golygu a bydden nhw’n eich ateb gyda ‘Master of Business Administration’ ac mae’n hollol gywir. Dyna yw’r prif gymhwyster yn y byd busnes mawr ac mae’n gymhwyster sydd yn agor drysau, drysau sydd ar gau i ni, y bobl gyffredin. Ond os dw i’n dweud wrthoch chi bod gan bob un ohonon ni sydd yn siarad Cymraeg MBA hefyd ond i ni mae’r talfyriad yn golygu ‘Mantais Busnes Arbennig’ (USP, Unique Selling Point yn Saesneg) ac os yw’r rhai ohonon ni sydd yn rhedeg busnes yn defnyddio ein MBA bydden ni’n gallu llwyddo lle mae’r lleill heb yr MBA yn methu. Yn y byd Seisnig mae pawb yn chwilio am ei USP (Unique Selling Point) ac os ydyn nhw’n llwyddo i greu un wrth gael peiriant neu wasanaeth newydd maen nhw ar y blaen, am ychydig o amser. Wedyn mae’r gystadleuaeth yn gorfod dal i fyny gyda nhw a pan maen nhw’n dal i fyny maen nhw’n gyfartal unwaith eto. Mae’r USP yn bwysig iawn ond, mewn amser mae’r gystadleuaeth yn dal i fyny achos, yn syml, dim ond buddsoddi yn yr un peiriannau neu newid y ffordd o wasanaethu sydd rhaid. Iawn, dw i’n gwybod bod hynny yn gwneud pethau yn swnio’n syml iawn ond gobeithio eich bod chi’n gweld y pwynt Dwedwch fod ni’n rhedeg gwesty neu fusnes gwely a brecwast, os dyn ni’n gall mi fydden ni’n ddechrau’r proses o chwilio am ein MBA. Mae'n rhaid i ni feddwl os oes anghenion arbennig gan ganran fawr ohonyn nhw sydd yn ymweld â’n gwlad. Beth am y Cymry Cymraeg? Allwn ni gynnig gwasanaeth arbennig iddyn nhw, gwasanaeth sydd yn brin iawn, gwasanaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hynny’n MBA ac yn fwy pwysig dydy o ddim yn dibynnu ar rywbeth allech chi brynu, maen rhan o’n sgiliau arbennig ni. Does neb yn gallu dwyn y fantais hynny oddi wrthon ni heb iddyn nhw fynd trwy’r proses o ddysgu’r iaith a chynnig gwasanaeth Gymraeg. Wrth wneud hynny mi fydden nhw’n cyfrannu at wneud yr iaith yn gryfach ac mae’r iaith yn ennill. Mae llawer o’r Cymry wedi symud allan o Gymru a phob tro maen nhw’n dod yn ôl ar wyliau maen nhw’n teimlo mwy a mwy fel dieithriaid. Petaswn ni’n gallu creu sefyllfa lle maen nhw’n teimlo’n fwy cartrefol yma tybed fydden nhw’n teimlo fel symud yn ôl wrth iddyn nhw ymddeol. Cryfhau’r iaith yng Nghymru a chael mwy o’r Cymry Cymraeg i symud yn ôl - bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth ar yr ochr orau. Felly os dach chi’n rhedeg gwesty neu le gwely a brecwast ac yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg, dwedwch hynny ar eich gwefan - efallai bod rhywun yn chwilio amdanoch chi! Ac anfonwch eich manylion i mi er mwyn i mi eich cynnwys ar y rhestr!

Yr MBA Gymreig

Gofynnwch i rywun beth mae’r talfyriad MBA yn golygu a bydden nhw’n eich ateb gyda ‘Master of Business Administration’ ac mae’n hollol gywir. Dyna yw’r prif gymhwyster yn y byd busnes mawr ac mae’n gymhwyster sydd yn agor drysau, drysau sydd ar gau i ni, y bobl gyffredin. Ond os dw i’n dweud wrthoch chi bod gan bob un ohonon ni sydd yn siarad Cymraeg MBA hefyd ond i ni mae’r talfyriad yn golygu ‘Mantais Busnes Arbennig’ (USP, Unique Selling Point yn Saesneg) ac os yw’r rhai ohonon ni sydd yn rhedeg busnes yn defnyddio ein MBA bydden ni’n gallu llwyddo lle mae’r lleill heb yr MBA yn methu. Yn y byd Seisnig mae pawb yn chwilio am ei USP (Unique Selling Point) ac os ydyn nhw’n llwyddo i greu un wrth gael peiriant neu wasanaeth newydd maen nhw ar y blaen, am ychydig o amser. Wedyn mae’r gystadleuaeth yn gorfod dal i fyny gyda nhw a pan maen nhw’n dal i fyny maen nhw’n gyfartal unwaith eto. Mae’r USP yn bwysig iawn ond, mewn amser mae’r gystadleuaeth yn dal i fyny achos, yn syml, dim ond buddsoddi yn yr un peiriannau neu newid y ffordd o wasanaethu sydd rhaid. Iawn, dw i’n gwybod bod hynny yn gwneud pethau yn swnio’n syml iawn ond gobeithio eich bod chi’n gweld y pwynt Dwedwch fod ni’n rhedeg gwesty neu fusnes gwely a brecwast, os dyn ni’n gall mi fydden ni’n ddechrau’r proses o chwilio am ein MBA. Mae'n rhaid i ni feddwl os oes anghenion arbennig gan ganran fawr ohonyn nhw sydd yn ymweld â’n gwlad. Beth am y Cymry Cymraeg? Allwn ni gynnig gwasanaeth arbennig iddyn nhw, gwasanaeth sydd yn brin iawn, gwasanaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hynny’n MBA ac yn fwy pwysig dydy o ddim yn dibynnu ar rywbeth allech chi brynu, maen rhan o’n sgiliau arbennig ni. Does neb yn gallu dwyn y fantais hynny oddi wrthon ni heb iddyn nhw fynd trwy’r proses o ddysgu’r iaith a chynnig gwasanaeth Gymraeg. Wrth wneud hynny mi fydden nhw’n cyfrannu at wneud yr iaith yn gryfach ac mae’r iaith yn ennill. Mae llawer o’r Cymry wedi symud allan o Gymru a phob tro maen nhw’n dod yn ôl ar wyliau maen nhw’n teimlo mwy a mwy fel dieithriaid. Petaswn ni’n gallu creu sefyllfa lle maen nhw’n teimlo’n fwy cartrefol yma tybed fydden nhw’n teimlo fel symud yn ôl wrth iddyn nhw ymddeol. Cryfhau’r iaith yng Nghymru a chael mwy o’r Cymry Cymraeg i symud yn ôl - bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth ar yr ochr orau. Felly os dach chi’n rhedeg gwesty neu le gwely a
Gydangilydd.cymru